Beth yw clefyd y tafod glas?wedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1

Oherwydd clefyd y tafod glas ni fydd arddangoswyr o'r Alban na Lloegr yn cael dod â'u da byw i'r Sioe Fawr eleni.
Mae'r feirws yn gallu achosi briwiau o amgylch ceg ac wyneb yr anifail, trafferthion llyncu ac anadlu, twymyn a chloffni.
Defaid sy'n cael eu heffeithio waethaf gan y straen diweddaraf - sy'n cael ei adnabod fel BTV-3 - er bod effaith y clefyd fel petai'n amrywio yn sylweddol ar draws rhanbarthau gwahanol, gyda rhai anifeiliaid yn dangos ychydig iawn o arwyddion eu bod wedi’u heintio.
Wythnos diwethaf, fe wnaeth prif weithredwr y Sioe, Aled Rhys Jones, atgoffa am bwysigrwydd fod pawb yn wyliadwrus o'r clefyd yn ystod y dathliadau eleni:
"Mae'n bwysig iawn edrych yn fanwl ar eich stoc cyn dod â nhw i'r sioe a byddwch yn wyliadwrus iawn am unrhyw arwyddion o'r clefyd".
Mae adroddiad arbennig Garry Owen yma yn cynnwys rhestr o symptomau y dylid bod yn wyliadwrus ohonynt.