Crynodeb

  1. Dysgwr y Flwyddyn: 'Os ydw i'n gallu ei wneud e', mae unrhyw un yn gallu'wedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae Antwn Owen-Hicks yn falch bod yr Eisteddfod yn cydnabod yr "holl ymdrech" mae dysgwyr yn ei wneud.

    Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2024: "Doeddwn i ddim yn disgwyl i'r peth fod mor grand ond roedd o'n brofiad anhygoel.

    "Mae pobl yn gwneud cymaint o ymdrech i ddysgu'r iaith, a dod a'r iaith i'w teulu ac mae'n bwysig iawn dangos hwnna yn y seremoni."

    Mae Antwn wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dros 30 mlynedd ac yn dweud ei fod yn "dal i ddysgu pob dydd".

    "Dwi'n teimlo os ydw i'n gallu ei wneud e', mae unrhyw un yn gallu."

    Antwn Owen-Hicks
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe enillodd Antwn Owen-Hicks wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod ddoe

  2. Trafod yr heriau sy'n wynebu athrawonwedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Criw o athrawon newydd yn trafod heriau’r proffesiwn ar stondin Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Dywedon nhw fod angen i’r cyfryngau wneud mwy i adrodd ar newyddion da yn y maes yn hytrach na chanolbwyntio ar benawdau negyddol yn unig.

    athrawon newydd
  3. Glaw, glaw a mwy o law...wedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    dwr ar y maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae dŵr wedi casglu y tu allan i rai stondinau erbyn hyn

    Pentref bwyd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae bob tywydd yn dywydd pizza!

    ymbarels yn amlwg ar hyd y maes heddiwFfynhonnell y llun, bbc
  4. Dr Rhodri Jones yn derbyn Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Dr Rhodri Jones

    Mae Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi cael ei chyflwyno i Dr Rhodri Jones mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn.

    Mae'n derbyn y fedal am ei waith gyda'r Gwrthdarwr Hadron Mawr, peiriant 17 milltir o hyd sy'n pontio'r ffin rhwng Ffrainc a'r Swistir.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.

  5. 'Rwy'n eich herio chi i ddarlledu'r sylwadau ola' hyn'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Y Cofiadur Christine James yn datgan fod Gorsedd Cymru wedi cyfeirio'r cwestiwn o derfynu aelodaeth Huw Edwards at Lys yr Eisteddfod

  6. 'Ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol'wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Eluned Morgan

    Mae pabell Cymdeithasau 1 yn llawn wrth i’r gynulleidfa wrando ar Dr Simon Brooks yn cyflwyno adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

    Mae’n adroddiad swmpus â bron i 60 o argymhellion, gan gynnwys sefydlu “ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch” ar draws y wlad.

    Er mai mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu beth fyddai’r trothwy ar gyfer hynny, meddai Dr Brooks, mae’n awgrymu llefydd lle mae dros 40% o bobl yn siarad Cymraeg.

    Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: “Gewn ni good look arno, a dod nôl atoch chi!”.

    Mae’n ychwanegu bod angen i bobl barhau i glywed y Gymraeg fel “iaith fyw”, a bod dwysedd felly yn bwysig.

    Ond bydd ail ran i waith y comisiwn hefyd, i edrych ar y Gymraeg y tu hwnt i’r ardaloedd ‘dwysedd uchel’ hynny.

    “Mae’n rhaid i ni gofio bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ym mhob rhan o Gymru,” meddai.

    Mae modd i chi ddysgu mwy am gynnwys yr adroddiad yma.

  7. Tiwns Tew Tew Tenauwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Cyfle Tew Tew Teau yw hi nawr i ddiddanu cynulleidfa Caffi Maes B

    Tew Tew Tenau
  8. Llongyfarchiadau Richard!wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Richard Rees o Fachynlleth sy'n fuddugol yn yr Unawd Gymraeg | Hen Ganiadau.

    Arfon Rhys Griffiths o Lanuwchlyn oedd yn ail a Bethan Elin o Fôn yn drydydd.

    Disgrifiad,

    Unawd Gymraeg | Hen Ganiadau

  9. Yws Gwynedd: 20 mlynedd o Maes Bwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    20 mlynedd ar ôl camu ar lwyfan Maes B am y tro cyntaf, bryd hynny gyda'i fand Frizbee, roedd Yws Gwynedd yn cloi Maes B neithiwr unwaith eto.

    Gwylich fideo o Yws yn sôn am y profiad o chwarae Maes B dros y blynyddoedd.

    Disgrifiad,

    Yws Gwynedd yn perfformio gyda Frizbee

  10. 'Mor bwysig bod y Brifwyl yn cydnabod gwaith gwyddonwyr'wedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Hugh Thomas, Iolo ap Gwynn a Dic JonesFfynhonnell y llun, Iolo ap Gwynn
    Disgrifiad o’r llun,

    Iolo ap Gwynn yn derbyn y fedal gan Hugh Thomas yng nghwmni'r cyn-Archdderwydd Dic Jones

    Mae'n 20 mlynedd eleni ers i'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg gael ei chyflwyno gyntaf, ac yn ôl un sydd wedi ei hennill mae'r fedal a'r babell wyddoniaeth ar y maes yn hynod o bwysig.

    Iolo ap Gwynn oedd enillydd y Fedal Wyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008, a dwy flynedd cyn hynny yn Eisteddfod Abertawe a'r Cylch dyfarnwyd mai ei fam, Eirwen Gwynn, oedd yn deilwng ohoni.

    "Mae hi mor bwysig bod gwaith gwyddonwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gydnabod," medd Dr Iolo ap Gwynn wrth siarad â Cymru Fyw.

    "Ar hyd y blynyddoedd mae nifer o wyddonwyr wedi bod yn ymdrechu'n galed i gyflwyno eu gwaith yn Gymraeg ac mae ond yn deg bod hynny yn cael ei gydnabod yn yr Eisteddfod.

    "Mae gwyddonwyr yn haeddu cael eu cydnabod yn yr un modd â llenorion a cherddorion."

    Mae modd darllen yr erthygl yn llawn yma.

  11. Y siwmperi Maes B newydd yn amlwg wedi plesio rhai!wedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    criw mewn siwmperi Maes BFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  12. 'Ar y Bws' ym Maes Dwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Cystadleuaeth llefaru i ddysgwyr lefel canolradd ym Maes D.

    Dyma Meic a Nicola James yn llefaru ‘Ar y Bws’

    Maes D
  13. Pwy sy'n chwarae ar Lwyfan y Maes heddiw?wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Katie Hall prif leisydd ChromaFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd CHROMA yn un o'r bandiau fu'n chwarae ar y llwyfan brynhawn Mercher

    • Canu a dawnsio gyda Cyw - 12:30
    • Cantorion Phoenix a Côr Cymunedol Pontypridd - 14:00
    • Eadyth - 15:30
    • Ffenest - 16:45
    • Griff Lynch - 18:00
    • Rogue Jones - 19:20
    • Meinir Gwilym - 21:00
  14. Llys yr Eisteddfod i ystyried aelodaeth Huw Edwardswedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst
    Newydd dorri

    Huw Edwards

    Mae Gorsedd Cymru wedi cadarnhau y bydd aelodaeth Huw Edwards nawr yn cael ei drafod gan Lys yr Eisteddfod.

    Yr wythnos ddiwethaf fe blediodd cyn-brif gyflwynydd newyddion y BBC yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

    Ddechrau'r wythnos, fe gadarnhaodd Bwrdd Gorsedd Cymru fod proses o derfynu aelodaeth wedi dechrau yn dilyn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod.

    Yn dilyn cyfarfod blynyddol Gorsedd Cymru ar y Maes fore Iau, dywedodd y Cofiadur, Christine James mewn datganiad: "Mewn materion fel hyn mae’r Orsedd yn ddarostyngedig i Lys yr Eisteddfod.

    "Mae gan y llys broses deg a chytbwys sydd wedi cychwyn ac er tegwch i bawb a rhag cam arwain neb nid yw’n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd."

    Ychwanegodd: "A byddwn yn ddiolchgar pe bai chi ddim yn cam ddyfynnu nac yn camddehongli'r sylwadau hyn."

  15. Dysgwr 11 oed yn teithio o Slofacia i'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Matko
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Matko fod dod i'r Eisteddfod yn "brofiad cwbl arbennig"

    Mae cael siarad Cymraeg ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd wedi bod yn “brofiad cwbl arbennig” medd bachgen 11 oed o Slofacia.

    Mae Matko yn byw yn Poprad, yn nwyrain Slofacia, ac yn ogystal â siarad Cymraeg mae e wedi cael cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb â'i athrawes Cymraeg ar faes y Steddfod.

    Sioned Rees Jones wnaeth sefydlu Ysgol Sadwrn yn 2023, ac mae yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg rhyngwladol ar-lein i blant.

    Wrth siarad â Cymru Fyw ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Sioned ei bod wrth ei bodd yn cyfarfod Matko.

    “O’dd hi mor wych bod bachgen sydd wedi bod yn dod i Ysgol Sadwrn ers y cychwyn cyntaf wedi dod i’r Eisteddfod ac i ni gael cyfarfod wyneb yn wyneb, gyda’i dad.

    "Mae wedi teithio yma ar wyliau, dod i Gaerdydd ac yna treulio deuddydd yn yr Eisteddfod."

    Makto gyda'i deulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Matko - canol, yma gyda'i deulu - wedi bod yn cymryd rhan mewn gwersi Cymraeg ar-lein

    Mae Matko wedi dod i’r Eisteddfod gyda’i dad Andrew Dixey sy'n wreiddiol o Gasnewydd.

    Wedi dysgu Cymraeg ei hun, mae'n dweud fod ymweld â'r maes wedi gwella Cymraeg Matko yn aruthrol.

    Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma.

  16. Tîm Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae tîm Radio Cymru yn barod unwaith eto am ddiwrnod llawn o ddarlledu.

    Mae Shân, Steffan a Ffion yn barod i'r ddod a'r cyfan i chi'n fyw o'r Maes.

    Heb anghofio'r tîm cynhyrchu sy'n brysur yn rhoi trefn ar y darlledu.

    Gwrandewch ar y cyfan yn fyw yma

    Radio Cymru
    Tîm Cynhyrchu
  17. Canlyniadau dydd Mercherwedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Wedi methu rhywfaint o'r cystadlu yn y Pafiliwn ddoe?

    Peidiwch â phoeni, mae'r holl ganlyniadau a chlipiau o'r cystadlaethau ar gael i chi yma ar BBC Cymru Fyw.

    Mae'r clip isod yn dod o gystadleuaeth y Rhuban Glas offerynnol 16 ac o dan 19 oed.

  18. Parhau mae'r glaw draw ym Mhontypriddwedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Wrth i'r tywydd gwlyb barhau, mae 'na byllau dŵr amlwg yn dechrau ymddangos o amgylch y Maes.

    Maes
  19. Dim Gwastraff yn ennill Brwydr y Bandiau 2024wedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Dim GwastraffFfynhonnell y llun, Eisteddfod/Ffotonant

    Dim Gwastraff sydd wedi ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni.

    Roedden nhw ymhlith pedwar o artistiaid ifanc oedd yn perfformio ar Lwyfan y Maes fel rhan o'r gystadleuaeth brynhawn Mercher.

    Fe fyddan nhw'n derbyn gwobr ariannol o £1,000, sesiwn recordio gyda BBC Radio Cymru a chyfle i berfformio ym Maes B ar nos Sadwrn olaf y Brifwyl.

    Yr artistiaid eraill oedd wedi cyrraedd y rhestr fer oedd Ifan Rhys, Tesni Hughes, a Seren.

    Mae modd darllen mwy am hanes y band o'r Cymoedd yma.

  20. Angen 'normaleiddio clywed y ddwy iaith' yn ardal Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Osian Rowlands a Gwenllian Carr

    Pwysleisiodd Osian Rowlands, prif weithredwr menter iaith Rhondda Cynon Taf, pa mor bwysig yw’r Gymraeg yn yr ardal.

    Dywedodd fod y fenter wedi “dal dwylo ar hyd y siwrne gyda’r Eisteddfod”, ac wedi helpu'r rhai hynny "oedd yn poeni nad oedd eu Cymraeg nhw’n ddigon da" i allu gwirfoddoli a defnyddio'u Cymraeg ar y Maes.

    Aeth ymlaen i ddweud fod gan yr ardal “iaith unigryw” sef 'Wenglish', “ac mae hynny’n iawn,” meddai.

    Fe gyfeiriodd at y diweddar Magi Dodd oedd yn hanu o’r ardal a’i bod yn “falch o’r iaith oedd ganddi, ac yn gallu rhoi hwnna ar lwyfan cenedlaethol”.

    Pwysleisiodd fod “angen i’r bobl gael yr hyder i ddefnyddio’u Cymraeg” a bod “modd dechrau pob sgwrs yn Gymraeg”.

    “Y gwir yw, mae angen cynyddu dwyieithrwydd yn yr ardal,” meddai, gan ychwanegu fod angen “normaleiddio clywed y ddwy iaith”.

    Dywedodd mai’r her yw sicrhau y bydd y busnesau yn parhau i ddefnyddio’u Cymraeg wedi i’r Eisteddfod orffen.

    “Camau bach ond maen nhw’n gamau mawr iawn yn yr ardal yma.”