Dafydd Elis-Thomas 'â'r gallu i arwain gwlad'wedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich
Dros Ginio
BBC Radio Cymru
Dywedodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones fod Cymru ar ei cholled o beidio fod wedi gweld Dafydd Elis-Thomas yn arwain y wlad.
"Oedd e â’r gallu, ac â’r gallu i ymgysylltu â phobl mor rhwydd ar bob lefel... Roedd e’n rhyfeddol yn hynny o beth, ac yn gaffaeliad mawr felly fel cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith," meddai.
“Oedd gyda fe’r ddawn 'ma i gofio rhywbeth am bawb ac felly os oedd e’n cwrdd â nhw am yr ail dro roedd e’n cofio’r un peth, neu’r ddau beth yna a gallu dod â nhw mewn i’r sgwrs i ddangos bod e’n cofio amdanyn nhw.
"I fi, mae hynny’n sgil rhyfeddol ymhlith gwleidyddion ac yn un lle welais i e gryfa' ynddo fe.
"Oedd e’n rhyfeddol, wrth gerdded o gwmpas y wlad gyda fe a chwrdd â phobl y ffaith fod e’n gallu ymgysylltu mor rhwydd ag unrhyw un.”
![Meirion Prys Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/vivo/live/images/2025/2/7/a4c41481-7969-4a60-a84b-a923de7b43f8.jpg.webp)
Ychwanegodd Mr Jones fod arweiniad Dafydd Ellis-Thomas yn ystod ei gyfnod gyda Bwrdd yr Iaith "yn glir ac yn gadarn".
"Roedd e’n gadeirydd da iawn achos oedd gyda fe feddwl strategol clir, ac agenda yn ei ben ac eto roedd e’n gallu swyno pobl yr un pryd," meddai.
"Dwi’n credu bod y nodwedd honno yn gwneud cymaint o wahaniaeth i rhywun sy’n gadeirydd corff cyhoeddus. Roedd e’n gallu bod yn hwyliog ond hefyd yn eitha' siarp a phenodol ar adegau pan oedd angen gwneud hynny.
"Roedd gyda fe ddimensiwn Ewropeaidd clir iawn, ac yn sgil y weledigaeth honno fe wnaeth y bwrdd yn y pendraw sefydlu ac arwain rhwydwaith o ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop. Felly daeth y syniad yna yn wreiddiol gan Dafydd Elis-Thomas ei hun."