Crynodeb

  • Elin Undeg Williams yn ennill y Fedal Ddrama

  • Y cyflwynydd ac athletwr Lowri Morgan yw Llywydd y Dydd

  • Mae canlyniadau'r dydd i'w gweld ar wefan yr Urdd., dolen allanol

  1. Man caredig yw Nant Caredigwedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Amser Stori ym mhabell Nant Caredig, gyda Natalie o gwmni Awen
    Disgrifiad o’r llun,

    Amser Stori ym mhabell Nant Caredig, gyda Natalie o gwmni Awen

    Cilfan dawel ar y maes yw Nant Caredig, sy'n cynnig lle i eisteddfodwyr bychain gael hoe o brysurdeb yr Eisteddfod.

    Dywedodd Sinead sy’n gweithio i’r Urdd fod ganddyn nhw deganau “fidget” yma, yn ogystal â gweithgareddau meddwlgarwch a sesiynau PABO gyda'r grŵp Eden.

    Mae eu jambori makaton hefyd yn boblogaidd iawn. Bu'n rhaid symud y sesiynau i babell Cwiar Na Nog gan fod mwy o le yno.

  2. Cyhoeddi enillwyr gwobrau Tir Na n-Ogwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Cafodd enillwyr gwobrau Cymraeg Tir Na n-Og eu cyhoeddi ar faes yr Eisteddfod fore Mawrth.

    Enillydd y categori cynradd

    • Arwana Swtan a'r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts, darluniwyd gan Efa Dyfan (Gwasg y Bwthyn).

    Enillydd y categori uwchradd

    • Cymry Balch Ifanc gan awduron amrywiol. Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter, darluniwyd gan Mari Philips (Rily).

    Y teitlau eraill ar restr fer y categorïau Cymraeg oedd:

    Cynradd:

    Ni a Nhw gan Sioned Wyn Roberts, darluniwyd gan Eric Heyman (Atebol)

    Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Y Lolfa)

    Uwchradd:

    Cynefin, Cymru a’r Byd gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

    Rhedyn, Merlyn y Mawn gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

  3. Dathlu hanes addysg Gymraeg yn ardal yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Ym mhabell yr ysgolion, mae llinell amser yn dathlu hanes addysg Gymraeg yn ardal Castell Nedd Port Talbot.

    Mae'r dyddiadau sydd wedi eu cofnodi yn cynnwys:

    1964 - Agor Ysgol Gynradd Cwmnedd, ysgol Gymraeg gyntaf yr ardal

    1969 - Agor Ysgol Gyfun Ystalyfera

    1984 - Agor Ysgol Gyfun Gŵyr

    Laurel Davies

    Laurel Davies yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni. Meddai:

    “Mae’r Eisteddfod hyd yn hyn wedi gwireddu pob disgwyliad, er y glaw. Os oes paned a phiano 'da chi ar y maes, ‘da chi’n boblogaidd iawn!”

    Darllenwch fwy am obeithion Laurel ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod â'r ardal fan yma.

  4. Cyngor anarferol Jac...wedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Draw ar gyfrif Instagram Radio Cymru 2, mae gan Jac Northfield gyngor rhyfeddol am sut i gadw'n sych ar y maes...

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  5. Digon i'w ddarganfod ar y maeswedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Mae Aled yn barod i groesawu ymwelwyr i Jambori Cwiar Na Nog heddiw.

    “Dwi’n edrych mlan i weld y plant i gyd yn cerdded ar y catwalk, a rhai o’r rhieni gobeithio!”

    Mae Aled hefyd yn un o sylfaenwyr prosiect Cwiar Na Nog.

    Aled ym mhabell Na Nog

    A draw yn ardal Gwyddonle, Prifysgol Aberystwyth, mae'r criw yma yn dysgu sut i dynnu DNA o fefus...

    Mae mwy o wybodaeth am weithgareddau amrywiol yr wythnos ar wefan yr Urdd., dolen allanol

    Pabell Gwyddonle ar faes yr Eisteddfod
  6. Rhagolygon y tywydd...wedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Diwrnod gwlyb fydd hi ar y cyfan draw ym Mharc Margam heddiw yn ôl y rhagolygon... ac ar y dyn yma mae'r bai mae'n debyg!

    Dyma Arfon, sydd yma am ddiwrnod arall o stiwardio. Mae wedi bod yn gwneud y swydd er nifer o flynyddoedd, meddai, ac "mae wastad yn bwrw pan fi 'ma!”

    Diolch Arfon!

    Arfon

    Yn ffodus, mae 'na ddigon o bebyll a stondinau i chi gysgodi ynddyn nhw!

    cysgod
  7. Gwerth yr holl ymarfer efo Mam!wedi ei gyhoeddi 11:12 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Roedd Guto o Ysgol Bro Lleu yn edrych 'mlaen at roi'r gorau i ymarfer llefaru gyda'i fam ar ôl y Steddfod Cylch... ond fe enillodd yno, ac yn yr Eisteddfod Sir.

    A nawr mae'n bencampwr cenedlaethol ar ôl dod i'r brig yng nghystadleuaeth Llefaru Unigol Bl.3 a 4 ddoe!

    Cafodd Guto a'i rieni sgwrs gydag Ifan Evans ar y maes, ar ôl y canlyniad brynhawn Llun, a soniodd fod ei dad am wneud 'silff sbesial' iddo gadw ei dlws a'i fedal arni.

    Ymlaen at Ynys Môn flwyddyn nesa'?

    Disgrifiad,

    Ifan a Guto

  8. O'r Trallwng i Margam ar gyfer Eisteddfod gyntafwedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Dyma dro cyntaf y teulu Hulse yn Eisteddfod yr Urdd. Maen nhw wedi teithio draw o'r Trallwng am bod Naomi yn cystadlu yn y ddawns greadigol.

    Dydyn nhw ddim am adael i'r tywydd gwael eu stopio rhag mwynhau, meddai Dad - diolch byth eu bod nhw wedi cael gafael ar bedwar o ponchos Sbarc!

    teulu o'r Trallwng
  9. 'Cam cyntaf at rywbeth llawer mwy'wedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Lowri Morgan yn yr Eisteddfod

    Y cyflwynydd ac athletwr Lowri Morgan yw Llywydd y Dydd ar ail ddiwrnod yr Eisteddfod.

    Yng nghynhadledd y wasg, dywedodd fod yr Urdd a'r Eisteddfod yn "fan cychwyn lle mae pobl yn gallu darganfod eu llais."

    Dywedodd mai "gwir rym yr Urdd yw ei fod yn fudiad sy'n rhoi cyfleoedd i gymaint o bobl, yn troi cyfleoedd yn atgofion a throi atgofion yn wreiddiau."

    A hithau wedi cystadlu yn yr Eisteddfod cryn dipyn ei hun, dywedodd fod "pob cystadleuaeth, sesiwn ymarfer, pob methiant wedi ychwanegu at fy sgiliau."

    "Dyma oedd y cam cyntaf at rywbeth llawer mwy" meddai.

  10. 'Mae'n amser i ni wneud sŵn'wedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Dyma fwy o wybodaeth hefyd am yr anthem mae Caryl Parry Jones wedi ei chyfansoddi ar gyfer pencampwriaeth Euro 2026...

    Dywedodd fod "rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru" yn rhan o gyfansoddi a chynhyrchu'r gân.

    "Mae Caryl Parry Jones wedi cyhoeddi beltar o gan bop," meddai Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydau yr Urdd.

    Bydd Eden, Rose Datta ac Aleighcia Scott yn perfformio'r gân.

    Ychwanegodd Caryl, "Mae 'na rhywbeth ynglŷn a merched Cymru, o'n arwresau, i Granogwen, i'r Welsh Mam... sy'n dangos ei bod hi'n amser i ni wneud sŵn!"

    "Mae'n flwyddyn fawr, nid yn unig i chwaraeon yng Nghymru ond i ddangos nerth ac undod y ferch Gymraeg."

    Darllenwch fwy am y prosiectau yma.

  11. Sioe gerdd newydd o ganeuon Caryl Parry Joneswedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Caryl Parry Jones ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth
    Disgrifiad o’r llun,

    Caryl Parry Jones ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth

    Yng Nghaerdydd ym mis Awst 2026, bydd Cwmni Theatr yr Urdd yn llwyfannu Calon; sioe gerdd newydd sbon yn llawn o ganeuon eiconig Caryl Parry Jones dros y degawdau.

    Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru ar 27, 28 a 29 Awst 2026. Mae tocynnau i’r perfformiadau ar werth heddiw, ar wefan y Ganolfan.

    Hon fydd sioe fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ers ail-lansio yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y Mudiad yn 2022, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

    Bydd y sioe yn cynnwys cast o dros 100 o bobl ifanc, rhwng 15 a 25 mlwydd oed o bob rhan o Gymru.

    Wrth rannu'r newyddion cyffrous, dywedodd Caryl Parry Jones ei bod "wrth ei bodd".

    Bydd Caryl yn cydweithio â dwy o'i merched, Greta a Miriam Isaac, a'i chyfnither, Non Parry. Meddai:

    "Fy nghyffro i ydi cael y bobl ifanc i roi ail wynt ar y caneuon 'ma".

    Bydd Caryl hefyd yn teithio o amgylch Cymru yn cynnal gweithgareddau yn ystod y flwyddyn, a dywedodd y bydd "mewnbwn y plant i'r prosiect yma yn amhrisiadwy".

  12. Mamwlad yn y carwedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Ger pabell Cwiar Na nOg, mae 'na gar lle gallwch chi wrando ar M4MWL4D, sef drama gomedi gan Mel Owen.

    Ond os nad ydych chi ar y maes, peidiwch â phoeni - gallwch hefyd wrando arni ar BBC Sounds.

    Car
  13. Yr Urdd yn mynd i'r Swistirwedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd

    Wrth annerch y dorf yng nghynhadledd y wasg ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis fod yr Urdd yn awyddus i "rymuso merched y dyfodol".

    Mae'r Urdd wedi lansio chwe phrosiect newydd i ddathlu a chefnogi tîm pêl-droed menywod Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2025.

    Bydd y prosiectau yn cyd-fynd ag ymgyrch #FelMerch yr Urdd - ymgyrch sy'n ceisio ysbrydoli a chefnogi menywod ifanc i gadw'n actif a chwalu rhwystrau o fewn chwaraeon.

    Fe gyhoeddodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydau yr Urdd, fod Caryl Parry Jones wedi cyfansoddi anthem fel rhan o'r ymgyrch. Eden, Rose Datta ac Aleghcia Scott fydd yn canu'r gân newydd.

  14. Atgofion Chis o'r Steddfodwedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Huw Chiswell

    Mae'r bachgen lleol ac un o gyd-gyfansoddwyr Cân y Croeso, y canwr Huw Chiswell wedi bod yn hel atgofion am Eisteddfodau'r gorffennol:

    "Ges i lwyfan yn y genedlaethol pan o'n i yn fy arddegau gyda'r gân unigol.

    "Ro'n i wedi sgwennu fy nghân fy hun pan o'n i tua 16 oed.

    "Eisteddfod Llanelwedd oedd hi. Fi'n credu ddes i'n ail i Linda Griffiths!"

    Dyna ddangos fod hyd yn oed perfformwyr o fri ddim wastad yn derbyn y wobr gyntaf!

  15. Sêr yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Fe wnaeth sêr yr Eisteddfod argraff fawr ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe.

    Roedd calonnau ar draws y wlad yn toddi tra'n gwylio ymateb emosiynol Guto Bell wrth dderbyn gwobr gan Mari Lovgreen, gan ddiolch i'w fam am ei chefnogaeth.

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram

    Ac mae fideo o ymweliad y dylanwadr byd-enwog Connor Marc Colquhoun i'r maes wedi ei wylio dros 250,000 o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol ers brynhawn ddoe.

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram 2

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram 2
  16. Maen nhw'n barod - ydych chi?wedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Ambiwlans St John

    Dyma griw Ambiwlans St John, ar y maes am ddiwrnod arall o gynnig cymorth...

    Gwen

    ... a Gwen o Gastell-nedd sydd yn barod i'ch croesawu ar stondin GIG Cymru.

  17. Croeso i ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr!wedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Ar ôl diwrnod i'w gofio ddoe, mae'r torfeydd unwaith eto'n teithio draw i Barc Margam... ac yn gobeithio am dywydd da!

    Mae criw Cymru Fyw ar y maes eto heddiw felly dilynwch ni yma ac ar ein cyfrifon cymdeithasol yn ystod y dydd.

    Bella a Harri o Sir Benfro gyda Mr Urdd ddydd Llun
    Disgrifiad o’r llun,

    Bella a Harri o Sir Benfro gyda Mr Urdd ddydd Llun