Crynodeb

  • Llafur Cymru wedi cadarnhau mai Eluned Morgan yw eu harweinydd newydd

  • Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "anrhydedd mawr" i fod y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru ac i gael ei henwebu i fod yn brif weinidog nesaf Cymru

  • Wrth ymateb dywedodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer ei fod "yn edrych ymlaen at weithio law yn llaw ag Eluned i gyflawni ein haddewidion i Gymru a Phrydain"

  • Mae Vaughan Gething, a ymddiswyddodd yr wythnos ddiwethaf, wedi llongyfarch Eluned Morgan

  • Yr enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth wedi cau ers 12:00 a doedd neb arall wedi cynnig ei enw

  • Y Ceidwadwyr Cymreig yn llongyfarch Eluned Morgan ond yn gofyn "ai dyma'r gorau all Llafur ei gynnig?" tra bod Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru yn dweud y "dylai Eluned Morgan alw etholiad"

  1. 'Anrhydedd mawr'wedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Dywedodd Eluned Morgan ei fod yn "anrhydedd mawr" i fod y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru ac i gael ei henwebu i fod yn brif weinidog nesaf Cymru.

    Meddai: “Yn y cyfnod hollbwysig hwn i’n gwlad, cryfder, sefydlogrwydd ac undod fydd fy egwyddorion arweiniol.

    "Rwyf am sicrhau fod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle a’r gallu i gyflawni eu potensial.

    “Roedd Huw Irranca-Davies a minnau’n sefyll yn falch fel partneriaeth, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cefnogaeth aruthrol ASau Llafur Cymru a chefnogaeth o bob rhan o Gymru a’r mudiad Llafur ehangach.

    “Pan wnaethon ni addo undod, fe wnaethon ni ei olygu - a dyna sut y byddwn ni'n arwain.

    "Gan weithio gyda chydweithwyr ar draws y Senedd a sefyll ochr yn ochr â Llywodraeth Lafur y DU Keir Starmer, byddaf yn canolbwyntio ar wella’r pethau sydd bwysicaf i bawb yn ein gwlad wych.

    “Trwy fy arweinyddiaeth i, bydd Cymru – a’r hyn sydd orau i’n gwlad – bob amser yn dod uwchlaw popeth arall.”

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Llafur Cymru
  2. Eluned Morgan yw arweinydd newydd Llafur Cymruwedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Mae Llafur Cymru wedi cadarnhau mai Eluned Morgan yw eu harweinydd newydd.

    Hi felly fydd yn cael ei henwebu gan y blaid i olynu Vaughan Gething fel prif weinidog.

    Hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn arweinydd Llafur Cymru ac mae disgwyl mai hi fydd prif weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

    Fe wnaeth y cyfnod lle roedd modd enwebu rhywun ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru gau am 12:00 ddydd Mercher, a doedd neb arall wedi cynnig ei enw.

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Senedd
  3. Gwleidyddion Llafur yn croesawu eu harweinydd newyddwedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae gwleidyddion Llafur Cymru wedi dechrau croesawu Eluned Morgan fel eu harweinydd newydd.

    Anfonodd David Rees, dirprwy lywydd y Senedd, ac AS Canolbarth a Gorllewin Cymru Joyce Watson ill dau “longyfarchion enfawr”.

    “Mae ganddi’r profiad a’r gwerthoedd sydd eu hangen ar Gymru wrth i ni symud ymlaen gyda llywodraeth Lafur newydd yn y DU,” meddai Mr Rees ar X.

  4. Huw Irranca-Davies fydd yn ddirprwywedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae Ms Morgan eisioes wedi dweud mai'r ysgrifennydd materion gwledig, Huw Irranca-Davies fydd ei dirprwy.

    Ddydd Llun, dywedodd Mr Irranca-Davies wrth BBC Cymru bod ganddo ddigon o gefnogaeth i ymuno â'r ras ond ei fod wedi penderfynu na fyddai'n gwneud hynny.

    Mewn cyfweliad yn y Sioe Fawr, dywedodd mai Eluned Morgan "fyddai'r arweinydd benywaidd cyntaf ar Lywodraeth Cymru a Llafur Cymru, ac mae hi'n rhywun sydd â hanes o gyflawni ei hamcanion ac yn wleidydd sydd â phrofiad anhygoel".

    Eluned Morgan gyda Huw Irranca-Davies yn y Sioe Frenhinol
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan gyda Huw Irranca-Davies yn y Sioe Frenhinol

  5. 'Anhrefn wrth galon y blaid sy’n llywodraethu'wedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, hefyd wedi llongyfarch Eluned Morgan ar ei phenodiad fel arweinydd Llafur yng Nghymru.

    Ond meddai: "Mae’r ffaith mai hi ydi’r trydydd arweinydd mewn tri mis yn siarad cyfrolau am yr anhrefn wrth galon y blaid sy’n llywodraethu.

    "Mae Cymru angen i’w phrif weinidog lwyddo, ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i ddewisiadau fod yn wahanol a chanlyniadau fod yn well."

    Ychwanegodd, "dylai Eluned Morgan alw etholiad ond wnaiff hi ddim, felly tra bod Llafur yn parhau i ddadlau ymysg ei gilydd, mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gynnig dewis amgen y gall pobl ym mhob cwr o’n gwlad uno y tu ôl iddo.”

    Rhun ap Iorwerth
  6. 'Y Blaid Lafur wedi'i synnu'wedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Pan ymddiswyddodd Vaughan Gething yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd y byddai'n parhau i arwain tan yr Hydref, gyda'r disgwyl y byddai yna ornest am yr arweinyddiaeth dros yr haf.

    Ond mae pethau wedi symud yn sydyn ers hynny, a dwi'n cael yr argraff bod hyd yn oed y Blaid Lafur wed'i synnu gan ddigwyddiadau'r wythnos hon.

    Ar ôl i Jeremy Miles benderfynu na fyddai o'n sefyll a chefnogi Eluned Morgan yn lle, roedd cystadleuaeth yn edrych yn annhebygol.

    Ac wedi'r rhwygiadau'r misoedd diwethaf, mae bron i bob un o'r grŵp Llafur yn y Senedd wedi uno y tu ôl iddi.

    Mi fydd hi'n dechrau ar ei gwaith efo tipyn o ewyllus da, ond bydd rhaid gweithio i sicrhau bod yr undod yna yn parhau.

  7. 'Ai dyma'r gorau all Llafur ei gynnig?'wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae'r gwrthbleidiau yn Senedd Cymru eisioes wedi dechrau ymateb.

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "I ddechrau mi hoffwn i longyfarch Eluned Morgan ar ddod yn arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru a phrif weinidog benywaidd cyntaf Cymru, os fydd hynny'n cael ei gefnogi gan y Senedd."

    Ond mae'n beirniadu Ms Morgan hefyd "am yr amseroedd aros gwaethaf erioed yn hanes Gwasanaeth Iechyd Cymru" gan ofyn "ai dyma'r gorau all Llafur ei gynnig?"

    "Os bydd ei diffyg arweiniad gyda'r GIG yn cael ei adlewyrchu ar draws yr economi a'r sector addysg yng Nghymru, bydd Cymru ar ei cholled yn y dyfodol."

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Beth fydd yn digwydd nesaf?wedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mae angen pleidlais ffurfiol ar lafar yn y Senedd cyn i’r prif weinidog newydd gael ei gadarnhau, ac mae'n debygol y bydd angen galw'r Senedd yn ôl o doriad yr haf.

    Mae'n ofynnol i aelodau o'r Senedd ddweud ar lafar pwy ddylai fod yn brif weinidog yn eu barn nhw, ac mae rhai ohonyn nhw ar wyliau dramor ar hyn o bryd.

    Mewn egwyddor fe allai'r gwrthbleidiau, gydag union hanner y niferoedd yn y Senedd, atal Ms Morgan rhag cael ei chadarnhau yn brif weinidog trwy gefnogi un ymgeisydd.

    Ond nid yw hynny'n mynd i ddigwydd a bydd gan Lafur y niferoedd i gael cadarnhad o'u prif weinidog newydd.

    SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Pwy ydi Eluned Morgan?wedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Pan ymunodd Eluned Morgan â Senedd Ewrop ym 1994, hi oedd ond y bumed fenyw o Gymru erioed i gael ei hethol i unrhyw senedd.

    Yn 27 mlwydd oed, Ms Morgan oedd aelod ieuengaf y senedd ar y pryd hefyd, a hi oedd y gwleidydd Cymreig gyntaf i roi genedigaeth tra yn y swydd.

    Am bymtheg mlynedd ar ôl hynny, coridorau Brwsel a Strasbwrg oedd ei chartref gwleidyddol.

    Darllenwch ragor yma.

    Eluned Morgan
  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 24 Gorffennaf

    Mewn ychydig dros awr, mae disgwyl i Lafur Cymru gyhoeddi mai Eluned Morgan fydd eu harweinydd nesaf.

    Dilynwch ein llif byw wrth i ni ddod â'r diweddaraf a'r ymateb i'r cyhoeddiad.

    Eluned Morgan