Crynodeb

  1. 71,721 o raddau UG a Safon Uwch wedi eu dyfarnu yr haf yma - Cymwysterau Cymruwedi ei gyhoeddi 10:54 Amser Safonol Greenwich+1

    Cymwysterau Cymru

    Cyfanswm dyfarniadau Safon UwchFfynhonnell y llun, Cymwysterau Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    O ganlyniad i drefniadau dyfarnu gwahanol, nid yw'r ffigyrau ar gyfer 2020,2021,2022 a 2023 yn uniongyrchol gymaradwy â'i gilydd nac â blynyddoedd blaenorol

  2. Nerfusrwydd yn troi'n hapusrwyddwedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich+1

    Noor Abdul

    Mae Noor Abdul ar ei ffordd i University of West England, ar ôl astudio BTEC mewn diogelwch cyfrifiaduron a seibr yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

    Mae'n "hapus iawn" i gael mynd i'w ddewis cyntaf, meddai, er ei fod yn poeni bore 'ma ei fod wedi methu ei arholiadau:

    "O'n i'n nerfus iawn. Mae wedi bod yn lot o waith ond mae e werth e er mwyn cael y canlyniad.

    "Daeth fy rhieni hefyd, ac maen nhw mor falch."

  3. CBAC yn 'diolch yn fawr iawn i'r athrawon, darlithwyr, a staff cefnogi'wedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1

    Wrth ymateb i'r canlyniadau fore Iau, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw.

    "Mae'r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o'r gwaith caled, ymroddiad, a gwydnwch a ddangoswyd ganddyn nhw wrth astudio.

    "Ar ran CBAC, hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i'r athrawon, darlithwyr, a staff cefnogi yn yr ysgolion a cholegau am eu proffesiynoldeb diflino ac ymrwymiad i helpu'r myfyrwyr lwyddo unwaith eto eleni.

    "Mae'r canlyniadau hyn yn garreg filltir bwysig ac yn arwain at gamau nesaf cyffrous — p'un a yw hynny'n addysg uwch, hyfforddiant, neu'n ymuno â'r byd gwaith. Pa bynnag lwybr maen nhw'n ei ddewis, hoffem ddymuno'r gorau i bob myfyriwr at y dyfodol."

  4. Gofalwr ifanc wedi cael 2A* a Bwedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich+1

    A hithau'n ofalwr ifanc ac â swydd ran amser, roedd gan Meghan Cotty o Gaerffili mwy na dim ond adolygu ac arholiadau i boeni amdanyn nhw.

    Ond heddiw mae hi wedi llwyddo i gael y graddau angenrheidiol i fynd i astudio'r Gyfraith gyda Busnes ym Mhrifysgol Birmingham.

    "Mae hi wedi cymryd llawer o waith ac amynedd, ond dwi mor falch ei fod e wedi bod werth e.

    "Mae wedi bod yn anodd ond mae fy nheulu yn gefnogol iawn ac mae'r coleg wedi bod o gymorth mawr.

    Meghan Cotty

    Gan ei bod wedi cael 2A* a B, mae ei breuddwyd o fod yn gyfreithiwr gam yn agosach:

    "Dwi'n angerddol iawn am y gyfraith, a dwi'n edrych 'mlaen at fod yng nghanol pethau, ond yr ochr gymdeithasol hefyd.

    "Dwi mor falch fod y gwaith caled wedi bod werth e."

  5. Angen 'gweithredu brys' i hybu nifer y ceisiadau prifysgolwedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich+1

    Prifysgolion Cymru

    Roedd ffigyrau UCAS eleni yn dangos bod 32.5% o bobl 18 oed wedi gwneud cais i brifysgol erbyn diwedd mis Mehefin - sy'n is nag ar yr un pryd llynedd.

    Y gyfradd ar gyfer Prydain gyfan yw 41.2%.

    Mae'r data yn adlewyrchu "darlun cymysg" meddai Medr, y corff sy'n goruchwylio addysg a hyfforddiant ôl-16, gan gyfeirio at gynnydd yn nifer y ceisiadau o ardaloedd difreintiedig.

    Dywedodd llefarydd fod "data pellach sydd angen ei ystyried cyn cyrraedd darlun mwy cyflawn o'r flwyddyn academaidd nesaf a deall y ffactorau sy'n effeithio ar ddewisiadau myfyrwyr a'i effaith posib".

    Yn y gorffennol mae Prifysgolion Cymru wedi galw am "weithredu brys" i hybu nifer y bobl ifanc sy'n mynd ymlaen i addysg a hyfforddiant ar ôl 16.

    Dywedodd llefarydd fod prifysgol "yn cynnig profiad trawsnewidiol sydd o fudd nid yn unig i unigolion ond hefyd yn cryfhau ein cymunedau a'n heconomi".

  6. Canlyniadau is na'r gobaith 'ddim yn ddiwedd y byd'wedi ei gyhoeddi 10:17 Amser Safonol Greenwich+1

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    I'r disgyblion hynny sy'n cael siom o weld eu canlyniadau mae cymorth ar gael gan bobl fel Annette Evans - sy'n cynnig gwasanethau cwnsela i blant a phobl ifanc.

    Fel ymarferydd iechyd meddwl a llesiant ar draws Cymru, mae hi'n gallu helpu plant a'u rhieni weld nad yw canlyniadau is na'r gobaith yn ddiwedd y byd.

    "Mae o'n bwysig ar y diwrnod achos maen nhw wedi cael yr haf i gyd i feddwl amdano," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast, yn enwedig o weld lluniau disgyblion eraill yn dathlu eu llwyddiannau.

    "Mae'n rhaid i hi deimlo drostyn nhw achos maen nhw wedi gweithio mor galed a mae shwt gyment o straen...

    "Falle bydd drws arall yn agor," meddai, ac mae angen "dodi popeth ar y bord", gan gynnwys ystyried ailsefyll arholiadau mewn ysgol neu goleg addysg bellach.

    Y dasg i Annette ac ymgynghorwyr lles eraill yw "eistedd a gwrando shwt maen nhw'n teimlo, beth maen nhw'n hoffi 'neud a beth maen nhw eisie gwneud i symud ymlaen".

    Maen nhw hefyd yn gallu trefnu i siarad ar y ffôn neu drwy gyfarfod ar-lein gyda rhieni a gwarchodwyr disgyblion sydd efallai yr un mor ddryslys be allai'r cam nesaf fod i'r person ifanc.

  7. Viktoriia o Wcráin 'mor hapus'wedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1

    Daeth Viktoriia Tkackenko, 20 i'r DU o Wcráin ar ôl dechrau'r rhyfel â Rwsia.

    Mae hi ar ei ffordd i Brifysgol Abertawe i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth ar ôl casglu ei chanlyniadau Lefel A o Goleg Caerdydd a'r Fro.

    Mae hi "mor hapus" gyda beth mae hi wedi ei gyflawni, meddai.

    Viktoriia
  8. 'Sgil effeithiau mawr i'r pandemig' - Pennaeth Ysgol Maes Garmonwedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1

    Bronwen Hughes

    Mae Pennaeth Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug, Bronwen Hughes yn credu bod effaith cyfnod Covid yn dal i'w weld mewn ysgolion a cholegau heddiw.

    "Dwi'n meddwl bod effaith y pandemig am fod efo ni am flynyddoedd os nad degawdau i fod yn onest," meddai ar raglen Dros Frecwast.

    "Yn gyffredinol, yn gymdeithasol, o ran agweddau at addysg, presenoldeb, mae 'na sgil effeithiau mawr.

    "'Da ni yn eu gweld nhw rŵan, a (fyddwn ni'n eu) gweld nhw am flynyddoedd maith yn anffodus.

    "Mi ydan ni yn gwneud ein gorau fel proffesiwn i sicrhau bod ein pobl ifanc yn adfer y sgiliau maen nhw wedi colli, falle dipyn bach o golli hyder."

  9. Dwbl y dathlu!wedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae gan yr efeilliaid unfath o Gasnewydd Adrian a Łukasz Kolman achos i ddathlu ddwywaith, wrth iddyn nhw gasglu eu canlyniadau Lefel A o Goleg Caerdydd a'r Fro.

    Cafodd y ddau y graddau roedden nhw eu hangen, ond byddan nhw'n gwahanu am y tro cyntaf erioed wrth i'r ddau ohonyn nhw fynd i brifysgolion gwahanol.

    Adrian a Łukasz Kolman

    Cafodd Łukasz A* a 2A tra bod Adrian wedi cael 2A* ac A, ond does yna ddim cystadleuaeth rhwng y ddau, gan fod y ddau wedi bod yn helpu ei gilydd i adolygu.

    Meddai Łukasz: "Dwi jest mor gyffrous a hapus i fynd i'r brifysgol dwi eisiau". Roedd Adrian yn cytuno, ac yn meddwl y byddan nhw'n cael "amser gorau eu bywydau" yn y brifysgol.

  10. Dadansoddiad ein gohebydd addysgwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Nid yw canlyniadau Lefel A - neu Safon Uwch - cyffredinol Cymru yn dangos y newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn yr ydym wedi bod yn gyfarwydd â nhw ers 2020. Maen nhw, fwy neu lai, yn unol â 2024.

    Mae'r dychweliad i drefniadau arholiadau 'normal' wedi bod yn fwy graddol nag yn Lloegr, gyda bron pob un o'r mesurau cymorth ychwanegol i fyfyrwyr wedi'u gollwng y llynedd.

    Ond roedd rhai ffiniau gradd yn dal i fod yn isel iawn yn 2024.

    Mewn rhai pynciau maen nhw'n debygol o fod yn uwch eleni wrth i berfformiad - gobeithio - wella ar ôl holl aflonyddwch blynyddoedd Covid.

  11. Mwy o ddathlu ym Maes Garmonwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Lydia Kingsley-Williams yn "falch iawn" o'i chanlyniadau Lefel A y bore 'ma.

    Lydia Kingsley-Williams

    Cafodd Louisa 3A a B mewn Cerddoriaeth, Addysg Grefyddol, Bagloriaeth a Saesneg.

    Mae hi ar ei ffordd i Brifysgol Durham i astudio Cerddoriaeth a'r Cyfryngau.

    Louisa

    I Gaeredin mae Pia yn gobeithio mynd ar ôl derbyn ei graddau, a hynny i astudio Athroniaeth a Ieithyddiaeth.

    Pia
  12. Llwyddiant i Sandy o Sri Lankawedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1

    Roedd Sandy Abeyainghe, yn un o'r rhai oedd yn casglu ei ganlyniadau o Goleg Caerdydd a'r Fro bore 'ma. Symudodd o Sri Lanka i Gaerdydd dair blynedd yn ôl, ac roedd wedi bod yn astudio BTEC mewn Cyfrifiadureg.

    Dywedodd: "Ges i'n well nag o'n i'n ei ddisgwyl, a dwi mor hapus.

    Sandy Abeyainghe

    "Oherwydd mod i ddim wedi bod yn byw yn y DU ers pum mlynedd, dwi ddim yn cael yr un arian," eglurodd, "felly dwi ddim yn mynd i'r brifysgol eto. Dwi am wneud HMC rhan amser yn y cyfamser.

    "Mae e un dydd yr wythnos a galla i fyw gyda fy rhieni. Wedyn, gobeithio, alla i fynd i'r brifysgol."

  13. Ysgrifennydd Addysg Cymru 'am barhau i weithio i godi safonau'wedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich+1

    lynne neagle

    "Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i fyfyrwyr ledled Cymru wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau. Dw i'n estyn fy llongyfarchiadau twymgalon i bob myfyriwr, yn ogystal â'n hathrawon a'n staff addysg ymroddedig, y mae eu hymrwymiad a'u hymdrech wedi dod â ni i'r foment hon," meddai Lynne Neagle.

    "Mae pob dysgwr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw wedi ennill yr hawl i deimlo balchder aruthrol yn yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni, ac mae'r cyflawniadau hyn yn arddangos penderfyniad rhyfeddol.

    "Wrth i chi edrych tua'r dyfodol, p'un a yw hynny'n golygu dechrau prentisiaeth, dechrau cyflogaeth, neu ddechrau astudio yn y brifysgol, dw i'n dymuno 'pob lwc' i chi."

    Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Addysg fod cymorth dal ar gael i'r rhai sydd angen cymorth o ran eu camau nesaf, "drwy eich ysgol neu'ch coleg a'r Warant i Bobl Ifanc, sy'n darparu ystod o opsiynau".

    "Fe fydda' i'n parhau i weithio ar godi safonau addysgol a sicrhau bod pob person ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gyflawni eu nodau."

  14. Canran y graddau Safon Uwch gorau yn debyg iawn i'r llyneddwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1
    Newydd dorri

    Mae cyfran y graddau Safon Uwch uchaf yng Nghymru wedi aros yn debyg i'r llynedd.

    Roedd 10.5% o'r graddau yn A* - ychydig yn uwch na'r llynedd - tra bod 29.5% yn A* ac A o'i gymharu â 29.9% yn 2024.

    Mae mesurau ychwanegol i gefnogi myfyrwyr ar ôl y pandemig wedi cael eu gollwng yn raddol fel rhan o ddychwelyd i drefniadau 'normal'.

    Roedd yna newidiadau i arholiadau yn 2022 a 2023 er mwyn adlewyrchu'r effaith gafodd y pandemig ar ddysgu.

  15. Cofiwch am y system Gliriowedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1

    I'r rheiny sydd heb gael y canlyniadau roedden nhw wedi ei obeithio amdano, mae dal ffyrdd o sicrhau lle yn y brifysgol gan gynnwys drwy'r system Glirio - sy'n cael ei gynnig gan holl brifysgolion Cymru.

    Yn ôl Sera Evans o Brifysgol De Cymru, mae'r system Glirio yn cynnig opsiynau gwerthfawr i nifer o fyfyrwyr.

    "Mae'n adeg gyffrous iawn ac mae sawl opsiwn nawr ar gael i fyfyrwyr arfaethedig. Er enghraifft, os oes rhywun heb dderbyn y graddau roedden nhw wedi eu disgwyl, mae nifer o gyrsiau a nifer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau amgen a nifer o gyrsiau ac opsiynau eraill iddyn nhw hefyd."

    Sera Evans

    "Hefyd mae Clirio, yn ogystal, ar gyfer y rheini sydd falle wedi newid eu meddwl. So maen nhw wedi penderfynu mynd ar drywydd, a nawr maen nhw moyn newid y trywydd hynny a mentro ar rywbeth gwahanol," ychwanegodd.

    "Mae 'na falle mwy o fyfyrwyr nawr ishe aros adref hefyd, felly wedi penderfynu 'na dwi ishe mynd i rywle gwahanol ac astudio rhywbeth gwahanol' hyd yn oed.

    "Hefyd, mae clirio ar gael i'r rheini sydd ddim wedi meddwl am ymgeisio i addysg uwch hyd yn hyn - falle maen nhw wedi derbyn canlyniadau heddi neu hyd yn oed wedi penderfynu dros yr Haf i fynd 'nol i addysg uwch neu ystyried addysg uwch - ac felly mae hyn yn gyfle hyfryd iddyn nhw weld pa fath o gyrsiau sydd mas yna gan brifysgolion i fentro arnyn nhw."

  16. 'Edrych ymlaen at fynd i deithio'wedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1

    Dywedodd Osian Scourfield o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ei fod yn “edrych ymlaen at y rhyddhad, i agor yr amlen a gweld y gradde”.

    “Yr aros, that's what gets you,” meddai.

    Mae wedi bod yn gweithio mewn siop am flwyddyn i gynilo arian er mwyn mynd i deithio.

    “Do’n i methu penderfynu os dyle fi fynd nawr neu i’r brifysgol gynta’ ond nath Dad ddweud i fi fynd amdano felly dyna fisie neud.”

    The world’s my oyster,” ychwanegodd gan esbonio yn y pendraw “licie ni ymuno â’r heddlu i fod yn dditectif - hwna wastad ‘di bod o ddidodreb i mi, neu rhywbeth fel rhan o’r diplomatic corps - a teithio’n rhan o’r swydd”.

    Osian ScourfieldFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  17. Cyngor ar gael i ddarpar fyfyrwyrwedi ei gyhoeddi 09:11 Amser Safonol Greenwich+1

    Prifysgolion Cymru

    Mae Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, wedi llongyfarch pawb sydd yn derbyn canlyniadau heddiw.

    “Dylai’r myfyrwyr fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni a gallant edrych ymlaen nawr at y cam nesaf ar eu taith. I lawer, bydd hynny’n golygu astudio mewn prifysgol.

    “Mae cyfnod prifysgol yn gallu bod yn un sy’n trawsnewid bywydau, gan agor drysau a chyfleoedd sy’n gallu newid bywydau dysgwyr.

    "Gall myfyrwyr sy’n ymuno ag un o brifysgolion Cymru yn yr hydref edrych ymlaen at gael profiad prifysgol o’r radd flaenaf a fydd yn rhoi boddhad ac yn eu cynorthwyo i gyflawni eu dyheadau a gwireddu eu potensial.

    “Ar gyfer y rhai sy’n dal heb benderfynu ar eu cam nesaf neu rai na chafodd y canlyniadau roedden nhw’n gobeithio eu cael, mae llawer o opsiynau ar gael yng Nghymru drwy’r broses glirio. Mae cynghorwyr yn ein prifysgolion yn aros i roi cyngor i ddarpar fyfyrwyr ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.”

  18. Myfyrwyr hapus ym Maes Garmonwedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1

    Osian, ifan, Archie, Morgan a Harrison
    Disgrifiad o’r llun,

    Osian, Ifan, Archie, Morgan a Harrison o Ysgol Maes Garmon

    Mae achos i ddathlu ym Maes Garmon yn Yr Wyddgrug, wrth i'r disgyblion cyntaf gasglu eu canlyniadau.

    Roedd Nia wedi cael sioc o ddysgu ei bod hi wedi cael 4A* mewn Mathemateg, Cemeg, Bioleg a'r Bac; mae hi'n mynd i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor.

    Nia

    Mae Ifan Jones ar ei ffordd i Brifysgol Manceinion i wneud cwrs Meistr mewn Peirianneg Sifil ar ôl cael y graddau roedd eu hangen mewn Busnes, Mathemateg, Ffiseg a'r Bac.

    Ifan Jones
  19. 'Mae'r nerfau'n uchel iawn'wedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Sam BaleFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

    Mae Sam Bale o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn dweud ei fod yn eithaf nerfus am dderbyn ei ganlyniadau.

    Astudiodd Sam Llenyddiaeth Saesneg, Cemeg, Bioleg a Bagloriaeth Cymru ar gyfer Safon Uwch.

    Mae’n gobeithio cael ABB i gael lle ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

    “Hoffwn fod yn ysgrifennydd yn y dyfodol,” meddai, ond ei fod "yn deall bod y farchnad swydd yn eithaf tynn ond dyna’r freuddwyd”.

    Ychwanegodd fod ei “nerfau’n uchel iawn ond ar yr un pryd does dim byd fi’n gallu neud nawr just aros a gobeithio y bydd popeth yn iawn”.

  20. Disgyblion Ysgol Maes Garmon 'yn haeddu llwyddiant'wedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1

    Yn siarad ar raglen Dros Frecwast y bore 'ma, dywedodd Pennaeth Chweched Dosbarth Ysgol Maes Garmon, Aled Owen fod y disgyblion wedi bod yn gweithio'n galed iawn.

    "Dwi yn sicr iawn pan fydd y disgyblion mewn y bydd y rhan helaeth yn hapus iawn," meddai.

    "Mae'n amlwg bo' nhw wedi gweithio yn galed iawn ac mae'r rhan helaeth yn haeddu'r llwyddiant arbennig yma."

    Aled Owen