Crynodeb

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    A dyna ddiwedd ein llif byw wedi bore cyffrous i ddisgyblion ar hyd a lled y wlad wrth iddyn nhw dderbyn canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, BTec a chymwysterau eraill.

    Daeth cadarnhad fod cyfran y graddau Safon Uwch uchaf yng Nghymru wedi aros yn debyg iawn i'r llynedd - gyda 29.5% yn A* ac A o'i gymharu â 29.9% yn 2024.

    Diolch yn fawr i chi am ddilyn y cyfan ar Cymru Fyw a phob lwc i'r disgyblion sydd nawr yn ystyried eu camau nesaf.

  2. Mae dal amser i wneud cais am gyllid myfyrwyrwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Dydi hi ddim rhy hwyr i chi wneud cais am gyllid myfyrwyr, ond gwnewch y cais cyn gynted â phosib, yw neges Cyllid Myfyrwyr Cymru, gan y gall ceisiadau gymryd hyd at bedair wythnos i'w prosesu.

    Mae'r holl wybodaeth sydd ei angen ar y wefan., dolen allanol

  3. NAHT Cymru: 'Graddau yn haeddiannol'wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    NAHT Cymru

    Mae'r graddau heddiw yn ganlyniad gwaith caled gan fyfyrwyr a staff ysgolion a cholegau er mwyn galluogi pobl ifanc i symud ymlaen i gam nesaf eu llwybr, meddai undeb arweinwyr ysgolion, NAHT Cymru - boed hynny yn astudio pellach, prentisiaeth, hyfforddiant neu swydd.

    "Tra bod graddau A* ac A-E ychydig yn uwch yng Nghymru eleni, maen nhw'n adlewyrchiad o waith caled y bobl ifanc a'u hathrawon. Mae gennym ni system arholi gadarn, wedi ei rheoleiddio, a gallwn ni fod yn hyderus fod y graddau yn haeddiannol."

  4. 40% o A* ac A yn Ysgol Bro Preseliwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Mae Ysgol Bro Preseli wedi cael llwyddiant "rhagorol" yn y canlyniadau Safon Uwch eleni, gyda 40% o'r graddau yn rhai A* neu A.

    Dyma unig ddarparwr addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg llawn yn Sir Benfro, sydd yn dweud fod "ymddiriedaeth cymuned ein hysgol yng ngwerth addysg Gymraeg wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant".

    Dywedodd y Pennaeth, Mrs Rhonwen Morris:"Mae’r canlyniadau eleni yn adlewyrchu nid yn unig gallu academaidd ein disgyblion, ond hefyd eu dyfalbarhad a’u gwerthoedd. Rydym yn falch iawn o’u llwyddiant ac yn edrych ymlaen at weld y camau nesaf yn eu taith. Mae’r gymuned ysgol gyfan yn dathlu gyda nhw heddiw."

  5. 'Bydd yna wastad groeso cynnes i chi yng Ngheredigion'wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Cyngor Ceredigion

    Mae Cyngor Ceredigion yn estyn llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw ac yn dymuno'n dda i'r myfyrwyr, beth bynnag fydd eu cam nesaf.

    "Mae eich gwaith caled, eich ymroddiad a'ch gwytnwch wedi talu ar ei ganfed," meddai'r Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. "Mae pob un ohonoch wedi dangos penderfyniad ac ymrwymiad rhyfeddol, ac rydym yn hynod falch o'ch cyflawniadau.

    "Dymuniad da i bawb ar ba bynnag benderfyniad byddwch yn ei wneud ar gyfer eich dyfodol, bydd yna wastad groeso cynnes i chi yng Ngheredigion, p'un a ydych chi am aros yma neu ddychwelyd i'r Sir.”

  6. Pobl ifanc 'ddim yn cyrraedd eu potensial yn llawn' dan arweiniad Llafurwedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion addysg, Natasha Ashgar fod "athrawon, staff cefnogi, disgyblion a rhieni wedi gweithio'n ofnadwy o galed, ond fod Llafur yn dal Cymru'n ôl".

    "Mae'n siomedig iawn i Gymru fod canlyniadau dan arweiniad Llafur wedi disgyn, ond mewn rhannau eraill o'r DU mae'r nifer sy'n derbyn y graddau gorau wedi cynyddu.

    "Ar ôl 26 mlynedd dan y Blaid Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, mae'n glir fod llai o bobl ifanc yn gallu cyrraedd eu potensial yn llawn.

    "Dim ond y Ceidwadwyr fyddai'n gallu adfer y system addysg yma yng Nghymru."

    Natasha AshgarFfynhonnell y llun, Y Senedd
  7. Cyngor ar gyfer y dyfodol ar Bitesizewedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    BBC Bitesize

    Helpodd Bitesize chi gyda'r adolygu... nawr gall eich helpu chi gyda'ch dyfodol...

    Ar wefan BBC Bitesize, mae straeon pobl ifanc go iawn am eu swyddi a'u gyrfaoedd, tips am sut i ddiweddaru eich CV a chyngor ar sut i fynd ati i benderfynu beth yw'r llwybr cywir i chi.

  8. 17,010 o ddysgwyr wedi derbyn graddau Uwch Gyfrannol yr haf hwnwedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Cymwysterau Cymru

    • Dyfarnwyd 39,930 o raddau Uwch Gyfrannol (UG) i 17,010 o ddysgwyr yr haf hwn, yn ôl Cymwysterau Cymru
    • Safodd 60.9% o ddysgwyr UG 17 oed o leiaf 3 UG yr haf hwn
    • Ar gyfartaledd, cymerodd dysgwyr UG 17 oed 2.6 UG yr haf hwn, yr un fath ag yn haf 2024
    canlyniadau UGFfynhonnell y llun, Cymwysterau Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    O ganlyniad i drefniadau dyfarnu gwahanol, nid yw'r ffigyrau ar gyfer 2020,2021,2022 a 2023 yn uniongyrchol gymaradwy â'i gilydd nac â blynyddoedd blaenorol

  9. O Goleg Caerdydd a'r Fro - dadansoddiad Gohebydd Addysg BBC Cymruwedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

  10. Beth nesaf? Cyngor Gyrfa Cymruwedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Gyrfa Cymru

    Wedi derbyn eich canlyniadau Lefel A, a ddim yn siŵr beth i'w wneud nesaf? Mae gan wefan Gyrfa Cymru, dolen allanol lawer o adnoddau a all eich helpu gyda'r dyfodol.

    Cymerwch gwis i ddysgu pa yrfa neu swyddi fyddai'n addas i chi, chwiliwch am gyrsiau prifysgol, swyddi neu brentisiaethau, neu ddod o hyd i gymorth a chyngor ynglŷn â'r camau nesaf

  11. Arwydd o 'botensial anhygoel pobl ifanc Cymru'wedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Plaid Cymru

    Wrth ymateb i'r canlyniadau, dywedodd yr Aelod Plaid Cymru o'r Senedd,Cefin Campbell fod y blaid eisiau rhoi'r "dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn".

    “Ar ran Plaid Cymru, hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr hynny sy'n derbyn eu canlyniadau Lefel-A a BTEC heddiw. Mae'r llwyddiant a welwyd ledled Cymru yn dyst i waith caled myfyrwyr a'u hathrawon.

    "Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn ein hatgoffa o botensial anhygoel ein pobl ifanc yma yng Nghymru, ac mae gan Blaid Cymru uchelgais go iawn iddyn nhw.

    "Yn 2026, bydd pobl Cymru yn cael cyfle i ethol Llywodraeth Plaid Cymru a fydd yn blaenoriaethu rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn ifanc.

    "P'un a yw'r cam nesaf i'r rhai sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw yn brifysgol, prentisiaeth, neu gamu i mewn i'r byd gwaith, rwy'n dymuno pob lwc iddynt, ac yn addo iddynt y bydd Plaid Cymru wastad yn eu cefnogi."

    Cefin Campbell
  12. Cyngor Gwynedd yn llongyfarch disgyblionwedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Cyngor Gwynedd

    Estynnodd Gyngor Gwynedd eu llongyfarchiadau i fyfyrwyr ysgolion y sir oedd yn derbyn eu canlyniadau heddiw.

    Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Gwynedd:

    “Mae llwyddiant ein pobl ifanc gyda’u canlyniadau heddiw yn adlewyrchiad clir o'u hymroddiad a’u dyfalbarhad.

    “Wrth i’n myfyrwyr symud ymlaen at gyfleoedd newydd a chyffrous, hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd i’r dyfodol.”

    Ychwanegodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:

    “Rwy’n estyn diolch arbennig i’r ysgolion a’r athrawon am eu proffesiynoldeb a’u hymroddiad parhaus, i’r myfyrwyr am eu hymdrechion sylweddol ac i’w teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus. Mae cyfraniad pob un ohonynt wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant rydym yn ei ddathlu heddiw.”

  13. 31,791 o raddau Safon Uwch wedi eu dyfarnu yr Haf yma - Cymwysterau Cymruwedi ei gyhoeddi 10:54 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Cymwysterau Cymru

    Cyfanswm dyfarniadau Safon UwchFfynhonnell y llun, Cymwysterau Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    O ganlyniad i drefniadau dyfarnu gwahanol, nid yw'r ffigyrau ar gyfer 2020,2021,2022 a 2023 yn uniongyrchol gymaradwy â'i gilydd nac â blynyddoedd blaenorol

    • Yn ôl Cymwysterau Cymru, fe gafodd 31,791 o raddau eu dyfarnu i 13,585 o ddysgwyr.
    • Ar gyfartaledd, cymerodd dysgwyr Safon Uwch 18 oed 2.4 o raddau Safon UWch yr Haf yma, fel yn Haf 2024
    • 53.8% o ddysgwyr Saofn Uwch 18 oed wedi sefyll o leiaf tri Safon Uwch.
  14. Nerfusrwydd yn troi'n hapusrwyddwedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Noor Abdul

    Mae Noor Abdul ar ei ffordd i University of West England, ar ôl astudio BTEC mewn diogelwch cyfrifiaduron a seibr yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

    Mae'n "hapus iawn" i gael mynd i'w ddewis cyntaf, meddai, er ei fod yn poeni bore 'ma ei fod wedi methu ei arholiadau:

    "O'n i'n nerfus iawn. Mae wedi bod yn lot o waith ond mae e werth e er mwyn cael y canlyniad.

    "Daeth fy rhieni hefyd, ac maen nhw mor falch."

  15. CBAC yn 'diolch yn fawr iawn i'r athrawon, darlithwyr, a staff cefnogi'wedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Wrth ymateb i'r canlyniadau fore Iau, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw.

    "Mae'r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o'r gwaith caled, ymroddiad, a gwydnwch a ddangoswyd ganddyn nhw wrth astudio.

    "Ar ran CBAC, hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i'r athrawon, darlithwyr, a staff cefnogi yn yr ysgolion a cholegau am eu proffesiynoldeb diflino ac ymrwymiad i helpu'r myfyrwyr lwyddo unwaith eto eleni.

    "Mae'r canlyniadau hyn yn garreg filltir bwysig ac yn arwain at gamau nesaf cyffrous — p'un a yw hynny'n addysg uwch, hyfforddiant, neu'n ymuno â'r byd gwaith. Pa bynnag lwybr maen nhw'n ei ddewis, hoffem ddymuno'r gorau i bob myfyriwr at y dyfodol."

  16. Gofalwr ifanc wedi cael 2A* a Bwedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    A hithau'n ofalwr ifanc ac â swydd ran amser, roedd gan Meghan Cotty o Gaerffili mwy na dim ond adolygu ac arholiadau i boeni amdanyn nhw.

    Ond heddiw mae hi wedi llwyddo i gael y graddau angenrheidiol i fynd i astudio'r Gyfraith gyda Busnes ym Mhrifysgol Birmingham.

    "Mae hi wedi cymryd llawer o waith ac amynedd, ond dwi mor falch ei fod e wedi bod werth e.

    "Mae wedi bod yn anodd ond mae fy nheulu yn gefnogol iawn ac mae'r coleg wedi bod o gymorth mawr.

    Meghan Cotty

    Gan ei bod wedi cael 2A* a B, mae ei breuddwyd o fod yn gyfreithiwr gam yn agosach:

    "Dwi'n angerddol iawn am y gyfraith, a dwi'n edrych 'mlaen at fod yng nghanol pethau, ond yr ochr gymdeithasol hefyd.

    "Dwi mor falch fod y gwaith caled wedi bod werth e."

  17. Angen 'gweithredu brys' i hybu nifer y ceisiadau prifysgolwedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Prifysgolion Cymru

    Roedd ffigyrau UCAS eleni yn dangos bod 32.5% o bobl 18 oed wedi gwneud cais i brifysgol erbyn diwedd mis Mehefin - sy'n is nag ar yr un pryd llynedd.

    Y gyfradd ar gyfer Prydain gyfan yw 41.2%.

    Mae'r data yn adlewyrchu "darlun cymysg" meddai Medr, y corff sy'n goruchwylio addysg a hyfforddiant ôl-16, gan gyfeirio at gynnydd yn nifer y ceisiadau o ardaloedd difreintiedig.

    Dywedodd llefarydd fod "data pellach sydd angen ei ystyried cyn cyrraedd darlun mwy cyflawn o'r flwyddyn academaidd nesaf a deall y ffactorau sy'n effeithio ar ddewisiadau myfyrwyr a'i effaith posib".

    Yn y gorffennol mae Prifysgolion Cymru wedi galw am "weithredu brys" i hybu nifer y bobl ifanc sy'n mynd ymlaen i addysg a hyfforddiant ar ôl 16.

    Dywedodd llefarydd fod prifysgol "yn cynnig profiad trawsnewidiol sydd o fudd nid yn unig i unigolion ond hefyd yn cryfhau ein cymunedau a'n heconomi".

  18. Canlyniadau is na'r gobaith 'ddim yn ddiwedd y byd'wedi ei gyhoeddi 10:17 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    I'r disgyblion hynny sy'n cael siom o weld eu canlyniadau mae cymorth ar gael gan bobl fel Annette Evans - sy'n cynnig gwasanethau cwnsela i blant a phobl ifanc.

    Fel ymarferydd iechyd meddwl a llesiant ar draws Cymru, mae hi'n gallu helpu plant a'u rhieni weld nad yw canlyniadau is na'r gobaith yn ddiwedd y byd.

    "Mae o'n bwysig ar y diwrnod achos maen nhw wedi cael yr haf i gyd i feddwl amdano," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast, yn enwedig o weld lluniau disgyblion eraill yn dathlu eu llwyddiannau.

    "Mae'n rhaid i hi deimlo drostyn nhw achos maen nhw wedi gweithio mor galed a mae shwt gyment o straen...

    "Falle bydd drws arall yn agor," meddai, ac mae angen "dodi popeth ar y bord", gan gynnwys ystyried ailsefyll arholiadau mewn ysgol neu goleg addysg bellach.

    Y dasg i Annette ac ymgynghorwyr lles eraill yw "eistedd a gwrando shwt maen nhw'n teimlo, beth maen nhw'n hoffi 'neud a beth maen nhw eisie gwneud i symud ymlaen".

    Maen nhw hefyd yn gallu trefnu i siarad ar y ffôn neu drwy gyfarfod ar-lein gyda rhieni a gwarchodwyr disgyblion sydd efallai yr un mor ddryslys be allai'r cam nesaf fod i'r person ifanc.

  19. Viktoriia o Wcráin 'mor hapus'wedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Daeth Viktoriia Tkackenko, 20 i'r DU o Wcráin ar ôl dechrau'r rhyfel â Rwsia.

    Mae hi ar ei ffordd i Brifysgol Abertawe i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth ar ôl casglu ei chanlyniadau Lefel A o Goleg Caerdydd a'r Fro.

    Mae hi "mor hapus" gyda beth mae hi wedi ei gyflawni, meddai.

    Viktoriia
    Yn ôl i’r cynnwys diweddaraf
  20. 'Sgil effeithiau mawr i'r pandemig' - Pennaeth Ysgol Maes Garmonwedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 14 Awst

    Bronwen Hughes

    Mae Pennaeth Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug, Bronwen Hughes yn credu bod effaith cyfnod Covid yn dal i'w weld mewn ysgolion a cholegau heddiw.

    "Dwi'n meddwl bod effaith y pandemig am fod efo ni am flynyddoedd os nad degawdau i fod yn onest," meddai ar raglen Dros Frecwast.

    "Yn gyffredinol, yn gymdeithasol, o ran agweddau at addysg, presenoldeb, mae 'na sgil effeithiau mawr.

    "'Da ni yn eu gweld nhw rŵan, a (fyddwn ni'n eu) gweld nhw am flynyddoedd maith yn anffodus.

    "Mi ydan ni yn gwneud ein gorau fel proffesiwn i sicrhau bod ein pobl ifanc yn adfer y sgiliau maen nhw wedi colli, falle dipyn bach o golli hyder."