Crynodeb

  • Undeb Rygbi Cymru yn cynnig torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i ddau

  • Bydd cyfnod o ymgynghori yn dechrau ar 1 Medi i drafod pedwar opsiwn gyda'r gobaith o ddod i benderfyniad terfynol erbyn diwedd Hydref

  • Nid yw'n glir a fyddai'r ddau dîm yn rhai newydd neu yn ddau o'r pedwar sy'n bodoli eisoes - sef Rygbi Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets

  • Y Gweilch yw'r cyntaf o'r rheini i ymateb i'r cyhoeddiad gan ddweud fod yna "syniadau diddorol" sydd gyda "photensial gwirioneddol"

  • Un o ganolwyr Cymru a'r Scarlets yn beirniadu'r cynlluniau gan ddweud ei fod yn rhagweld y bydd mwy o chwaraewyr yn symud i Loegr

  • Nid yw'r cynlluniau yn "gwneud synnwyr o gwbl", yn ôl y cyn-chwaraewr Emyr Lewis

  • Ond mae 'na "gonsensws wedi bod ers sbel fod rygbi yng Nghymru fel camp ar ei gliniau" a bod angen strategaeth newydd ar frys, meddai Catrin Heledd

  1. 'Colli talent y canolbarth a'r gogledd i Loegr'wedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1

    Un sy'n feirniadol o'r rhanbarthau presennol ydy Cadeirydd Clwb Rygbi Aberystwyth, Emlyn Jones.

    "Dyw'r rhanbarthau heb wneud beth ddyle nhw yn enwedig yn y canolbarth a'r gogledd," meddai.

    Dywedodd fod eu clwb nhw yn disgyn o dan adain y Scarlets ac er bod "sawl un" wedi mynd ymlaen i chwarae iddyn nhw, mae nifer wedi mynd i chwarae i glybiau dros y ffin.

    "Mae chwech wedi gadael ni eleni gyda sawl un yn mynd i Hartbury, Sedbergh a cholegau Caerlŷr ac ati ar draws y ffin, ac allan o hynny wedi cael capiau dros eu gwlad," meddai Mr Jones.

    Emlyn Jones
  2. 'Heb deyrngarwch, bydd neb yn gwylio'wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Wrth ymateb i'r adroddiadau ynglŷn â chynlluniau posib URC, dywedodd Emyr Lewis, y sylwebydd rygbi a chyn-flaenasgellwr Cymru, ar raglen Dros Frecwast:

    "Dwi methu coelio'r peth, mae cyn gymaint o ffydd oedd gyda'r undeb wedi dirywio'n bellach nawr achos maen nhw wedi gwneud y penderfyniad hwn ar sail arian.

    "Gyda dim ond dau ranbarth mae hynny'n golygu mai dim ond rhyw 100 o chwaraewyr fydd yn chwarae - dyw e ddim yn gwneud synnwyr i fi o gwbl.

    "Os basen i'n hyfforddi Cymru nawr basen i'n tynnu fy ngwallt i mas.

    "Mae'n mynd i fod yn anodd iawn i'r chwaraewyr sydd nawr am fod yn edrych ar eu dyfodol.

    "Bydd y rhan fwyaf, fyswn i'n meddwl, yn edrych ar eu cytundebau ac yn edrych i fynd i Loegr, i Ffrainc, neu i Japan achos dyw eu dyfodol nhw yn y wlad yma ddim yn glir iawn o gwbl.

    "'Da ni'n mynd i golli mwy o chwaraewyr, does dim amheuaeth am hynny."

    Chwaraewyr Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Emyr Lewis yn poeni am yr effaith y newidiadau ar y tîm cenedlaethol

    Ychwanegodd Emyr Lewis fod angen edrych ar pam fod cyn lleied o chwaraewyr proffesiynol yng Nghymru.

    "Mae'n rhaid i ni edrych ar y system ieuenctid. Mae 'na ddigon o chwaraewyr yn chwarae dan-11, dan-12 ond o hynny ymlaen 'da ni'n colli chwaraewyr.

    "Beth sy'n digwydd yn yr academïau nawr, rhyw un gêm maen nhw'n chwarae bob pythefnos, tair wythnos. Gweddill yr amser maen nhw mewn 'stafell gwerthu yn dysgu am rygbi a dim fel 'na ti'n dysgu am rygbi.

    "Mae'r bois ifanc moyn chwarae bob dydd Sadwrn a 'di hynna ddim yn digwydd ar hyn o bryd, ac wedyn maen nhw'n colli diddordeb ac yn troi at chwaraeon eraill. Felly mae'n rhaid i'r undeb edrych yn fwy dwfn na'r brig a dydyn nhw ddim yn gwneud hynny.

    "Os mae timau newydd yn cael eu ffurfio mae'r undeb am golli cefnogwyr. Fydd dim hanes tu ôl i'r timau 'ma, byddwn i ddim yn gwylio fe achos fydd dim teyrngarwch gennai at yr un ohonyn nhw.

    "Mae'n rhaid i'r undeb fod yn ofalus iawn efo be maen nhw'n ei wneud."

  3. Beth sy'n debygol o ddigwydd?wedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn ystyried dyfodol Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets mewn adolygiad yn ddiweddar.

    Er hynny, mae'r Gweilch wedi cyhoeddi bwriad i adnewyddu stadiwm San Helen yn Abertawe er mwyn chwarae yno.

    Mae'r Scarlets wedi cyhoeddi buddsoddwyr newydd a'r Dreigiau wedi dweud bod "rhaid i rygbi elît" barhau yn ardal Gwent.

    Mae Rygbi Caerdydd dan berchnogaeth yr undeb ers mynd i ddwylo gweinyddwyr yn gynharach eleni.

    Ond mae'r Undeb yn ffafrio cynllun a fyddai'n golygu haneru nifer y rhanbarthau.

    Nid yw'n glir a fydd y ddau dîm yn rhai newydd neu yn ddau o'r pedwar sy'n bodoli eisoes.

    Ond mae URC wedi cynnig y bydd dau glwb, gyda thimau dynion a merched.

  4. Prynhawn dawedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1

    Croeso i'n llif byw wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad arwyddocaol am ddyfodol rygbi yng Nghymru.

    Mae disgwyl i Undeb Rygbi Cymru ddatgelu eu cynlluniau ar gyfer dyfodol y rhanbarthau yn ddiweddarach prynhawn yma.

    Y gred yw bod gan yr undeb gynllun sy'n cael ei ffafrio er mwyn trawsnewid y gêm ddomestig, a fydd yn cael ei gyhoeddi ymhen ychydig oriau.

    Rydyn ni'n deall mai torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i ddau ydy'r bwriad.

    Arhoswch gyda ni ar gyfer y cyhoeddiad a'r holl ymateb i ddilyn.

    fflagFfynhonnell y llun, Getty Images