Crynodeb

  1. Dwbl y dathlu!wedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae gan yr efeilliaid unfath o Gasnewydd Adrian a Łukasz Kolman achos i ddathlu ddwywaith, wrth iddyn nhw gasglu eu canlyniadau Lefel A o Goleg Caerdydd a'r Fro.

    Cafodd y ddau y graddau roedden nhw eu hangen, ond byddan nhw'n gwahanu am y tro cyntaf erioed wrth i'r ddau ohonyn nhw fynd i brifysgolion gwahanol.

    Adrian a Łukasz Kolman

    Cafodd Łukasz A* a 2A tra bod Adrian wedi cael 2A* ac A, ond does yna ddim cystadleuaeth rhwng y ddau, gan fod y ddau wedi bod yn helpu ei gilydd i adolygu.

    Meddai Łukasz: "Dwi jest mor gyffrous a hapus i fynd i'r brifysgol dwi eisiau". Roedd Adrian yn cytuno, ac yn meddwl y byddan nhw'n cael "amser gorau eu bywydau" yn y brifysgol.

  2. Dadansoddiad ein gohebydd addysgwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Nid yw canlyniadau Lefel A - neu Safon Uwch - cyffredinol Cymru yn dangos y newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn yr ydym wedi bod yn gyfarwydd â nhw ers 2020. Maen nhw, fwy neu lai, yn unol â 2024.

    Mae'r dychweliad i drefniadau arholiadau 'normal' wedi bod yn fwy graddol nag yn Lloegr, gyda bron pob un o'r mesurau cymorth ychwanegol i fyfyrwyr wedi'u gollwng y llynedd.

    Ond roedd rhai ffiniau gradd yn dal i fod yn isel iawn yn 2024.

    Mewn rhai pynciau maen nhw'n debygol o fod yn uwch eleni wrth i berfformiad - gobeithio - wella ar ôl holl aflonyddwch blynyddoedd Covid.

  3. Mwy o ddathlu ym Maes Garmonwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Lydia Kingsley-Williams yn "falch iawn" o'i chanlyniadau Lefel A y bore 'ma.

    Lydia Kingsley-Williams

    Cafodd Louisa 3A a B mewn Cerddoriaeth, Addysg Grefyddol, Bagloriaeth a Saesneg.

    Mae hi ar ei ffordd i Brifysgol Durham i astudio Cerddoriaeth a'r Cyfryngau.

    Louisa

    I Gaeredin mae Pia yn gobeithio mynd ar ôl derbyn ei graddau, a hynny i astudio Athroniaeth a Ieithyddiaeth.

    Pia
  4. Llwyddiant i Sandy o Sri Lankawedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1

    Roedd Sandy Abeyainghe, yn un o'r rhai oedd yn casglu ei ganlyniadau o Goleg Caerdydd a'r Fro bore 'ma. Symudodd o Sri Lanka i Gaerdydd dair blynedd yn ôl, ac roedd wedi bod yn astudio BTEC mewn Cyfrifiadureg.

    Dywedodd: "Ges i'n well nag o'n i'n ei ddisgwyl, a dwi mor hapus.

    Sandy Abeyainghe

    "Oherwydd mod i ddim wedi bod yn byw yn y DU ers pum mlynedd, dwi ddim yn cael yr un arian," eglurodd, "felly dwi ddim yn mynd i'r brifysgol eto. Dwi am wneud HMC rhan amser yn y cyfamser.

    "Mae e un dydd yr wythnos a galla i fyw gyda fy rhieni. Wedyn, gobeithio, alla i fynd i'r brifysgol."

  5. Ysgrifennydd Addysg Cymru 'am barhau i weithio i godi safonau'wedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich+1

    lynne neagle

    "Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i fyfyrwyr ledled Cymru wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau. Dw i'n estyn fy llongyfarchiadau twymgalon i bob myfyriwr, yn ogystal â'n hathrawon a'n staff addysg ymroddedig, y mae eu hymrwymiad a'u hymdrech wedi dod â ni i'r foment hon," meddai Lynne Neagle.

    "Mae pob dysgwr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw wedi ennill yr hawl i deimlo balchder aruthrol yn yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni, ac mae'r cyflawniadau hyn yn arddangos penderfyniad rhyfeddol.

    "Wrth i chi edrych tua'r dyfodol, p'un a yw hynny'n golygu dechrau prentisiaeth, dechrau cyflogaeth, neu ddechrau astudio yn y brifysgol, dw i'n dymuno 'pob lwc' i chi."

    Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Addysg fod cymorth dal ar gael i'r rhai sydd angen cymorth o ran eu camau nesaf, "drwy eich ysgol neu'ch coleg a'r Warant i Bobl Ifanc, sy'n darparu ystod o opsiynau".

    "Fe fydda' i'n parhau i weithio ar godi safonau addysgol a sicrhau bod pob person ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gyflawni eu nodau."

  6. Canran y graddau Safon Uwch gorau yn debyg iawn i'r llyneddwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1
    Newydd dorri

    Mae cyfran y graddau Safon Uwch uchaf yng Nghymru wedi aros yn debyg i'r llynedd.

    Roedd 10.5% o'r graddau yn A* - ychydig yn uwch na'r llynedd - tra bod 29.5% yn A* ac A o'i gymharu â 29.9% yn 2024.

    Mae mesurau ychwanegol i gefnogi myfyrwyr ar ôl y pandemig wedi cael eu gollwng yn raddol fel rhan o ddychwelyd i drefniadau 'normal'.

    Roedd yna newidiadau i arholiadau yn 2022 a 2023 er mwyn adlewyrchu'r effaith gafodd y pandemig ar ddysgu.

  7. Cofiwch am y system Gliriowedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1

    I'r rheiny sydd heb gael y canlyniadau roedden nhw wedi ei obeithio amdano, mae dal ffyrdd o sicrhau lle yn y brifysgol gan gynnwys drwy'r system Glirio - sy'n cael ei gynnig gan holl brifysgolion Cymru.

    Yn ôl Sera Evans o Brifysgol De Cymru, mae'r system Glirio yn cynnig opsiynau gwerthfawr i nifer o fyfyrwyr.

    "Mae'n adeg gyffrous iawn ac mae sawl opsiwn nawr ar gael i fyfyrwyr arfaethedig. Er enghraifft, os oes rhywun heb dderbyn y graddau roedden nhw wedi eu disgwyl, mae nifer o gyrsiau a nifer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau amgen a nifer o gyrsiau ac opsiynau eraill iddyn nhw hefyd."

    Sera Evans

    "Hefyd mae Clirio, yn ogystal, ar gyfer y rheini sydd falle wedi newid eu meddwl. So maen nhw wedi penderfynu mynd ar drywydd, a nawr maen nhw moyn newid y trywydd hynny a mentro ar rywbeth gwahanol," ychwanegodd.

    "Mae 'na falle mwy o fyfyrwyr nawr ishe aros adref hefyd, felly wedi penderfynu 'na dwi ishe mynd i rywle gwahanol ac astudio rhywbeth gwahanol' hyd yn oed.

    "Hefyd, mae clirio ar gael i'r rheini sydd ddim wedi meddwl am ymgeisio i addysg uwch hyd yn hyn - falle maen nhw wedi derbyn canlyniadau heddi neu hyd yn oed wedi penderfynu dros yr Haf i fynd 'nol i addysg uwch neu ystyried addysg uwch - ac felly mae hyn yn gyfle hyfryd iddyn nhw weld pa fath o gyrsiau sydd mas yna gan brifysgolion i fentro arnyn nhw."

  8. 'Edrych ymlaen at fynd i deithio'wedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1

    Dywedodd Osian Scourfield o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ei fod yn “edrych ymlaen at y rhyddhad, i agor yr amlen a gweld y gradde”.

    “Yr aros, that's what gets you,” meddai.

    Mae wedi bod yn gweithio mewn siop am flwyddyn i gynilo arian er mwyn mynd i deithio.

    “Do’n i methu penderfynu os dyle fi fynd nawr neu i’r brifysgol gynta’ ond nath Dad ddweud i fi fynd amdano felly dyna fisie neud.”

    The world’s my oyster,” ychwanegodd gan esbonio yn y pendraw “licie ni ymuno â’r heddlu i fod yn dditectif - hwna wastad ‘di bod o ddidodreb i mi, neu rhywbeth fel rhan o’r diplomatic corps - a teithio’n rhan o’r swydd”.

    Osian ScourfieldFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  9. Cyngor ar gael i ddarpar fyfyrwyrwedi ei gyhoeddi 09:11 Amser Safonol Greenwich+1

    Prifysgolion Cymru

    Mae Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, wedi llongyfarch pawb sydd yn derbyn canlyniadau heddiw.

    “Dylai’r myfyrwyr fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni a gallant edrych ymlaen nawr at y cam nesaf ar eu taith. I lawer, bydd hynny’n golygu astudio mewn prifysgol.

    “Mae cyfnod prifysgol yn gallu bod yn un sy’n trawsnewid bywydau, gan agor drysau a chyfleoedd sy’n gallu newid bywydau dysgwyr.

    "Gall myfyrwyr sy’n ymuno ag un o brifysgolion Cymru yn yr hydref edrych ymlaen at gael profiad prifysgol o’r radd flaenaf a fydd yn rhoi boddhad ac yn eu cynorthwyo i gyflawni eu dyheadau a gwireddu eu potensial.

    “Ar gyfer y rhai sy’n dal heb benderfynu ar eu cam nesaf neu rai na chafodd y canlyniadau roedden nhw’n gobeithio eu cael, mae llawer o opsiynau ar gael yng Nghymru drwy’r broses glirio. Mae cynghorwyr yn ein prifysgolion yn aros i roi cyngor i ddarpar fyfyrwyr ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.”

  10. Myfyrwyr hapus ym Maes Garmonwedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1

    Osian, ifan, Archie, Morgan a Harrison
    Disgrifiad o’r llun,

    Osian, Ifan, Archie, Morgan a Harrison o Ysgol Maes Garmon

    Mae achos i ddathlu ym Maes Garmon yn Yr Wyddgrug, wrth i'r disgyblion cyntaf gasglu eu canlyniadau.

    Roedd Nia wedi cael sioc o ddysgu ei bod hi wedi cael 4A* mewn Mathemateg, Cemeg, Bioleg a'r Bac; mae hi'n mynd i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor.

    Nia

    Mae Ifan Jones ar ei ffordd i Brifysgol Manceinion i wneud cwrs Meistr mewn Peirianneg Sifil ar ôl cael y graddau roedd eu hangen mewn Busnes, Mathemateg, Ffiseg a'r Bac.

    Ifan Jones
  11. 'Mae'r nerfau'n uchel iawn'wedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Sam BaleFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

    Mae Sam Bale o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn dweud ei fod yn eithaf nerfus am dderbyn ei ganlyniadau.

    Astudiodd Sam Llenyddiaeth Saesneg, Cemeg, Bioleg a Bagloriaeth Cymru ar gyfer Safon Uwch.

    Mae’n gobeithio cael ABB i gael lle ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

    “Hoffwn fod yn ysgrifennwr yn y dyfodol,” meddai, ond ei fod "yn deall bod y farchnad swydd yn eithaf tynn ond dyna’r freuddwyd”.

    Ychwanegodd fod ei “nerfau’n uchel iawn ond ar yr un pryd does dim byd fi’n gallu neud nawr just aros a gobeithio y bydd popeth yn iawn”.

  12. Disgyblion Ysgol Maes Garmon 'yn haeddu llwyddiant'wedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1

    Yn siarad ar raglen Dros Frecwast y bore 'ma, dywedodd Pennaeth Chweched Dosbarth Ysgol Maes Garmon, Aled Owen fod y disgyblion wedi bod yn gweithio'n galed iawn.

    "Dwi yn sicr iawn pan fydd y disgyblion mewn y bydd y rhan helaeth yn hapus iawn," meddai.

    "Mae'n amlwg bo' nhw wedi gweithio yn galed iawn ac mae'r rhan helaeth yn haeddu'r llwyddiant arbennig yma."

    Aled Owen
  13. 'Trio cadw'n brysur' cyn y diwrnod mawrwedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich+1

    Mia OwenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

    Wrth i’r diwrnod canlyniadau agosáu roedd y nerfau’n cynyddu i Mia Owen o Ysgol Gyfun Llangefni.

    “Ma’ bach yn overwhelming” meddai “so dwi just ‘di bod yn trio cadw’n brysur”.

    Mae’n gobeithio mynd i Brifysgol John Moores Lerpwl i astudio cwrs Nyrsio Oedolion.

    “’Da ni am ddathlu nos Iau a wedyn dwi’n dal awyren i fynd i Prague bore dydd Gwener am weekend break so dwi'n edrych ymlaen rŵan”.

    “Dwi'n teimlo dipyn bach yn nerfus,” meddai, “achos mae’r holl flynyddoedd yn yr ysgol, ysgol gynradd a gyfun i gyd yn dibynnu ar ddydd Iau”.

  14. Ceisiadau prifysgol yn gostwng eto - ydy agweddau'n newid?wedi ei gyhoeddi 08:55 Amser Safonol Greenwich+1

    Fe fydd llawer o'r disgyblion sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw â'u bryd ar barhau gyda'u hastudiaethau mewn prifysgol.

    Er bod canran y bobl 18 oed o Gymru sydd wedi gwneud cais am brifysgol wedi gostwng eto eleni, mae'n parhau yn ddewis poblogaidd i chweched ddosbarth Ysgol Gymraeg Gwynllyw ger Pont-y-pŵl.

    Serch hynny, mae'r disgyblion blwyddyn 12, fydd yn gadael yr ysgol haf nesaf, yn ystyried posibiliadau eraill hefyd.

    "Dwi ddim mor sicr achos mae'n gostus iawn ac mae llawer o bobl nawr methu cael swyddi ar ôl prifysgol", meddai Amy, sy'n 17 ac o'r Fenni.

    Yn ôl eu hathrawes Rhian James, mae'r toriadau mae rhai prifysgolion wedi gwneud yn sgil heriau ariannol "wedi rhoi ofn i ambell un".

    disgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ystyried y camau nesaf, gan gynnwys prifysgol

    Mae'r ysgol yn etholaeth seneddol Torfaen, ble aeth llai o bobl ifanc i brifysgol llynedd nag yn unrhyw rhan arall o Gymru, yn ôl ffigyrau gan y corff sy'n prosesu ceisiadau, UCAS.

    Fe wnaeth 16.9% o bobl 18 oed yr ardal fynd i'r brifysgol yn 2024, o'i gymharu gyda 47.9% yng Ngogledd Caerdydd.

    Ar draws Llundain, y ffigwr yw 51.5%. Mae gan Ieuan, sy'n 17 ac o Gwmbrân, ddiddordeb yn y gyfraith ond mae'n ystyried hyfforddi drwy brentisiaeth, er yn gweld manteision prifysgol hefyd.

    "Bywyd ym mhrifysgol, symud mas o'r tŷ a dwi'n meddwl cymdeithasu gyda pobl newydd yn beth mawr", meddai.

    "Ond yn ogystal mae'n rhaid cofio bod costau yn dod gyda hynna so dyna pam mae prentisiaethau yn apelio mwy i fi."

  15. Edrych 'nôl ar ganlyniadau 2024wedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1

    Cyn i ganlyniadau eleni ein cyrraedd, beth am edrych yn ôl ar ffigyrau y llynedd?

    • Fe wnaeth y graddau uchaf ar gyfer Safon Uwch yng Nghymru ostwng wedi i’r drefn farcio mwy hael ers y pandemig ddod i ben.
    • Roedd canran y graddau A ac A* yn 29.9%, o'i gymharu gyda 34% yn 2023.
    • Roedd y canlyniadau’n agosach at lefel 2019 ac yn ôl Cymwysterau Cymru, sy'n goruchwylio'r arholiadau, roedd y canlyniadau’n rhan o’r “cam olaf wrth ddychwelyd yn raddol i brosesau cyn y pandemig”.
  16. Mae'n ddiwrnod canlyniadau - croeso i'r llif byw!wedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae'n fore hollbwysig i filoedd o ddisgyblion a myfyrwyr wrth iddyn nhw dderbyn canlyniadau arholiadau a chyrsiau.

    Ar draws y wlad fe fydd graddau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a chanlyniadau rhai cymwysterau galwedigaethol yn cael eu cyhoeddi.

    Am y diweddaraf o ran canlyniadau, yr ymateb a chyngor prifysgolion a swyddogion gyrfaoedd, arhoswch gyda ni.