Crynodeb

  • Llafur Cymru wedi cadarnhau mai Eluned Morgan yw eu harweinydd newydd

  • Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "anrhydedd mawr" i fod y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru ac i gael ei henwebu i fod yn brif weinidog nesaf Cymru

  • Wrth ymateb dywedodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer ei fod "yn edrych ymlaen at weithio law yn llaw ag Eluned i gyflawni ein haddewidion i Gymru a Phrydain"

  • Mae Vaughan Gething, a ymddiswyddodd yr wythnos ddiwethaf, wedi llongyfarch Eluned Morgan

  • Yr enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth wedi cau ers 12:00 a doedd neb arall wedi cynnig ei enw

  • Y Ceidwadwyr Cymreig yn llongyfarch Eluned Morgan ond yn gofyn "ai dyma'r gorau all Llafur ei gynnig?" tra bod Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru yn dweud y "dylai Eluned Morgan alw etholiad"

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:05 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Dyna ni am heddiw gan griw llif byw Cymru Fyw.

    Dyma brif ddigwyddiadau'r prynhawn, wrth i Lafur Cymru gadarnhau mai Eluned Morgan yw eu harweinydd newydd:

    • Llafur Cymru yn cadarnhau am 15:00 mai Eluned Morgan yw eu harweinydd benywaidd cyntaf;
    • Hi felly fydd yn cael ei henwebu gan y blaid i olynu Vaughan Gething fel prif weinidog;
    • Mewn digwyddiad yn Nhrelái yng Nghaerdydd, dywedodd bod hynny'n "anrhydedd mawr" a'i fod yn "bwysig ymddiheuro i'r cyhoedd... am beidio gwneud yn dda yn ystod yr wythnosau diwethaf";
    • Eluned Morgan ydi'r arweinydd newydd, ar ôl i Vaughan Gething gael ei orfodi i ymddiswyddo yr wythnos ddiwethaf.

    Ar gyfer y diweddaraf, ewch i Hafan BBC Cymru Fyw a gwrandewch ar bodlediad Gwleidydda Radio Cymru gyda Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.

  2. Eluned Morgan: 'Angen i ni wella'wedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mewn digwyddiad yn Nhrelái yng Nghaerdydd, dywedodd Eluned Morgan ei bod hi eisiau ymateb i'r pethau sydd "fwyaf pwysig" i bobl Cymru.

    Mae arweinydd newydd y Blaid Lafur yn dweud ei bod hi "heb gael lot o amser" i gynllunio ei chamau nesaf, ond ei bod am ddefnyddio'r haf fel cyfle i "wrando ar beth sydd gan bobl Cymru i'w ddweud".

    Dywedodd hefyd bod "angen i ni wella ar y sefyllfa rydym wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf".

    Mae'n debygol mai Ms Morgan fydd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi fel prif weinidog Cymru, gyda Huw Irranca-Davies fel ei dirprwy.

  3. Gething yn parhau'n brif weinidog am y trowedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Ar hyn o bryd, Vaughan Gething yw'r prif weinidog o hyd.

    Bydd yn rhaid iddo ymddiswyddo’n ffurfiol cyn y gall Eluned Morgan gymryd y llyw, ond mae’r ffaith bod y Senedd ar doriad yn gwneud hynny'n fwy cymhleth.

    Rydym yn disgwyl i Mr Gething roi'r gorau iddi yn llawer cynt nag yr oedd wedi’i gynllunio’n wreiddiol ym mis Medi, ond bydd angen galw Senedd Cymru yn ôl er mwyn i Ms Morgan gael ei hethol.

    Nid oes dyddiad wedi’i bennu ar gyfer pryd y bydd hynny’n digwydd, ac mae rhai Aelodau’r Senedd i ffwrdd ar wyliau.

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 'Mae'n deyrngar iawn i'r Blaid Lafur'wedi ei gyhoeddi 17:44 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Dylan Iorwerth

    Wrth sgwrsio ar raglen Dros Ginio Radio Cymru, fe soniodd y newyddiadurwr Dylan Iorwerth am wreddiau dwfn Eluned Morgan o fewn Llafur Cymru.

    “Mae’n deyrngar iawn iawn i’r Blaid Lafur. Yn ei gwaith yn weinidog mae wedi amddiffyn be’ mae ei Llywodraeth hi yn ei wneud. Mae’n greadur plaid, yn sicr, yn yr ystyr yna.

    “Beth sy’n ddiddorol amdani hefyd, mae’n teimlo i ni fel bod hi wedi bod o gwmpas ers erioed felly achos bod hi wedi dod yn aelod o Senedd Ewrop pan oedd hi’n 27 oed a hyd yn adeg hynny roedd pobl yn sôn amdani fel arweinydd posib i’r blaid Lafur yng Nghymru rhyw dro.”

  5. Jane Dodds: 'Digon i fynd' i brofi undod Llafurwedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds yn dweud ei fod yn "wych gweld dynes yn dod yn arweinydd".

    Ar faes y Sioe Frenhinol, roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i weld rhaglen a pholisïau Eluned Morgan.

    Ychwanegodd Ms Dodds bod dal "digon i fynd i bobl gweld fod Llafur yn blaid sydd yn dod at ei gilydd i daclo problemau yng Nghymru".

  6. Edrych yn ôl ar gyfnod Eluned Morgan fel Gweinidog Iechydwedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Fe gafodd Eluned Morgan ei phenodi'n Weinidog Iechyd Cymru ym mis Mai 2021 - ar ddiwedd ail don Covid.

    Erbyn hynny roedd tua dwy ran o dair o unigolion wedi derbyn eu brechiadau Covid cyntaf felly roedd bygythiad uniongyrchol y firws i fywyd yn gostwng.

    Ond roedd ôl-effeithiau anferth tonnau cynta'r pandemig ar y gwasanaeth iechyd yn dod yn fwyfwy amlwg.

    Roedd y staff oedd wedi blino'n lân yn wynebu rhestrau aros oedd wedi tyfu'n sylweddol oherwydd bod cymaint o driniaethau wedi cael eu gohirio.

    Dyma i chi amgylchiadau gyda'r anoddaf y gallai unrhyw weinidog iechyd newydd eu hwynebu.

    Rhagor yma.

    CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Y dadansoddi ar bodlediad 'Gwleidydda' Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Wrth siarad ar bodlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol, Richard Wyn Jones "bod y blaid Llafur wedi blaenoriaethu undod ar delerau dilynwyr Vaughan Gething".

    Wrth siarad am y ras rhwng Vaughan Gething a Jeremy Miles dywedodd: "Da ni’n gwybod fod Vaughan Gething wedi gwario llawer iawn iawn mwy na Jeremy Miles, yn sicrhau’r fuddugoliaeth honno, eto mae Jeremy Miles wedi cael ei esgymuno – does na ddim dadl ynglŷn â hynna."

    Cliciwch yma i wrando ar y podlediad llawn.

    Disgrifiad,

    Rhifyn newydd o bodlediad Gwleidydda gyda Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones

  8. Eluned Morgan: 'Pwysig ymddiheuro'wedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Dywedodd Eluned Morgan, sydd wedi bod yn dathlu ei hethol yng Nghanolfan Treftadaeth Caer yn Nhrelái, Caerdydd, wrth BBC Cymru ei bod yn "bwysig ymddiheuro i'r cyhoedd yng Nghymru".

    “Dydyn ni ddim wedi gwneud yn dda yn ystod yr wythnosau diwethaf,” meddai.

    "Ond mae hyn yn ymwneud â throi tudalen newydd".

    Mae Ms Morgan wedi bod wrth y llyw yn y GIG yng Nghymru ers 2021.

    Mae pleidiau eraill wedi beirniadu ei phenodiad drwy gyfeirio at ei record fel ysgrifennydd iechyd.

    Ond meddai Eluned Morgan, “mae gennym ni ddwy filiwn o gysylltiadau y mis gan boblogaeth o dair miliwn o bobl yn y GIG yng Nghymru.

    “Mae mwyafrif llethol y bobl hynny’n fodlon iawn â’r gofal maen nhw’n ei gael.”

    Digwyddiad dathlu Eluned Morgan, yn Nhrelái, Caerdydd,
    Disgrifiad o’r llun,

    Digwyddiad dathlu Eluned Morgan, yn Nhrelái, Caerdydd

  9. Rhun ap Iorwerth: Llafur yn parhau i 'flaenoriaethu' eu hunainwedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cyhuddo'r Blaid Lafur o flaenoriaethu undod y blaid yn hytrach na chynnig arweinyddiaeth "amgen".

    Ar ôl ei llongyfarch, dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar faes y Sioe Frenhinol bod y Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan wedi methu dod i'r afael â "phroblemau dwys" o fewn y GIG.

    Credai Mr ap Iorwerth y bydd arweinyddiaeth Eluned Morgan yn canolbwyntio ar "ddadwneud y rhwygiadau mawr sydd wedi dod i'r amlwg."

  10. Ymateb undebauwedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae undeb llafur Unsain yn dweud eu bod yn croesawu Eluned Morgan fel arweinydd Llafur Cymru ar ôl "cythrwfl" yr wythnosau diwethaf.

    Meddai’r ysgrifennydd rhanbarthol Jess Turner: “Fel undeb sy’n cynrychioli menywod yn bennaf, mae’n dda gweld bod gan Lafur Cymru o’r diwedd arweinydd benywaidd.

    “[Rydyn ni] yn edrych ymlaen at weithio gydag Eluned a’i chydweithwyr i fynd i’r afael â gwasanaethau cyhoeddus sy’n ei chael hi’n anodd, darparu partneriaeth gymdeithasol a’r agenda gwaith teg.”

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dywedodd Ian Price, cyfarwyddwr y sefydliad busnes CBI Cymru: “Gyda sefydlogrwydd gwleidyddol o’r newydd, gall Llywodraeth Cymru weithio gyda busnesau i fynd i’r afael â’r materion allweddol sy’n atal yr economi, gan gynnwys cyllid ar gyfer prentisiaethau, sgiliau ac ailsgilio, tra’n gweithio â llywodraeth newydd y DU i adeiladu economi cynaliadwy.”

  11. 'Mae'r blaid Lafur wedi blino'n lân'wedi ei gyhoeddi 16:48 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Ar ran y Blaid Werdd yng Nghymru, dywedodd Anthony Slaughter: “Rydym yn croesawu Eluned Morgan fel arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru".

    "Ond fe ddaw ei choroni ar ôl misoedd o anhrefn ac ymladd wrth galon Llywodraeth Cymru.

    “Mae’r cyhoedd yn haeddu llywodraeth sy’n canolbwyntio ar ddatrys y problemau anferth sy’n ein hwynebu.

    "Ar ôl 25 mlynedd mewn grym, mae'r blaid Lafur wedi blino'n lân ac nid yw bellach yn cyflawni y dasg honno".

    Anthony Slaughter
  12. 'Mae hi'n ddisglair ac yn ddewr'wedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae cyn-arweinydd Llafur y DU, yr Arglwydd Kinnock, wedi croesawu’r newyddion y bydd Eluned Morgan yn bennaeth ar y blaid yng Nghymru a bod disgwyl iddi fod yn brif weinidog nesaf.

    Dywedodd yr Arglwydd Kinnock, cyn AS sedd Islwyn yng nghymoedd Gwent, fod gan Ms Morgan “ymrwymiad di-sigl i Gymru”.

    Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd yr Arglwydd Kinnock: “Mae Eluned wedi gwneud hyn oherwydd dyletswydd i Lafur ac ymrwymiad di-sigl i Gymru.

    "Mae'r ddwy reddf honno'n rhedeg trwyddi fel gwythiennau.

    "Mae hi'n ddisglair ac yn ddewr gyda phrofiad dwfn a synnwyr cyffredin llwyr - i gyd yn asedau hanfodol yn yr arweinyddiaeth o ansawdd uchel y bydd hi'n ei dangos"

    yr Arglwydd KinnockFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Richard Wyn Jones: 'Mae'n amlwg fod gan Llafur Cymru broblem'wedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Wrth siarad ar bodlediad Gwleidydda, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol, Richard Wyn Jones: "Mae’n rhyfedd o beth fod gynnon ni system sy’n ethol arweinydd i Gymru… yn enwebu arweinydd i Gymru sydd ddim wedi dadorchuddio be ’di rhaglen wlediyddol yr arweinydd."

    "Os ydach chi’n edrych ar sefyllfa’r arolygon barn yng Nghymru, mae’n amlwg fod gan Llafur Cymru broblem yn enwedig ar y lefel ddatganoledig."

    Richard Wyn Jones

    "Mae ‘na gwyno nid yn unig am 20 milltir yr awr a stwff sy’n cael lot o sylw gan bobl fel ni, ond perfformiad y gwasanaeth iechyd, perfformiad addysg ag ati.

    "Y bet mae Llafur yn ei wneud ydy fod Eluned Morgan, fel Prif Weinidog, yn gyntaf maen nhw wedi perswadio’u hunain ei bod hi’n ymgyrchydd cryf, ond hefyd, mae’n rhaid eu bod nhw’n meddwl y bydd hi’n gallu arwain y llywodraeth yn fwy effeithiol a delio efo rhai o’r problemau yna, a dwi’n meddwl fod na gwestiwn mawr ynglŷn â’r ddwy elfen yna."

    Bydd rhagor am hyn ar bodlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru am 1700.

  14. 'Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos ag Eluned'wedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Dywedodd Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Cymru: “Bydd Eluned yn arweinydd gwych i Lafur Cymru ac ymgeisydd ar gyfer prif weinidog Cymru, gan ddod â blynyddoedd lawer o brofiad ar y rheng flaen ym myd gwleidyddiaeth i’r dasg bwysig o gyflawni dros bobl ledled Cymru."

    Jo StevensFfynhonnell y llun, Getty Images

    “Rwy’n arbennig o falch bod Eluned wedi cael cefnogaeth aruthrol gan grŵp Llafur y Senedd.

    “Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos ag Eluned yn gyflym, i roi cynlluniau llywodraeth y DU ar waith i fynd i’r afael â blaenoriaethau pobol ledled Cymru, a gafodd gefnogaeth aruthrol yn yr etholiad cyffredinol.”

  15. 'Gambl ar ran Llafur yw’r penderfyniad yma'wedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Disgrifiad,

    Dywedodd Vaughan Roderick bod y penderfyniad yn “gambl ar ran Llafur"

    Dywedodd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick bod "y grŵp Llafur yn y Senedd wedi sicrhau undod - neu o leiaf undod arwynebol - trwy beidio cynnal etholiad ond bydd pris o bosib i'w dalu".

    "Ry'n ni'n gwybod o achos Sunak yn San Steffan neu Swinney yn yr Alban bod yr etholwyr efallai yn cosbi arweinwyr nad oedden nhw wedi eu hethol gan eu haelodau.

    "Gambl ar ran Llafur yw'r penderfyniad yma mewn gwirionedd."

    Bydd rhagor am hyn ar bodlediad Gwleidydda yn ddiweddarach.

  16. Beth allwn ni ei ddisgwyl gan Eluned Morgan?wedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Does dim dwywaith bod Eluned Morgan yn wleidydd efo llond trol o brofiad – o weithio yn Senedd Ewrop, Tŷ’r Arglwyddi a Senedd Cymru.

    Mae hi'n dweud beth sydd ar ei meddwl yn aml, sy'n gallu achosi problemau iddi ar adegau.

    Ond mae hi hefyd yn barod i wynebu heriau. Dydi'r briff iechyd ddim yn hawdd ac mae hi wedi wynebu cryn dipyn o feirniadaeth yn y swydd yna.

    Ond beth yw ei gweledigaeth ar gyfer y swydd?

    Wel dydan ni ddim yn gwybod a dweud y gwir. Gan nad oes 'na gystadleuaeth, does 'na chwaith ddim maniffesto na thrafodaethau am bolisiau.

    Mae hi wedi dweud ei bod hi eisiau gwella gwasanaethau cyhoeddus ac eisiau adeiladu dyfodol mwy disglair i gymunedau Cymru.

    Be' yn union mae hynny yn olygu? Dyna fydd y cyhoedd eisiau ei wybod yn fuan.

  17. 'Camp wych'wedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Ymatebodd Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol, “hoffwn yn gyntaf longyfarch Eluned Morgan ar ei henwebiad llwyddiannus fel arweinydd Llafur Cymru".

    "Byddai’n gamp wych bod yn brif weinidog benywaidd cyntaf ac rwy’n falch iawn o weld menyw arall yn arwain y ffordd yng ngwleidyddiaeth Cymru.

    "Mater i Eluned a Llafur Cymru yn awr yw ail-ennill ymddiriedaeth y Senedd ac, yn bwysicaf oll, pobl Cymru."

    Jane Dodds
  18. 'Diolch am bopeth'wedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dim ond pedwar mis sydd 'na ers i Vaughan Gething gael ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru

    Mae'r Prif Weinidog presennol, Vaughan Gething wedi trydar yn Gymraeg, "Llongyfarchiadau Eluned".

    Ac meddai yn Saesneg, "gyda degawdau o brofiad o wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, gwn fod y blaid mewn dwylo da".

    Yna meddai yn Gymraeg: "Diolch am bopeth".

  19. Carwyn Jones: Eluned Morgan â 'gweledigaeth gadarn'wedi ei gyhoeddi 15:33 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae'r cyn-brif weinidog, Carwyn Jones yn credu mai Eluned Morgan yw'r un i "uno" y Blaid Lafur.

    Dywedodd cyn-arweinydd y Blaid Lafur bod ei phrofiad gwleidyddol a'i phartneriaeth gyda Huw Irranca-Davies wedi arwain at ei "weledigaeth gadarn".

    Cafodd Eluned Morgan ei phenodiad cyntaf i'r cabinet ym Mae Caerdydd o dan lywodraeth Mr Jones yn 2017 fel gweinidog dros yr Iaith Gymraeg.

  20. 'Newyddion gwych i Gymru ac i’r Blaid Lafur'wedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Starmer a GethingFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan fydd trydydd arweinydd Llafur Cymru iddo gydweithio a nhw ers iddo ef fod yn arweinydd Llafur y DU

    Wrth ymateb i ethol Eluned Morgan yn arweinydd Llafur Cymru, dywedodd y Prif Weinidog Keir Starmer: “Mae ethol Eluned yn arweinydd Llafur Cymru a’i hymgeisyddiaeth fel prif weinidog yn newyddion gwych i Gymru ac i’r Blaid Lafur."

    Meddai: "Daw Eluned â chyfoeth o brofiad a hanes o gyflawni, ac fel y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru, mae hi eisoes yn creu hanes.

    “Dim ond tair wythnos yn ôl, pleidleisiodd pobl ledled Cymru’n gryf dros y Blaid Lafur ar ei newydd wedd i arwain llywodraeth yn San Steffan.

    "Rydym wedi cael mandad cryf i sicrhau newid i bobl sy’n gweithio, ac edrychaf ymlaen at weithio law yn llaw ag Eluned i gyflawni ein haddewidion i Gymru a Phrydain.”