Diweddariadwedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst
Wedi i seremoni'r bore ddod i ben, mae gorymdaith yr Orsedd yn gadael y Pafiliwn erbyn hyn.
Gwynfor Dafydd yn ennill y Goron ac yn cael ei gofleidio gan ei fam ar y llwyfan
Medal i gofio cyfraniad arbennig R Alun Evans
Trefniadau wedi 'mynd fel watsh' dros y penwythnos cyntaf, yn ôl prif weithredwr yr ŵyl
Yr Archdderwydd newydd, Mererid Hopwood yn croesawu aelodau newydd i Orsedd Cymru
Seremoni urddo'r Orsedd wedi'i chynnal yn y Pafiliwn oherwydd y tywydd
Wedi i seremoni'r bore ddod i ben, mae gorymdaith yr Orsedd yn gadael y Pafiliwn erbyn hyn.
Mae nifer o ddigwyddiadau yn y Pentref Plant eleni, gan gynnwys sioeau, gweithgareddau a gŵyl goedwig ble bydd cyfle i adeiladu den, hamocs a rhostio malws!
Dyma Mali, yn barod am y cyfan yn ei Steddfod gyntaf.
A hithau ond yn 23, Elan Rhys Rowlands o Gaernarfon yw un o'r ieuengaf erioed i ddylunio Coron yr Eisteddfod Genedlaethol.
Wedi graddio o Brifysgol Birmingham, dywedodd mai dylunio'r goron oedd y "job gynta', yn yr wythnos gynta'" ar ôl dechrau yn ei swydd gyda chwmni Neil Rayment Goldsmiths.
Dywedodd ei bod yn "teimlo mor lwcus" o gael cyfle o'r fath mor gynnar yn ei gyrfa, ac mae hi'n gobeithio gweld mwy o gyfleoedd i bobl ifanc i arbenigo yn y maes yn y dyfodol.
Mae nodau'r anthem genedlaethol a phont Pontypridd yn rhan o'r goron eleni.
Mae Betsan Moses yn dweud fod yr Eisteddfod yn parhau i roi pwyslais ar gynaliadwyedd wrth geisio symud tuag at ŵyl fwy gwyrdd.
Mae’r Eisteddfod fwy trefol eleni wedi bod yn gyfle i fwy fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus i deithio i’r maes, ond nid dyna’r unig fantais bosib.
“Yn gonfensiynol, byddai’r Eisteddfod yn gofyn am 175 erw o dir fflat” er mwyn cynnal yr ŵyl.
Ond nawr, meddai, “mae’n rhaid i ni fod yn greadigol ac edrych yn wahanol” wrth fynd i ardaloedd fel Cymoedd y de.
“Dyna fel y’ch chi’n newid yr agwedd a sicrhau bod pobl yn cael cyfle i glywed y Gymraeg,” meddai.
Wrth iddi ymgymryd â’i dyletswydd gyntaf yr wythnos hon, fe alwodd yr Archdderwydd newydd am heddwch yn ystod y seremoni i urddo aelodau newydd i’r Orsedd.
Yn siarad o lwyfan y pafiliwn, ar ôl i’r seremoni symud dan do oherwydd y tywydd, fe soniodd Mererid Hopwood bod angen edrych ar y byd mewn ffordd cwbl wahanol.
Galwodd am wario ar bethau gwahanol “nid gwario arfau ond celfyddyd, dysg a chwarae teg”.
Fe gyfeiriodd at y terfysgoedd diweddar yn rhannau o Loegr, gan ddweud bod yr “alwad am heddwch yn daer ar strydoedd dinasoedd yr ynys hon ac yn y byd”.
Fe soniodd at gysylltiadau diwylliannol ardal yr Eisteddfod, a gan gyfeirio at bont enwog Pontypridd a phwysigrwydd codi pontydd, a “chreu pontydd lliwgar amrywiol ar y maes, yng Nghymru a’r byd.”
Alison Mamiaith - enw gorseddol Alison Roberts, enillydd dysgwr y flwyddyn 2023.
Siân Grug, sef y gyflwynwraig Siân Thomas yn cyfarch Seremoni Gorsedd Cymru yn y Pafiliwn.
Mae gwreiddiau ei theulu ym mhentref Tresalem, a bu Siân yn trafod ardal yr Eisteddfod eleni mewn rhifyn arbennig o Bwrw Golwg ar Radio Cymru.
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses yn dweud fod “nifer sylweddol” o bobl leol a chymunedau difreintiedig wedi manteisio ar docynnau am ddim dros y penwythnos.
Ychwanegodd bod rhai wedi mwynhau cymaint nes eu bod wedi talu i ddod yn ôl ddoe i “wledda ar ddiwylliant Cymreig”.
Ychwanegodd bod pobl wedi bod yn defnyddio’r trenau a bysus i gyrraedd y maes, a’u bod yn “gofyn i bobl barhau i wneud hynny”.
“Mae popeth yn mynd yn hwylus iawn,” meddai.
Mae'r anrhydeddau blynyddol yn gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau, ac maen nhw'n cael eu rhannu i dri chategori:
Mae'r Archdderwydd, Mererid Hopwood yn croesawu aelodau newydd i Orsedd Cymru yn y Pafiliwn bore 'ma
Cafodd enwau'r rhai sy'n cael eu derbyn drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eu cyhoeddi ym mis Mai.
Mae'r sawl sydd ar y rhestr yn cael eu anrhydeddu am "eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a'u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".
Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau yma.
Bydd cyfarchiad barddol i'r aelodau newydd, ac mae cynrychiolwyr o'r gwledydd Celtaidd a Gorsedd Y Wladfa hefyd yn rhan o'r seremoni.
Mae'r pafiliwn yn llawn ar gyfer seremoni urddo'r Orsedd
Bydd Shân Cothi, Steffan Rhys Hughes a Ffion Emyr yn darlledu o'r Maes ar Radio Cymru o 11:00 ymlaen heddiw, gyda digonedd o gystadlu a hwyl o'r Eisteddfod.
Yna am 18:00 bydd Iwan Griffiths a'i westeion yn trafod straeon mawr ac uchafbwyntiau'r dydd ar raglen Tocyn Wythnos.
Cyn hynny, gallwch ddod i adnabod hanes ac enwogion ardal yr Eisteddfod yn well trwy wrando ar raglen Placiau Glas Rhondda Cynon Taf gyda Shelley Rees ar BBC Sounds.
Merched y Wawr
Draw yn stondin Merched y Wawr ar y Maes mae modd mynd i weld arddangosfa arbennig sy'n cofnodi a dathlu hanes addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.
Grwpiau'r sefydliad yn rhanbarth De Powys a Gorllewin Morgannwg sydd wedi bod yn arwain y cynllun.
Band Pres Cwm Ebwy oedd enillwyr cyntaf y dydd yn y Pafiliwn ddoe, a hynny yng nghystadleuaeth Bandiau pres Pencampwriaeth, dosbarth 1.
Gallwch weld holl ganlyniadau dydd Sul o'r Pafiliwn fan yma.
Cadwch lygad ar Cymru Fyw heddiw i weld mwy o uchafbwyntiau cystadlaethau'r Pafiliwn.
Ar raglen Dros Frecwast y bore 'ma bu Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, yn canmol trefniadau trafnidiaeth a pharcio'r penwythnos agoriadol.
Ac wrth i ymwelwyr deithio i Barc Ynysangharad fore Llun, mae pethau i weld yn hwylus ar y trenau a bysiau unwaith eto.
Mae gwybodaeth am sut i gyrraedd y maes yma.
Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn dra gwahanol i deulu'r diweddar R Alun Evans - hon fydd y Brifwyl gyntaf heb y "gŵr a gyfrannodd gymaint" i'w holl weithgareddau.
Roedd R Alun, a fu farw ddiwedd Awst 2023, yn ddarlledwr ac yn awdur blaenllaw ac hefyd yn ffigwr hynod o amlwg o fewn llywodraethiant yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cyn seremoni'r Coroni bydd cyfle i gofio amdano ar lwyfan y Brifwyl ac yn ystod y digwyddiad bydd yna gyhoeddiad am wobr arbennig er cof amdano.
Fe ymgymerodd â sawl rôl allweddol. Bu'n arweinydd llwyfan, yn aelod a chadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, yn llywydd y Llys ac ef oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod gan arwain y sefydliad drwy gyfnod pwysig o newid ac esblygu.
Mae rheolwyr y Brifwyl wedi dweud bod yr holl drefniadau ar gyfer gŵyl drefol mor "wahanol" yng nghanol Pontypridd wedi gweithio'n dda dros y penwythnos cyntaf.
"Mae 'di mynd fel watsh, fyswn i'n dweud," meddai'r Prif Weithredwr, Betsan Moses, wrth raglen Dros Frecwast bore 'ma, gan ddiolch i Eisteddfodwyr am ddilyn y cyngor teithio a pharcio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae sawl un, meddai, wedi dweud wrthi bod teithio i'r Maes ar y trên "yn ychwanegiad i'r profiad Eisteddfodol - mae 'na ganu braf ar y trene, maen nhw'n hwylus iawn".
Dyma flas o'r canu braf y cyfeiriodd ato wrth i bobl adael y dref nos Sadwrn.
Mae eisteddfodwyr yn cael eu hannog i gyrraedd y Maes ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i barcio, os yn gyrru, yn y meysydd parcio a theithio penodol.
Mae Pontypridd yn dref brysur ar y gorau, medd y trefnwyr, a gall traffig fod yn broblem ar ddiwrnod arferol.
Coroni'r prifardd buddugol fydd prif seremoni Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ddydd Llun a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau.
'Atgof' oedd y testun gosod a'r beirniaid eleni yw Tudur Dylan Jones, Guto Dafydd ac Elinor Gwynn.
Hon fydd seremoni gyntaf yr archdderwydd newydd - Y Prifardd Mererid Hopwood.