Crynodeb

Disgrifiad,

Fideo: Uchafbwyntiau gyrfa Dafydd Elis-Thomas

  1. 'Torri tir newydd'wedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod "colli Dafydd yn ergyd drom i wleidyddiaeth Cymru a bywyd sifig ein cenedl".

    "Yn ddi-os roedd Dafydd yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ac arwyddocaol ei genhedlaeth, a fel Llywydd y Cynulliad cyntaf gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i osod seiliau cadarn i ddatganoli.

    "Rydym yn cofio Dafydd fel un a dorrodd dir newydd fel yr Aelod Seneddol ieuengaf yn San Steffan yn 1974 ac aeth ymlaen i arwain Plaid Cymru gydag angerdd ac afiaeth.

    "Fe dyfais i fyny efo Dafydd yn ffrind personol a theuluol, a bu'n ddylanwadol arnaf i o fy mlynyddoedd ieuengaf.

    "Roedd ei gariad at ein cenedl, ein hiaith, a'n diwylliant yn ddi-wyro.

    "Ar ran Plaid Cymru, rwy'n estyn ein cydymdeimladau dwysaf â theulu Dafydd yn eu profedigaeth."

  2. Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marwwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror

    DETFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

    Yn gynharach heddiw, daeth cadarnhad fod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw.

    Dywedodd ei deulu ei fod wedi marw yn dawel ei gartref yn dilyn salwch byr. Roedd yn 78 oed.

    Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn 1974, ac yntau ond yn 27 oed - yr ieuengaf o'r 635 o aelodau.

    Bu hefyd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 a 1991, gan eistedd fel Aelod Cynulliad - ac yna Aelod o'r Senedd - rhwng 1999 a 2021.

    Ef oedd Llywydd cyntaf y Cynulliad, gan wasanaethu tan 2011.

    Byddwn yn dod â'r teyrngedau diweddaraf i chi, wrth i'r byd gwleidyddol gofio un o ffigyrau mwyaf blaenllaw a lliwgar Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.