Crynodeb

  1. Diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogelwedi ei gyhoeddi 16:19 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae wedi bod yn ddiwrnod arall o anhrefn ar draws Cymru - yn bennaf yn Sir Rhondda Cynon Taf wrth i Storm Bert daro.

    Bydd y newyddion diweddaraf am y tywydd a'r ffyrdd ar wefan Cymru Fyw.

    Diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogel.

    Ponty
  2. Rhybudd am wynt mewn grym tan henowedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Fe ddaeth y rhybudd tywydd diwethaf am law yng Nghymru i ben am 13:00 ddydd Sul.

    Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym tan 21:00 nos Sul ac fe all y gwynt achosi amodau "peryglus" ar hyd arfordir de, gorllewin a gogledd orllewin Cymru.

    Mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobl i gadw golwg ar ragolygon y tywydd rhag ofn y bydd newidiadau.

    caeau Pontcanna
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa ym Mhontcanna brynhawn Sul

  3. Lefelau dŵr Rhondda Cynon Taf yn uwch na'r disgwylwedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Yn y gynhadledd i'r wasg, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan ac arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf fod y lefelau dŵr yn "bendant" yn uwch na'r disgwyl.

    Dywedodd fod y canllawiau llifogydd wedi rhybuddio am y potensial o lifogydd sylweddol ond fod y risg yn isel.

    Aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi "rhyfeddu" mai ond rhybudd tywydd melyn oedd mewn grym ac nad oedd hwn wedi newid i rybudd oren.

    presser
  4. 'Mae'n dod â dagrau i'r llygaid'wedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Wrth siarad â'r BBC, dywedodd Jayne Rees sy'n byw yn ardal Pontypridd fod yr olygfa yn "dorcalonnus".

    "O'n ni wir ddim yn disgwyl y bydden ni'n gweld golygfeydd fel hyn unwaith eto, yn enwedig ar ôl Storm Dennis.

    "Dwi ddim yn meddwl oedd neb yn disgwyl codi'r bore 'ma a gweld y golygfeydd ni di eu gweld yn y dref.

    "Mae'n dod â dagrau i'r llygaid yn meddwl am y bobl yn eu tai unwaith eto sydd wedi colli ceir, mae'r dŵr lan hanner ffordd".

    Jane Rees
  5. Posib y bydd yn rhaid i rai ferwi eu dŵr am hyd at wythnoswedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Wrth siarad â'r BBC ddydd Sul, dywedodd Heulyn Davies o Dŵr Cymru mai eu blaenoriaeth yw "iechyd y cyhoedd a dy'n ni ddim am gymryd unrhyw risg".

    Mae'r cwmni eisoes wedi cynghori 12,000 o gwsmeriaid i ferwi eu dŵr o ganlyniad i broblem yng ngwaith trin dŵr yn Nhreherbert.

    Dywedodd fod "Storm Bert yn amlwg wedi creu amgylchiadau anodd iawn i ni".

    "Y nod nawr yw dod o hyd i'r broblem, cywiro'r broblem honno a sicrhau bod mesurau mewn lle i osgoi'r broblem eto," meddai.

    Dywedodd y gall y mesurau yma fod mewn grym am hyd at wythnos.

  6. Pont wedi dymchwel yn llwyrwedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae pont a oedd yn cael ei hailadeiladu wedi ei difrodi'n llwyr o ganlyniad i'r llifogydd.

    Roedd gwaith adnewyddu yn digwydd i bont droed pibellau cyflenwi Abercynon ar ôl iddi gael ei difrodi yn dilyn Storm Dennis yn 2020.

    Ond ddydd Sul, fe wnaeth y Cynghorydd Andrew Morgan ddweud fod y bont wedi ei chwalu yn gyfan gwbl o ganlyniad i'r llifogydd.

    Y bontFfynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma sut oedd y bont yn edrych ddiwedd Medi

  7. Tua 200 i 300 o eiddo wedi eu heffeithio gan y llifogyddwedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mewn cynhadledd i'r wasg ym Mhontypridd nodwyd fod tua 200 i 300 o eiddo wedi eu heffeithio gan y llifogydd heddiw.

    Dywedodd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, fod y glaw ddydd Sul wedi effeithio ar yr ardal yn waeth nag yn ystod Storm Dennis yn 2020.

    Ychwanegodd, er bod "llifogydd eithriadol" wedi bod ym Mhontypridd, does dim "llifogydd difrifol lawr y dyffryn, fel y gwelon ni yn ystod Storm Dennis".

    Cynhadledd i;r wasg
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Cynghorydd Andrew Morgan (chwith) yn ystod cynhadledd i'r wasg brynhawn Sul

  8. A fydd y tywydd yn effeithio ar y Ffair Aeaf?wedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae disgwyl i'r Ffair Aeaf gychwyn yn Llanelwedd ddydd Llun, ond gyda'r tywydd garw wedi effeithio ar yr ardal, mae tipyn o ddŵr ar y ffyrdd.

    Dyma'r olygfa yn ardal Llanfair-ym-Muallt ddydd Sul.

    Llanelwedd
    Llanelwedd
    Llanelwedd
  9. 'Rhaid sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu'wedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae AS Plaid Cymru Canol De Cymru, Heledd Fychan, ymhlith y rhai sydd wedi ymgyrchu dros gamau cryfach i ddiogelu cymunedau fel Pontypridd ac mae wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i achosion llifogydd yng Nghymru.

    "Mae fy meddyliau yn bennaf gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd dros nos," dywedodd.

    "Wrth i lifogydd ddod yn fwy eithafol a niferus, rhaid sicrhau y tro hwn bod gwersi'n cael eu dysgu, a bod mwy o gefnogaeth yn cael ei roi i gymunedau."

    Heledd Fychan
  10. Galw ar bobl i ferwi eu dŵrwedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobl ferwi eu dŵr cyn ei ddefnyddio i yfed neu goginio yng nghymoedd y de wedi i broblem ddod i'r amlwg yng ngwaith trin dŵr Tyn-y-waun yn sgil y storm.

    Mae'r rhybudd yn berthnasol i drigolion ym Mlaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Tonpentre, Gelli a Thonypandy.

    Yn ôl Dŵr Cymru roedd hynny'n effeithio ar 12,000 o gwsmeriaid am 13:00 ddydd Sul.

  11. Cau Parc Biwt yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 15:19 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mewn neges ar gyfrif X, mae Cyngor Caerdydd yn cynghori pobl i osgoi defnyddio llwybr Taf a Pharc Biwt oherwydd lefel y dŵr yn Afon Taf.

  12. Caeau Pontcanna o dan ddŵrwedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Dyma oedd yr olygfa yng nghaeau Pontcanna, Caerdydd amser cinio heddiw. Mae rhybudd llifogydd yn yr ardal ers oriau mân bore Sul.

    Llun: Catrin Johnson ar X

    Caeau Pontcanna amser cinio ddydd SulFfynhonnell y llun, Catrin Johnson
    Disgrifiad o’r llun,

    Caeau Pontcanna amser cinio ddydd Sul

  13. Canolfannau ar agor i'r rhai sydd wedi eu heffeithiowedi ei gyhoeddi 14:59 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Dywed Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod wedi agor "canolfannau gorffwys" i gefnogi'r rhai sydd wedi eu taro'n wael gan y llifogydd.

    Mae'r canolfannau dan sylw wedi eu lleoli yn:

    • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
    • Llyfrgell Pontypridd
    • Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr
    • Canolfan Fowlio Cwm Cynon

    Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Os nad yw trigolion eisiau gadael eu cartref, neu os nad yw'n ddiogel i wneud hynny, y cyngor yw iddyn nhw symud i ardal uwch o fewn y cartref."

  14. Yr olygfa ym Mhontypridd ddydd Sulwedi ei gyhoeddi 14:54 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Pobl allan yn helpu
    Pobl allan yn helpu
  15. Anifeiliaid anwes yn cael eu hachubwedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Nid pobl yn unig y mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn helpu yn ystod Storm Bert.

  16. Rhisga dan ddŵrwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Dyma'r olygfa yn Rhisga, Caerffili brynhawn Sul.

    llifogyddFfynhonnell y llun, Michael West
    llifogyddFfynhonnell y llun, Michael West
  17. Clwb y Bont 'wedi osgoi difrod y tro yma'wedi ei gyhoeddi 14:42 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mewn neges arall ar Facebook mae Clwb y Bont, Pontypridd wedi dweud: "Mae’n ymddangos bod y Clwb wedi osgoi difrod y tro yma, ond ni fyddwn yn gwybod yn bendant tan y bore pan fyddwn yn gallu mynd mewn i’r adeilad. Byddwn yn diweddaru wedi hynny.

    "Mae ein meddyliau gyda phob busnes a chartref wedi sydd eu heffeithio, ac rydym yn ddiolchgar i fod yn rhan o gymuned lle mae cymaint o bobl yn barod i helpu a chefnogi."

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  18. Tirlithriad yn cau lônwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae'r glaw trwm wedi achos sawl tirlithriad, gyda'r gwasanaeth tân wedi eu galw i'r A4106 - Ffordd Bwlch rhwng Treorci a Nantymoel - oherwydd tirlithriad sydd wedi taro'r lôn.

    Tirlithriad
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r A4109 Ffordd Bwlch rhwng Treorci a Nantymoel ar gau am y tro wedi tirlithriad

  19. Gatiau atal llifogydd yng Nghlwb y Bontwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae Clwb y Bont, Pontypridd wedi cyhoeddi'r neges yma ar Facebook: "Ar hyn o bryd mae'r gatiau llifogydd yn eu lle, ac yn dal."

    Fe wnaeth y clwb ailagor yn 2022 yn dilyn difrod llifogydd Storm Dennis yn 2020. Ers ei sefydlu ym 1983, mae'r dafarn wedi bod yn rhan allweddol o hybu Cymreictod yng nghymoedd y de.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  20. Y gwasanaethau brys yn brysurwedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn brysur iawn yn helpu'r trigolion lleol yn Rhondda Cynon Taf.

    Gwasanaeth tan