Crynodeb

  • Undeb Rygbi Cymru yn cynnig torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i ddau

  • Bydd cyfnod o ymgynghori yn dechrau ar 1 Medi i drafod pedwar opsiwn gyda'r gobaith o ddod i benderfyniad terfynol erbyn diwedd Hydref

  • Nid yw'n glir a fyddai'r ddau dîm yn rhai newydd neu yn ddau o'r pedwar sy'n bodoli eisoes - sef Rygbi Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets

  • Y Gweilch yw'r cyntaf o'r rheini i ymateb i'r cyhoeddiad gan ddweud fod yna "syniadau diddorol" sydd gyda "photensial gwirioneddol"

  • Un o ganolwyr Cymru a'r Scarlets yn beirniadu'r cynlluniau gan ddweud ei fod yn rhagweld y bydd mwy o chwaraewyr yn symud i Loegr

  • Nid yw'r cynlluniau yn "gwneud synnwyr o gwbl", yn ôl y cyn-chwaraewr Emyr Lewis

  • Ond mae 'na "gonsensws wedi bod ers sbel fod rygbi yng Nghymru fel camp ar ei gliniau" a bod angen strategaeth newydd ar frys, meddai Catrin Heledd

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod arwyddocaol yn hanes rygbi proffesiynol yng Nghymru.

    Daeth cadarnhad am 15:00 fod Undeb Rygbi Cymru - y corff sy'n llywodraethu'r gamp yng Nghymru - yn ffafrio torri nifer y clybiau rygbi proffesiynol o bedwar i ddau.

    Dyma ydy'r "cam radical" sydd ei angen i achub y gêm yng Nghymru, medden nhw, ac mae'n bosib y daw penderfyniad terfynol cyn diwedd mis Hydref.

    Mae'n golygu fod dyfodol y Dreigiau, Caerdydd, y Gweilch a'r Scarlets - fel maen nhw heddiw - yn y fantol.

    Pwyswch yma i ddarllen y stori'n llawn a dilynwch Cymru Fyw dros y dyddiau nesaf i gael mwy o ymateb i'r stori. Diolch yn fawr am ddilyn.

    Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images

    Yn y cyfamser, dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol a lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

    Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

  2. 'Pwy sydd eisiau chwarae i dîm heb hanes na chefnogwyr?'wedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1

    Joe Hawkins yw un o'r chwaraewyr cyntaf i roi ei farn ar gynigion Undeb Rygbi Cymru a dyw e ddim i weld yn hapus.

    "Rwy'n credu bod pawb yn cytuno bod angen newid, ond dyw mynd lawr i ddau o bedwar ddim yn ymddangos yn ddigon pellgyrhaeddol," ysgrifennodd canolwr Cymru a'r Scarlets ar X.

    "Bydd yn bendant yn cynyddu ansawdd y garfan ac efallai llwyddiant yn y tymor byr ond mae'n debyg bydd y nifer fach o gefnogwyr sydd dal gan rygbi Cymru yn cerdded i ffwrdd a bydd hynny'n lladd y gêm.

    "Bydd hyd yn oed mwy o chwaraewyr yn mynd i Loegr yn ifanc oherwydd diffyg cyfleoedd i chwarae.

    "Beth sy'n digwydd wedyn ymhen pum mlynedd pan nad oes cefnogwyr ac mae’r holl chwaraewyr ifanc gorau dros y bont a does neb yn dod trwyddo?"

    Joe Hawkins, LRZ a Mason Grady yn 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Joe Hawkins (chwith) wedi ennill 5 cap dros Gymru ond wedi treulio cyfnod yn chwarae yn Lloegr

    Ychwanegodd: "Hefyd, fel chwaraewr, os bydd dau dîm newydd yn cael eu creu yna pwy sydd eisiau chwarae i dîm heb hanes na chefnogwyr ffyddlon ac angerddol?

    "Bydd yr holl chwaraewyr gorau o Gymru eisiau hynny ac yn dod o hyd iddo y tu allan i Gymru."

  3. 'Allwch chi ddim cymysgu'r Gweilch a'r Scarlets'wedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Denise a Jaff yn anhapus gyda'r cynnig.

    "Rwy'n cefnogi'r Gweilch - allwch chi ddim cymysgu'r Gweilch a'r Scarlets,” meddai Jaff, sy’n 66 oed ac yn mwynhau diwrnod allan yng Nghasnewydd.

    Mae ei wraig Denise yn cefnogi’r Dreigiau a dywedodd ei bod hi hefyd yn anhapus gyda'r newidiadau arfaethedig, gan ychwanegu bod y sefyllfa yn "braf iawn" fel y mae.

    "Fe gewch chi bobl yn dweud 'dydw i ddim eisiau unrhyw Ddreigiau yn fy nhîm'," ychwanegodd y cefnogwr 68 oed. "Dydw i ddim yn gwybod sut y bydd y cymysgu yma yn gweithio."

    Llun o Denis a Jaff
  4. Beth yw'r heriau wrth geisio newid y drefn?wedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1

    Er y cynlluniau newydd, mae URC yn derbyn bod cytundebau eisoes yn bodoli gyda'r rhanbarthau a bod hynny'n eu gwneud nhw'n agored i heriau cyfreithiol.

    "Mae gennym ni gontractau gyda'r clybiau o'r enw'r Cytundeb Rygbi Proffesiynol ac rydym wedi ei gwneud hi'n glir iawn i'r clybiau y byddwn ni'n cadw at ein rhwymedigaethau yn y cytundebau hynny," meddai cadeirydd URC, Richard Collier-Keywood.

    Llofnododd y Dreigiau a Chaerdydd y cytundeb newydd ym mis Mai, ond mae'r Scarlets a'r Gweilch yn parhau ar yr hen fersiwn ar ôl anghytuno ynghylch rheolaeth URC o glwb y brifddinas.

    Mae'r corff llywodraethu yn credu bod y broses ymgynghori yn delio ag unrhyw her bosib o dan gyfraith cystadleuaeth, tra'u bod nhw'n credu bod eu tryloywder fel bwrdd yn delio ag unrhyw faterion ynghylch "camymddygiad neu annhegwch".

    "Rydym ni'n teimlo'n hyderus ynghylch y sefyllfa gyfreithiol," meddai Collier-Keywood.

    scarletsFfynhonnell y llun, Getty Images

    "Rydym am ymgysylltu'n agos â'r chwaraewyr fel eu bod yn deall y persbectif a'r cyfle," ychwanegodd cyfarwyddwr rygbi a pherfformiad elitaidd URC, Dave Reddin.

    "Byddwn yn gobeithio, ac mae'r arwyddion cynnar yn gadarnhaol, y bydd pobl wir eisiau gwrando a chymryd rhan yn y ffordd y gall system wych yng Nghymru edrych.

    "Rydym am weithio'n agos iawn a chyfathrebu â nhw oherwydd byddai streic yn drychineb i bawb, profais hynny gyda rygbi Lloegr flynyddoedd lawer yn ôl, ac nid wyf yn credu y byddai'n symud ein hagenda ymlaen.

    "Gofynnodd y dynion gwestiynau deallus iawn neithiwr, roeddent yn ymgysylltu'n fawr â'r broses ac yn deall y darlun mawr. Gobeithio y bydd hynny'n mynd â ni i le da."

  5. Beth yw'r cynlluniau ar gyfer gêm y menywod?wedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich+1

    Ar hyn o bryd mae gan Undeb Rygbi Cymru ddau dîm yn yr Her Geltaidd - Gwalia Lightning a Brynthon Thunder.

    Mae proses dendro ddiweddar wedi denu diddordeb gan y pedwar clwb proffesiynol presennol.

    "Mae diwygio strwythur rygbi Cymru yn creu cyfle i gyflymu twf a llwyddiant yng ngêm y menywod yng Nghymru trwy fuddsoddiad sylweddol," meddai'r ddogfen ymgynghori gafodd ei chyhoeddi heddiw.

    Byddai'r cynllun yn darparu grŵp o tua 80 o chwaraewyr domestig, yn ogystal â'r rhai sy'n chwarae yn Lloegr, ar gyfer yr hyfforddwyr cenedlaethol.

    Seann Lynn a chwaraewyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. 'Syniadau diddorol': Ymateb swyddogol y Gweilchwedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1

    Gweilch

    Mae'r Gweilch wedi ymateb i gyhoeddiad Undeb Rygbi Cymru mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

    "Rydyn ni wedi adolygu dogfen ymgynghorol URC ac yn croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y broses mewn modd adeiladol," meddai'r clwb.

    "Mae rhai syniadau diddorol o fewn y ddogfen, gan gynnwys opsiynau sydd, yn ein barn ni, â photensial gwirioneddol, yn ogystal â rhai sy'n cynnig mwy o heriau.

    "Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r undeb a'r holl rhanddeiliaid i helpu creu system sy'n gweithio i'r Gweilch, i'n cefnogwyr a'r gêm yng Nghymru yn ehangach."

  7. Mwy o fanylion am y gwahanol gynlluniauwedi ei gyhoeddi 15:31 Amser Safonol Greenwich+1

    Model A

    • pedwar clwb yn parhau gyda chyllid anghyfartal - dau dîm elitaidd gyda chyllideb o £6.7m, a dau dîm datblygu ar £5.2m

    Modelau B a C

    • torri i lawr i dri, gyda B yn cynnwys cyllid cyfartal o £6.9m a C yn cynnwys dau glwb elitaidd ar £6.9m a chlwb datblygu ar £5.4m

    Model D

    • yr un sy'n cael ei ffafrio gan URC - dau glwb proffesiynol gyda chyllid o tua £7.8m a charfanau o 50 o chwaraewyr, yn ogystal â thalent o'r academi.
  8. 'Barod i wneud yr achos dros Gaerdydd'wedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru yng Nghaerdydd

    Ychydig o ymateb yn ein cyrraedd ni ar ôl y newyddion rhyw 20 munud yn ôl fod URC yn ffafrio haneru timau rygbi proffesiynol Cymru i ddau.

    Dywedodd Lynn Glaister, cadeirydd Clwb Cefnogwyr Rygbi Caerdydd: "Dwi’n meddwl i ddechrau am staff a chwaraewyr y clwb yma, achos dim ond rhai misoedd yn ôl roedden ni i gyd yn poeni am ein dyfodol.

    "Mae’n cefnogwyr ni’n bryderus iawn am beth fydd hyn yn ei olygu i’r clwb, ond rydyn ni’n bwriadu cymryd rhan lawn yn yr ymgynghoriad.

    "Mae gennym ni hanes gwych fel clwb, ac rydyn ni am i’r dyfodol fod yn wych hefyd. Rydyn ni’n barod i wneud yr achos dros weld Caerdydd yn parhau."

    Lynn Glaister

    Ychwanegodd: "Roedd e’n dda clywed y geiriau [gan Abi Tierney].

    "Dwi’n siŵr bydd rygbi proffesiynol yn parhau yng Nghaerdydd, ond beth rydyn ni eisiau yw i Rygbi Caerdydd barhau fel endid.

    "Rydyn ni eisiau i Rygbi Caerdydd fod yno gyda’r holl hanes, a phopeth sydd ganddo i’w gynnig.

    "Byddai’n drychineb os nad oedd gan brifddinas Cymru dîm gyda Chaerdydd yn yr enw."

  9. URC 'yn cydnabod dicter y cefnogwyr'wedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1

    aelodau o'r bwrdd ddydd Mercher
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe wynebodd penaethiaid Undeb Rygbi Cymru y wasg yn Stadiwm Principality heddiw

    Dywedodd prif weithredwr URC, Abi Tierney ei bod yn "deall dicter a phoen y cefnogwyr" ond fod y rhai y mae hi wedi siarad â nhw "yn cytuno fod angen gwneud rhywbeth yn wahanol".

    "Rydyn ni wedi rhannu'r cynllun yma er mwyn rhoi cyfle i bobl feirniadu, a plîs byddwch yn barod i feirniadu - ond gwnewch hynny mewn modd adeiladol.

    "Dydw i wir ddim yn cofio siarad gyda neb sydd heb ddweud bod angen i ni wneud pethau'n wahanol."

  10. Beth yw'r pedwar opsiwn?wedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1

    1. Pedwar clwb proffesiynol sy'n derbyn cyllid anghyfartal
    2. Tri chlwb proffesiynol sy'n derbyn cyllid cyfartal
    3. Tri chlwb proffesiynol sy'n derbyn cyllid anghyfartal
    4. Dau glwb proffesiynol sy'n derbyn cyllid cyfartal

    Bydd cyfnod ymgynghori ffurfiol yn dechrau ar 1 Medi, ac mae cyfarfodydd eisoes wedi eu trefnu rhwng yr undeb a'r rhanbarthau, cefnogwyr, gwahanol gystadlaethau a sefydliadau.

    Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 26 Medi a bydd argymhellion yn cael eu hanfon i fwrdd URC erbyn canol mis Hydref.

    Y gred yw y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud erbyn diwedd Hydref.

  11. URC eisiau haneru nifer y rhanbarthauwedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1
    Newydd dorri

    Fel yr oedden ni'n ei ddisgwyl, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw'n ffafrio haneru nifer y rhanbarthau proffesiynol i ddau.

    Mae URC yn pwysleisio nad yw'r model presennol "yn cyflawni'r hyn mae ein gêm ni angen".

    Datgelodd y corff eu cynlluniau ar gyfer dyfodol y gêm elit yng Nghymru brynhawn Mercher, cynlluniau sy'n rhoi dyfodol y Dreigiau, Scarlets, Gweilch a Rygbi Caerdydd yn y fantol.

    "Mae unrhyw newid yn anodd, ac mae hyn am fod yn anodd, ond dwi'n meddwl gallai hyn ein harwain at le gwell," meddai prif weithredwr URC, Abi Tierney.

    Mae URC wedi crybwyll pedwar cynllun posib, ac wedi amlygu un fel yr opsiwn gorau - sef cael dau glwb proffesiynol sydd â thimau dynion a merched ac sy'n cael eu cyllido yn deg.

    Mwy i ddilyn...

  12. Beth yw ymateb y rhanbarthau i'r cynlluniau?wedi ei gyhoeddi 14:54 Amser Safonol Greenwich+1

    Fel y disgwyl, dyw perchnogion y pedwar rhanbarth ddim yn or-hoff o'r syniad o haneru nifer y timau.

    Mae'r Dreigiau wedi dweud yr wythnos hon ei bod hi'n hollbwysig fod rygbi yn parhau yng Ngwent - ardal yn y de-ddwyrain oedd yn arfer bod yn gartref i bum tîm yn yr haen uchaf.

    Dyw'r Scarlets na'r Gweilch wedi gwneud sylw am y cynlluniau diweddaraf hyd yn hyn.

    Er hynny, mae'r Gweilch wedi cyhoeddi eu bwriad i symud i stadiwm newydd yn Abertawe erbyn dechrau tymor 2026/27, tra bod y Scarlets wedi cyhoeddi bod rhagor o fuddsoddi wedi bod yn y clwb.

    Mae Rygbi Caerdydd bellach wedi cael eu perchnogi gan yr undeb ar ôl iddyn nhw fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni.

    Gweilch v Rygbi CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Beth ydyn ni'n ei wybod hyd yma?wedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1

    Daeth rhywfaint o'r cynllun mae URC yn ei ffafrio i'r amlwg brynhawn ddydd Mawrth, ac fe allwch chi ddarllen mwy yma.

    Mae URC wedi cynnig y bydd dau glwb, gyda thimau dynion a merched.

    Fe fydd 50 o chwaraewyr i bob carfan dynion gyda chyllideb o £7.8m yr un, tra bod disgwyl 40 o chwaraewyr yng ngharfanau'r merched.

    Mae'r undeb yn dweud y bydd y timau'n cynnwys mwyafrif o chwaraewyr sy'n gymwys i Gymru, ac y gallai olygu ail-feddwl cynnwys chwaraewyr sydd ddim yn gymwys i Gymru.

    Undeb Rygbi Cymru fyddai'n ariannu'r timau, ond fe fydden nhw'n cael eu rheoli dan drwydded gan roi cyfrifoldeb masnachol i berchnogion neu fuddsoddwyr.

    Er bod disgwyl i'r undeb gyhoeddi eu cynlluniau heddiw, byddai'n ddechrau ar gyfnod ymgynghori, ac mae'n annhebygol y bydd datrysiad pendant ar unwaith.

  14. 'Penderfyniad i'r Undeb' - Morganwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1

    Yn siarad o Sioe Penfro heddiw, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ei bod hi'n "gwybod bod ffans ar draws Cymru yn poeni am y sefyllfa yma".

    "Ma'n bwysig iawn bod y ffans yn cael eu clywed, ond ma' hwn yn benderfyniad ar gyfer Undeb Rygbi Cymru," meddai.

    Eluned Morgan
  15. 'Cefnogwyr y Dreigiau yn poeni am yr effaith ar y ddinas'wedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1

    Jordan Davies
    Gohebydd BBC Cymru yn Rodney Parade

    Mae'r awyrgylch o amgylch Rodney Parade wedi suro.

    Mae nifer o gefnogwyr selog yn poeni, nid yn unig am golli eu rhanbarth, ond yr effaith ehangach y newidiadau ar ddinas Casnewydd.

    Un peth sy'n amlwg ymhlith cefnogwyr y Dreigiau yw'r angerdd a'r balchder sydd ganddyn nhw wrth gael cynrychioli de ddwyrain Cymru.

    Heddiw, mae teimladau o ddicter tuag at URC a phryderon am ddyfodol eu tîm yn amlwg.

  16. 'Angen strategaeth newydd ar frys'wedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1

    Catrin Heledd
    Chwaraeon BBC Cymru

    Mae 'na gonsensws wedi bod ers sbel fod rygbi yng Nghymru fel camp ar ei gliniau.

    Am gyfnod, yn ystod cyfnod cyntaf Warren Gatland wrth y llyw, roedd perfformiadau'r tîm rhyngwladol yn cuddio hynny, ond dim bellach.

    Ni wedi cael cyfnod hesb iawn o ran y dynion, tîm y merched hefyd ddim yn perfformio, y rhanbarthau ddim yn cyrraedd yr uchelfannau - felly ar y cyfan mae pawb wedi bod yn gytûn dros y flwyddyn ddiwethaf fod angen strategaeth newydd a hynny ar frys.

    Felly dyma ni'r pnawn 'ma, yn disgwyl y cynllun - fydd, yn ôl URC, yn codi safon y gêm ar bob lefel, ac yn arwain at lwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol.

    Mae hyn yn dod gyda newidiadau radical, fydd o bosib yn amhoblogaidd, ond yn ogystal â newid nifer y timau proffesiynol, ry' ni'n disgwyl mwy o fuddsoddiad yng ngêm y merched - dau dîm yn cynnwys 40 o chwaraewyr yr un - mwy o arian ar gyfer y timau proffesiynol yng Nghymru - £7.8m - fe fydd campws cenedlaethol yn cael ei greu, academi genedlaethol hefyd... a ma' 'na addewid i wella safon cystadleuaeth Super Rugby Cymru.

    Felly, ry' ni'n disgwyl newidiadau lu a'r neges glir gan yr undeb ydy bod rhaid cael newid - a dyma fydd dechrau swyddogol y daith honno.

  17. O bedair Camp Lawn i gael gwared â phedwar rhanbarth?wedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae rygbi yng Nghymru wedi wynebu un her ar ôl y llall yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

    Er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa, dywedodd Undeb Rygbi Cymru ym mis Gorffennaf fod angen diwygio'r system, a chyflwyno newidiadau sylfaenol.

    Ar ôl ennill pedair Camp Lawn mewn 14 mlynedd yn y Chwe Gwlad, mae’r tîm cenedlaethol wedi bod ar rediad o 18 colled o'r bron yn ddiweddar, ac wedi llithro i’r 12fed safle yn rhestr detholion y byd.

    tim cymruFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe lwyddodd Cymru i guro Japan fis diwethaf - y gêm gyntaf iddyn nhw ennill ers 2023

    Mae'r pedwar rhanbarth hefyd wedi profi cyfnodau anodd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a chystadlaethau Ewropeaidd.

    Cafodd cytundeb newydd rhwng URC a'r rhanbarthau ei ohirio ar ôl i Gaerdydd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr dros dro, tra bod y Scarlets a'r Gweilch wedi gwrthod y cynlluniau oherwydd materion "allweddol" oedd heb eu datrys.

    Dim ond Rygbi Caerdydd a'r Dreigiau arwyddodd y cytundeb ac fe wnaeth hynny ysgogi URC i ailystyried y system ariannu - wrth iddyn nhw ddatgan na fyddai'r pedwar rhanbarth yn cael eu hariannu yn gyfartal yn y dyfodol.

  18. 'Cefnogwyr yn amlwg mewn sioc ac yn ddigalon'wedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich+1

    Sara Dafydd
    Gohebydd BBC Cymru ym Mharc y Scarlets

    Parc y Scarlets
    Disgrifiad o’r llun,

    Cerflun o'r diweddar Ray Gravell tu allan i gartref y Scarlets

    Mae Parc y Scarlets lawer tawelach heddiw ar ôl cyfarfod neithiwr i gefnogwyr gwrdd â buddsoddwyr newydd y clwb.

    Dechreuon ni gael adroddiadau am gynlluniau ffafriol Undeb Rygbi Cymru wrth i gefnogwyr ddechrau cyrraedd a newidiodd yr awyrgylch yn gyflym iawn.

    Roedd cefnogwyr yn amlwg mewn sioc ac yn ddigalon. Roedd rhai yn dweud wrtha i y byddai well ganddyn nhw i gefnogi tîm yn Lloegr yn hytrach nag unrhyw drefniant newydd yma yng Nghymru.

    Dywedodd eraill na fyddan nhw'n gallu cefnogi URC mewn unrhyw ffordd yn y dyfodol.

    Heddiw mae'r ansicrwydd hwnnw'n parhau nid yn unig i gefnogwyr ond hefyd i staff a chwaraewyr. Dwi wedi clywed eu bod yn cael eu briffio yma ym Mharc y Scarlets y prynhawn yma, wrth i ni aros am fanylion pellach gan URC.

  19. 'Rhaid i rywbeth newid'wedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Ond ar y llaw arall roedd rhai yn fwy parod i dderbyn bod rhaid i rywbeth newid o fewn strwythur y gêm.

    Dywedodd Gwenno Williams ar Dros Frecwast ei bod yn "gwybod yr emosiynau fydd yn mynd trwy bennau cefnogwyr" - gan bod ei thîm hi, Caerdydd, wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr yn gynharach eleni.

    Ond dywedodd fod y newidiadau'n "anochel" os yw cefnogwyr eisiau gweld "tîm rygbi Cymru cryf a rygbi parhaus yma yng Nghymru".

    "Yn anffodus dyw'r arian ddim yma i gynnal pedwar tîm cystadleuol ac mae'n bwysig bod ni'n cael un neu ddau dîm sy'n gallu cystadlu yng ngemau Ewrop yn y gynghrair ac felly mae'n anochel bod angen 'neud toriadau."

    Rygbi CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Rygbi Caerdydd yn chwarae ym Mharc yr Arfau, sydd yng nghysgod Stadiwm Principality

  20. 'Diwedd ar wylio rygbi os yw'r Scarlets yn mynd'wedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae'n deg dweud bod yr ymateb gan gefnogwyr yn gymysg hyd yma.

    Roedd Tomos Davies o Aberhonddu, sy'n cefnogi'r Scarlets, yn anhapus iawn gydag Undeb Rygbi Cymru nos Fawrth.

    "Does dim rhaid cael gwared â'r rhanbarth - mae'n rhaid cael gwared â'r undeb a dweud y gwir," meddai.

    "Be' maen nhw'n 'neud, ac wedi 'neud dros y degawdau blaenorol, ydy torri [cyllid] y rhanbarthau, felly dyw e ddim yn syndod bod y tîm cenedlaethol yn dioddef."

    Tomos Davies

    Ychwanegodd Mr Davies mai dyma'r "dewis anghywir" yn ei farn ef a'i fod yn gobeithio nad y Scarlets fydd yn dioddef.

    Dywedodd y byddai cael gwared ar y rhanbarth y mae ef yn ei gefnogi yn "rhoi diwedd ar fi'n gwylio rygbi".