Crynodeb

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 18:54 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Dyna ddiwedd ein llif byw am heddiw, diolch am ddilyn.

    Mae mwy o straeon, uchafbwyntiau cystadlu ac oriel luniau'r diwrnod yma.

    Fe fydd criw Cymru Fyw yn ôl ar y Maes yfory.

    Mererid HopwoodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  2. 'Mae meddwl am ffugenw bron mor anodd â'r ysgrifennu!'wedi ei gyhoeddi 18:22 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Tra'n siarad ar raglen Eisteddfod S4C dywedodd enillydd y Goron, Gwynfor Dafydd: "Maen nhw'n gerddi am y cymoedd - roedd hynny'n anochel. Es i ati yr amser yma llynedd ac fe gymerodd hi tua saith mis i mi eu hysgrifennu."

    Ganrif ers coroni Edward Prosser Rhys am ei gerdd 'Atgof' - dyna hefyd oedd y testun eleni.

    "Roedd hi'n amhosib anwybyddu y cysylltiad yna ac mae cerdd yn y casgliad sy'n dathlu'r cymoedd wrth gwrs, ond hefyd yn trafod culni a cheidwadaeth sydd efallai yma, a'i bod yn anodd tyfu lan yn berson sydd efallai yn wahanol.

    "Fe ysgrifennais gerdd chwe mlynedd yn ôl - oedd ddim yn hunangofiannol - am brofiad bachgen hoyw yn dod mas i'r rhieni. Roedd hi'n anodd anwybyddu'r cysylltiad ganrif ers i Proser Rhys ennill ar yr un testun."

    A beth oedd arwyddocâd y ffugenw, Samsa?

    "Fe enillodd Rhys Iorwerth llynedd dan y ffugenw Gregor. Yn nofel enwog 'The Metamorphosis' gan yr awdur Franz Kafka, enw'r prif gymeriad yw Gregor Samsa.

    "Roeddwn i'n meddwl bydden i'n cadw rhyw fath o ddilyniant. Mae meddwl am ffugenw bron mor anodd â'r ysgrifennu!"

  3. 'O'dd rhaid i fi gystadlu eleni oherwydd y cysylltiadau lleol'wedi ei gyhoeddi 18:06 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Disgrifiad,

    Gwynfor Dafydd yn siarad gydag Alun Thomas wedi iddo ennill Coron yr Eisteddfod

  4. 'Mae'r dweud mor aeddfed'wedi ei gyhoeddi 17:42 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Wrth i Gwynfor Dafydd a'r Orsedd adael y Pafiliwn, ar raglen S4C fe ddywedodd Catrin Dafydd am y gwaith buddugol:

    "Mae Gwynfor yn fardd ifanc tu hwnt ac eto mae'r dweud mor aeddfed. Mae'n gwau yr elfennau cymdeithasol gyda'r elfennau personol.

    "Mae cymaint o gyfoeth yn y fro, cymaint o straeon a dyfnder. Mae Gwynfor yn mynd ar ôl yr holl bethau yna - dyw e ddim yn cwato o ddim ohono.

    "Rwy'n credu eich bod yn cael sgrifennu diffuant pan 'chi'n mynd ar ôl pethau sy'n bwysig i chi.

    "Dyna beth braf i fachgen lleol gael dathlu yn ei fro."

    Gwynfor Dafydd a'r Orsedd

    Roedd cyfle i'r Prifardd gerdded o amgylch Maes Parc Ynysangharad ar ôl y seremoni.

    Parc Ynysangharad
  5. 'Dyma gasgliad ffraeth a ffyrnig'wedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Gwynfor Dafydd

    Beirniaid y Goron oedd Guto Dafydd, Elinor Gwynn a Tudur Dylan Jones.

    Dywedodd Guto Dafydd: “Dyma gasgliad ffraeth a ffyrnig, mydryddol a meistrolgar, sy’n archwilio’n gariadus-gritigol berthynas y bardd â’r cymoedd a gyflwynodd ei dad-cu iddo’n blentyn, gan bwysleisio’r cyffredinedd egr yn ogystal â’r rhamant a’r anrhydedd: ‘â’i alaw broletaraidd-browd, chwyldroi/ diflastod pentre’n lle llawn chwedlau coeth’.

    Yn ei beirniadaeth hi dywedodd Elinor Gwynn: “Gan Samsa cawn gerddi sy’n plethu hiwmor a dwyster, y presennol a’r gorffennol, a sylwebaeth grafog gyda myfyrdodau teimladwy am ei hunaniaeth ei hun.

    "Mewn ffordd wreiddiol a gafaelgar mae’n cynnig cipolwg ar y profiadau, y straeon a’r mythau sy’n creu ein lleoedd ac yn siapio ein perthynas â nhw.

    “Drwy gyflwyno’r darllenydd i wahanol weddau ar un ardal benodol yng Nghymru, a’i berthynas ef â’r lle, mae’r bardd wedi creu rhyw fap-dwfn o gerdd sy’n adlewyrchu ei deimladau o fod y tu mewn ac ar y tu fas i’r fro lle cafodd ei fagu – ond bro lle mae ei berthynas greiddiol gyda’i dad-cu yn creu angor di-syfl.”

  6. Enillydd y Goron wedi ei fagu ym mro'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 17:22 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Gwynfor Dafydd

    Cafodd Gwynfor Dafydd ei fagu yn Nhonyrefail yn Rhondda Cynon Taf, ac fe aeth i ddwy o’r ysgolion lleol, Ysgol Gynradd Tonyrefail ac Ysgol Llanhari.

    Yn yr ysgol uwchradd y dechreuodd Gwynfor farddoni, yn y mesur caeth i ddechrau, yn sgil ymweliad gan Mererid Hopwood â’r ysgol, lle cyflwynwyd y gynghanedd iddo am y tro cyntaf.

    Aeth ati i ennill Cadair yr Urdd pan oedd yn dal i fod yn ddisgybl yn Llanhari yn 2016, ac yna am yr eildro ar ei domen ei hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr Taf ac Elái yn 2017.

    Yn ddiweddarach, fe aeth i Brifysgol Caergrawnt i astudio llenyddiaeth Almaeneg a Sbaeneg, ac fe dreuliodd flwyddyn yn gweithio i’r Siambr Fasnach Brydeinig yn Chile. Ar ôl graddio o’r brifysgol yn ystod y cyfnod clo, fe symudodd yn ôl i Donyrefail i fyw am dair blynedd, cyn symud i Lundain, lle mae bellach yn gweithio fel newyddiadurwr i’r BBC ar y News at Six a’r 10 O’Clock News.

    Mae Gwynfor yn aelod o dîm Morgannwg yn yr Ymryson, a thîm Tir Iarll ar gyfres radio Y Talwrn. Mae wedi ennill Tlws Coffa Cledwyn Roberts ddwywaith am gerdd rydd orau’r gyfres.

  7. Mam a mab yn cofleidio ar y llwyfanwedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Eiliad hyfryd yn ystod Seremoni'r Coroni wrth i Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, gyfarch ei mab ar lwyfan y Pafiliwn.

    Helen Prosser
    Helen Prosser a Gwynfor Dafydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Helen Prosser yn cyfarch ei mab, Gwynfor Dafydd

    Yn ôl i’r cynnwys diweddaraf
  8. Gwynfor Dafydd yw enillydd y Goronwedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst
    Newydd dorri

    Gwynfor Dafydd

    Gwynfor Dafydd yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

    Daeth y bardd o Donyrefail i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 33 o geisiadau.

    Mae'n derbyn gwobr ariannol o £750 hefyd, a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc 'Atgof'.

    Mae Gwynfor Dafydd yn gweithio fel newyddiadurwr i'r BBC ar raglenni News at Six a’r 10 O’Clock News.

    Y beirniaid eleni oedd Guto Dafydd, Elinor Gwynn a Tudur Dylan Jones.

    Dywedodd Tudur Dylan Jones: "Mae Samsa’n cyflwyno dilyniant sy’n digwydd gweddu’n berffaith i fro’r Eisteddfod eleni, am mai yn ei thir a’i daear hi y mae ei wreiddiau.

    "Llwydda i ennyn ystod o emosiynau ynom, o dristwch gwragedd Senghennydd, i gomedi’r sylw a roddir i Guto Nyth Brân. Mae ganddo berthynas bell ac agos gyda’i ardal a chyda’i thrigolion. Mae’n teimlo’n un â’r gymdeithas, ac eto fymryn ar wahân."

  9. Gwireddu breuddwyd wrth ymweld â'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 16:49 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Bu Shelley Rees yn sgwrsio gyda thri ymwelydd arbennig ar stondin Cymdeithas Cymru a’r Ariannin ar Radio Cymru brynhawn heddiw.

    Daw Kiara, Santiago a Meleri o Gaiman ym Mhatagonia a maen nhw wedi bod ar daith o amgylch Cymru ers saith wythnos.

    Meddai Santiago “Aethon ni i Gaerdydd, Llanuwchllyn, Aberdaron, Aberystwyth, a Chaernarfon ac aethon ni i Wyl y Glaniad, Sesiwn Fawr a Tafwyl.”

    Maen nhw’n barod wedi mwynhau sawl uchafbwynt ym Mhontypridd yn ôl Kiara:

    “Roedd Yws Gwynedd yn anhygoel ddoe – fe wnaeth ddweud helo wrth Patagonia.

    "Ryda ni’n hapus iawn i gael bod yma – mae gallu bod yn yr Eisteddfod yn freuddwyd i ni.”

    Yn ogystal â mwynhau, mae’r tri hefyd yn codi arian tuag at adeiladu ysgol uwchradd ddwyieithog ym Mhatagonia.

  10. A fydd teilyngdod?wedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Bydd Seremoni'r Coroni yn dechrau'n fuan a gallwch wylio'r cyfan yn fyw ar S4C Clic, dolen allanol neu iPlayer.

    Mae amser i wneud paned gyflym cyn setlo...

    Eisteddfod
  11. 'Shwmae byt?'wedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Mae nifer o raglenni teledu a radio yn darlledu yn fyw o'r maes yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

    Roedd criw Dros Ginio yn darlledu o ardd Radio Cymru y prynhawn 'ma.

    criw dros ginio
  12. Beth fydd gwaddol yr Eisteddfod eleni?wedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Arwydd Eisteddfod

    Ym mhabell Cymdeithasau 1 mae ‘na sgwrs, wedi’i drefnu gan Bro360, yn trafod effaith yr Eisteddfod yn ardal Rhondda Cynon Taf.

    Fe glywsom ni ganmoliaeth gan rai o’r rheiny fu ar y pwyllgorau lleol i drefnu a chodi arian, bod 80 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal yng Nghwm Cynon.

    Roedd hynny’n cynnwys noson o ddiddanwch gyda Roy Noble, a gododd £3,000, a her o rwyfo’r pellter rhwng Cwm Cynon a Phontypridd.

    Roedd yr ymdrechion wedi tynnu pobl ddi-gymraeg i mewn hefyd - a hyd yn oed rhai o gymoedd cyfagos, a fentrodd i ‘groesi’r ffin’!

    “Allwn ni gadw’r pethau yma fynd at y dyfodol?” oedd neges llawer o drigolion lleol RCT, am y bwrlwm roedd yr Eisteddfod wedi’i greu.

  13. Merched y Wawr yn dathlu menywod Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 15:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Ar achlysur yr Eisteddfod, mae Merched y Wawr wedi mynd ati i gofnodi a dathlu cyfraniadau gan fenywod i ardal Rhondda Cynon Taf.

    Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Gill Griffiths er mwyn clywed mwy am y gwaith.

    Disgrifiad,

    Gill Griffiths ar stondin Merched y Wawr

  14. Canlyniadau dydd Llunwedi ei gyhoeddi 15:37 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Côr Nefi Blŵs
    Disgrifiad o’r llun,

    Côr Nefi Blŵs

    Wedi methu rhai o'r canlyniadau yn ystod y dydd?

    Peidiwch â phoeni, mae rhestr lawn o'r holl ganlyniadau a chlipiau o'r cystadlaethau ar gael yma.

  15. Cerddoriaeth o bob math i'w glywed ar y maeswedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Aneirin Jones yn y Tŷ Gwerin
    Disgrifiad o’r llun,

    Aneirin Jones yn swyno'r dorf yn y Tŷ Gwerin

    Côr Godre'r Garth ar Lwyfan y Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Côr Godre'r Garth ar Lwyfan y Maes

  16. Llywodraeth y DU 'yn ystyried sut i gefnogi'r Gymraeg'wedi ei gyhoeddi 15:23 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Nia Griffith yn cwrdd â phrif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses
    Disgrifiad o’r llun,

    Nia Griffith yn cwrdd â phrif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses wrth ymweld â’r maes

    Mae’r gweinidog yn Swyddfa Cymru, Nia Griffith, wedi bod yn crwydro'r maes heddiw.

    Awgrymodd fod Parc Ynysangharad yn “lle hyfryd” i gynnal yr Eisteddfod.

    Dywedodd bydd y llywodraeth Lafur newydd yn “meddwl trwy sut ydyn ni'n gallu helpu” o safbwynt datblygu’r Gymraeg “er enghraiift gyda S4C sy'n cael arian gan Llywodraeth y DU.

    “Peth arall 'da ni'n gallu gwneud fel adrannau yn Whitehall yw sicrhau bod popeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl Cymru, ond hefyd cefnogi cymaint o weithgareddau sy'n mynd ymlaen yng Nghymru gan gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol.”

  17. Cadw’r traddodiad corawl yn fywwedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Alun Thomas

    Mae ardal Rhondda Cynon Taf yn enwog ar draws Cymru a thu hwnt am ei thraddodiad o gorau meibion.

    Ac yn ôl Alun Thomas, o Gymdeithas Corau Meibion Cymru, mae’n dda gweld bod llawer wedi bod yn “adeiladu yn ôl ar ôl Covid” gyda’u haelodaeth.

    “'Da ni dal yma ac yn dal ein tir,” meddai.

    Dywedodd fod cynnal yr Eisteddfod yn y fro wedi helpu i adfywio rhai o’r corau lleol, gyda Chôr Llantrisant wedi denu 17 aelod newydd dros y misoedd diwethaf.

    Mae dros 100 o gorau yn rhan o’r gymdeithas, a nhw fydd yn cyflwyno’r gwpan i’r côr buddugol wedi’r gystadleuaeth ddydd Sadwrn, sydd wastad yn un o uchafbwyntiau diwrnod olaf yr ŵyl.

  18. Cofio Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr 1956wedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Meinwen Llywelyn a’r actores Gaynor Morgan ReesFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Meinwen Llywelyn a’r actores Gaynor Morgan Rees, oedd yn 16 oed yn 1956, ar faes yr Eisteddfod

    Wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r ardal am y tro cyntaf ers degawdau mae rhai wedi bod yn hel atgofion am Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr.

    Cafodd yr actores Gaynor Morgan Rees ei geni a'i magu ychydig filltiroedd i'r de o'r maes ym mhentref Abercwmboi.

    "Dw i'n cofio ei bod hi'n dywydd sych a braf achos mae gen i luniau o Meinwen Llywelyn a fi yn tynnu lluniau i'r wasg ar y pryd a mae'r tywydd bob amser yn sych," meddai.

    "Odd yr Eisteddfod yn wahanol iawn wrth gwrs i heddiw - nosweithiau llawen a dawnsio gwerin nid gigs a phethe' fel 'na, ac wrth gwrs o'dd Sian Phillips yno am y tro cynta' yn y 'Steddfod - Gymerwch chi Sigarét a Siwan (gan Saunders Lewis) wnaeth hi."

    Mae'n cofio hefyd y cymdeithasu yn yr hwyr ynghanol Aberdâr.

    "Canu emynau bryd hynny ynte - cerflun Caradog ynghanol y dref, dyna lle oedden ni i gyd yn ymgasglu, a llawer iawn o gerdded 'nôl i'r pentrefi yn hytrach na mynd mewn tacsis - o'dd dim siwd beth â thacsis - cerdded o'dd pawb yn 'neud bryd hynny!"

    Doedd neb yn deilwng o'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr a Mathonwy Hughes a enillodd y gadair am awdl ysgafn ar y testun 'Gwraig'.

    Mathonwy HughesFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
  19. Yws Gwynedd ar Lwyfan y Maeswedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Yws Gwynedd oedd yn cloi Llwyfan y Maes neithiwr, a hynny cyn perfformio ym Maes B nos Fercher.

    Dyma rai lluniau o'r noson.

    Eisteddfod Genedlaethol CymruFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    Eisteddfod Genedlaethol CymruFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    Eisteddfod Genedlaethol CymruFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  20. Cyn-enillwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn cael eu hurddowedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst

    Dyma rai o aelodau newydd yr Orsedd yn mwynhau cefn llwyfan.

    Roedd Elain Roberts, enillydd y fedal ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2023, Tegwen Bruce-Deans, enillydd y goron yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ac Owain Williams, enillydd y goron yn Eisteddfod yr Urdd 2023 ymhlith y rhai gafodd eu derbyn i'r Orsedd y bore 'ma.

    Owain WilliamsFfynhonnell y llun, Owain Williams