Crynodeb

  1. Ffyrdd ar gau ar draws Cymruwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae nifer o ffyrdd ar gau, dolen allanol a thraffig yn cael ei ddargyfeirio oherwydd llifogydd:

    • Yr A479 yn Nhretŵr
    • Yr A4042 rhwng Felin-fach a chylchfan Hardwick yn Y Fenni
    • Yr A55 rhwng Caer a chylchfan Minffordd
    • Yr A5 rhwng Corwen a Charrog
    • Yr A5 rhwng Y Maerdy a Cherrigydrudion
    • Yr A483 rhwng y Drenewydd ac Abermiwl

    Mae 'na oedi hefyd yn bosib ar yr M4 tua'r dwyrain ac mae 'na rybudd am wyntoedd cryf ar Bont Britannia.

  2. Ceir o dan ddŵr ym Mhontypriddwedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Dyma olwg ar y sefyllfa ym Mhontypridd ddydd Sul.

    Disgrifiad,

    Scorpion Automotive Solutions

  3. 'Wedi dosbarthu cannoedd o fagiau tywod'wedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Dywedodd Arweinydd Cyngor Pontypridd, Andrew Morgan, nad oes 'na welliant sylweddol wedi bod o ran amddiffynfeydd afonydd yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn Storm Dennis yn 2020.

    Dywedodd fod yn rhaid adolygu'r sefyllfa ac nad yw am i hyn ddigwydd eto.

    "Rydym wedi dosbarthu cannoedd o fagiau tywod, ond mae dwyster y tywydd yn sylweddol," ychwanegodd.

    Andrew Morgan
    Disgrifiad o’r llun,

    Arweinydd Cyngor Pontypridd, Andrew Morgan

  4. Trin y llifogydd fel 'digwyddiad difrifol' yn Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a'r gwasanaethau brys yn trin y llifogydd yn y sir fel "digwyddiad difrifol" wrth i Storm Bert achosi trafferthion sylweddol.

    Dywedodd llefarydd bod effaith y llifogydd yn ymddangos "yn fwy sylweddol na'r difrod yn ystod Storm Dennis" yn 2020.

    Ym Mhontypridd mae'r cyngor yn rhagweld bod y llifogydd wedi effeithio ar rhyw 100 o gartrefi a busnesau a bod rhai o adeiladau'r cyngor, gan gynnwys Lido Pontypridd a Theatr Parc a'r Dâr, wedi eu difrodi.

    Dywedodd llefarydd hefyd bod llifogydd wedi effeithio ar rai ysgolion ac y byddan nhw'n cysylltu â theuluoedd gyda rhagor o wybodaeth.

  5. 'Ry'n ni jest yn aros i'r dŵr gilio'wedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Efallai bod nifer ohonoch yn gyfarwydd â'r stryd yma ar ôl i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Phontypridd fis Awst.

    Dywedodd Steve West, perchennog busnes yn Heol y Felin: "Ry'n ni wedi clirio'r swyddfa, troi'r trydan bant a jest gobeithio am y gorau.

    "Mae'r siopau tu ôl i mi wedi cael eu heffeithio'n waeth achos mae nhw mewn dip.

    "Ry'n ni jest yn aros i'r dŵr gilio nawr ac fe awn i helpu clirio'r siopau eraill."

    Stryd yng nghanol Pontypridd
  6. Canfod corff ar ôl chwilio am ddyn oedd ar gollwedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd
    Newydd dorri

    Yn Nyffryn Conwy, mae'r heddlu sydd wedi bod yn chwilio am ddyn oedd ar goll ger Trefriw yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff.

    Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau eu galw nos Sadwrn yn sgil diflaniad Brian Perry, 75, aeth ar goll tra'n mynd â'i gi am dro gyda'i wraig yn ystod tywydd garw Storm Bert.

    Dyw'r corff heb gael ei adnabod yn swyddogol ond mae swyddogion wedi cysylltu â theulu Mr Perry.

  7. Dim trydan i nifer yn ne a chanolbarth Cymruwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae'r Grid Cenedlaethol yn dweud eu bod yn delio ag 18 digwyddiad yn y rhwydwaith pŵer yn ne a chanolbarth Cymru, gyda 635 o gwsmeriaid heb gyflenwad.

    Maen nhw'n dweud mai Powys yw'r ardal sydd wedi ei heffeithio waethaf o ran dim trydan.

  8. Y Prif Weinidog yn diolch i'r rheiny sy'n helpuwedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi rhannu neges o ddiolch ar gyfrif X.

    Dywedodd: "Diolch i'r rhai sy'n gweithio'n galed i ddiogelu ni.

    "Cymerwch ofal a dilynwch gyngor y cyngor lleol, y gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru.

  9. Tref Pontypridd wedi ei tharo'n wael etowedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Nid dyma’r tro cyntaf i ardal Pontypridd gael ei tharo’n wael gan lifogydd.

    Mae’r llifogydd wedi effeithio ar nifer o’r adeiladau a gafodd eu difrodi wedi storm Dennis yn 2020.

    Pontypridd dan ddwr
  10. Storm Bert wedi cael effaith 'sylweddol' ar Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Gohebydd y BBC, Alun Thomas sy'n disgrifio'r sefyllfa ym Mhontypridd ddydd Sul.

    Disgrifiad,

    Mae trigolion ym Mhontypridd yn clirio dŵr o'u cartrefi yn sgil glaw trwm Storm Bert

  11. Rhybuddion llifogyddwedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi wedi cyhoeddi 101 o rybuddion am lifogydd ar draws Cymru, gyda 47 o’r rheiny yn rhybuddion coch.

    Llifogydd pontypridd
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa ym Mhontypridd ddydd Sul

  12. Y diweddaraf wrth i Storm Bert daro Cymruwedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich 24 Tachwedd

    Mae Storm Bert wedi taro Cymru gyda llifogydd difrifol mewn mannau ac mae nifer o gartrefi heb drydan.

    Arhoswch gyda ni am y manylion diweddaraf

    llif