Crynodeb

  • Y graddau Lefel A uchaf yng Nghymru wedi gostwng ar ôl i drefn farcio fwy hael y pandemig ddod i ben

  • Miloedd o ddisgyblion ledled Cymru yn cael gwybod canlyniadau eu arholiadau Lefel A - neu Safon Uwch - Uwch Gyfrannol a BTec

  • Roedd disgwyl i'r canlyniadau Cymru-gyfan fod yn is nag yn 2023 ac yn debyg i raddau cyn y pandemig

  • Rhybudd gan undeb fod y "ffigyrau yn y penawdau ddim yn adrodd y stori lawn"

  • Daw wrth i BBC Cymru Fyw ddatgelu fod myfyrwyr Cymru yn wynebu gadael y brifysgol mewn £35,000 o ddyled ar gyfartaledd

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mae hi wedi bod yn fore o deimladau cymysg ar hyd a lled y wlad wrth i ddisgyblion gael eu canlyniadau Lefel A, AS, BTec a chymwysterau eraill.

    Y prif bennawd ydy fod graddau uchaf ar gyfer Lefel A wedi gostwng - a hynny yn rhannol am fod y drefn farcio fwy hael ers y pandemig wedi dod i ben.

    I gael mwy o gyd-destun, darllenwch ein stori ni gan ein gohebydd addysg, Bethan Lewis.

    Tan y tro nesa' felly, diolch yn fawr i chi am ddilyn a phob lwc i'r disgyblion wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf.

  2. 10 Lefel A?! 'Ddim wedi dilyn llwybr syth'wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Fel nifer o bobl ifanc Cymru, mae Libby Lee yn dathlu ei chanlyniadau heddiw.

    Ond yn wahanol i’r rhan fwyaf, mae hi’n dathlu ei degfed Lefel A, gan sicrhau lle i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerwysg, neu Exeter.

    Ar ôl ennill ei chwech Lefel A gyntaf ychydig flynyddoedd yn ôl, doedd Libby, sy’n 20, ddim yn siŵr i ba gyfeiriad y dylai hi fynd, felly aeth hi ddim i’r brifysgol yn syth.

    Ers hynny, mae hi wedi ffeindio ei ffordd drwy astudio pedwar pwnc arall yng Ngholeg y Cymoedd, gan gynnwys Saesneg Iaith/Llên a’r Gyfraith.

    Cafodd gyfle hefyd i fod yn rhan o raglen fentora sy’n helpu pobl ifanc i mewn i’r byd cyfreithiol. O ganlyniad, mae hi wedi sylweddoli mai dyna’r dyfodol iddi hi.

    Libby LeeFfynhonnell y llun, Coleg y Cymoedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Libby Lee wedi ennill 7A* a 3 A yn ei Lefelau A

    Eglurodd Libby: “Dwi ddim wedi dilyn llwybr syth tuag at fy nghwrs perffaith, ond dwi wedi mwynhau bob munud.

    "Pan ‘nes i benderfynu mod i am weithio tuag at yrfa yn y gyfraith, roedd rhaid i mi aros blwyddyn arall beth bynnag, felly waeth i mi gwblhau mwy o Lefelau A, fel gwleidyddiaeth, achos hoffwn i weithio mewn deddfwriaeth.

    “Dwi wedi cael amser anhygoel yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd dros y blynyddoedd, ac yn ddiolchgar i’r tiwtoriaid am fy annog i ddilyn beth dwi’n angerddol amdano.”

  3. Siom am ddiffyg prentisiaethau yn Tatawedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Yn ôl Dr John Felton, pennaeth Ysgol Gatholig St Joseph ym Mhort Talbot, mae hi'n "bleser mawr" fod mwy o fyfyrwyr y chweched dosbarth yn mynd i'r brifysgol eleni, o'i gymharu â'r llynedd.

    Ond mae'n teimlo ei bod hi'n siom na fydd rhai o fyfyrwyr yr ysgol yn cael y cyfle i gael prentisiaethau yn Tata eleni, fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd blaenorol.

    Penderfynodd y cwmni yn gynharach yn y flwyddyn i gau'r ffwrneisi chwyth yn y dref gan gael gwared ar filoedd o swyddi.

    Darllenwch fwy am sefyllfa gweithwyr Tata Steel yma

    Dr John Felton
    Disgrifiad o’r llun,

    Dr John Felton: Diffyg cyfleoedd Tata yn siom

  4. Llwyddiant i Freya, er gwaethaf heriauwedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mae un o fyfyrwyr Coleg Cambria yn hapus ei byd ar ôl cael graddau A* a dwy A yn ei Lefel A heddiw, a hynny ar ôl cyfnod anodd.

    Roedd Freya Owen, o Wrecsam, wedi dioddef â gor-bryder wrth astudio TGAU mewn ysgol brif ffrwd ac yn “gwneud yn wael iawn”, gan achosi iddi orfod bod yn absennol am gyfnodau o’r ysgol.

    Derbyniodd le mewn uned arbennig sy’n helpu disgyblion sy’n ffeindio ysgol arferol yn anodd, ac fe ddechreuodd hi ffynnu yn ei gwersi.

    Freya Owen

    Ar ôl pasio ei harholiadau TGAU, roedd ganddi’r hyder i fynd i Goleg Cambria ar gyfer ei Lefel A, meddai.

    Er ei bod hi wedi “teimlo’n sâl” cyn y canlyniadau y bore ‘ma, mae hi’n awr yn gwybod ei bod ar y ffordd i Rydychen i astudio hanes celf.

    Yn anffodus, bydd yna un person ar goll o’i dathliadau; bu farw nain Freya, ychydig fisoedd cyn ei harholiadau.

    “Dwi’n ei methu hi’n ofnadwy,” eglurodd Freya. “Dwi’n gobeithio ei bod hi’n falch ohona i.”

  5. 'Cred yng ngwerth addysg Gymraeg yn allweddol'wedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Roedd dathlu yn Ysgol Bro Preseli yn Sir Benfro, wrth i 40% o’r graddau Safon Uwch gyrraedd A* neu A – mae hyn yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru o 29.9%.

    Dywedodd yr ysgol: “Fel yr unig ddarparwr addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg llwyr yn Sir Benfro, rydym yn ymfalchïo’n fawr mewn cynnig addysg o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg.

    "Hoffem estyn ein diolch o waelod calon i’r holl rieni / gwarcheidwaid a disgyblion am eich cefnogaeth barhaus.

    "Mae eich cred yng ngwerth addysg Gymraeg wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant fel ysgol.”

    Myfyrwyr Ysgol Bro PreseliFfynhonnell y llun, Ysgol Bro Preseli
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhai o fyfyrwyr Ysgol Bro Preseli yn dathlu ddydd Iau

  6. O Goleg y Cymoedd i Rydychenwedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mae Seth Olner wedi cael y graddau roedd eu hangen yn ei arholiadau Lefel A yng Ngholeg y Cymoedd, ac ar ei ffordd i Brifysgol Rhydychen i astudio'r gyfraith yn yr hydref.

    Mae'r llanc ifanc â'i fryd ar fod yn fargyfreithiwr, gan ganolbwyntio ar gyfraith hawliau dynol.

    Teimlai Seth fod ei gyfnod ar dîm siarad cyhoeddus y Coleg am fod o gymorth mawr iddo yn ei yrfa.

    Seth OlnerFfynhonnell y llun, Coleg y Cymoedd
  7. Mynd 'nôl i'r hen drefn i 'sicrhau tegwch hirdymor'wedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Cymwysterau Cymru

    Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, fod "dychwelyd at drefniadau cyn y pandemig ar gyfer cymwysterau" yn "hanfodol".

    "Mae’r gwahaniaethau yn y dulliau dyfarnu dros y pedair blynedd diwethaf yn golygu na ddylid gwneud cymariaethau rhwng canlyniadau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn," meddai.

    "Er mwyn paratoi dysgwyr i gymryd eu camau nesaf, mae’n hanfodol bod cymwysterau yng Nghymru yn rai mae pobl yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi ar draws y DU a thu hwnt."

    Ychwanegodd ei bod yn "bwysig dychwelyd at drefniadau cyn y pandemig ar gyfer cymwysterau, er mwyn sicrhau tegwch hirdymor o fewn y system".

  8. Gwariant ar fyfyrwyr sy'n gadael Cymru yn 'boncyrs'wedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Yn gynharach yn y mis fe adroddodd Cymru Fyw ar stori fod Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na £2.2 biliwn dros bum mlynedd ar gymorth i fyfyrwyr Cymreig sy'n astudio cyrsiau mewn prifysgolion y tu allan i Gymru.

    Daeth y ffigyrau i law mudiad Dyfodol i'r Iaith, yn sgil cais rhyddid gwybodaeth (FOI).

    Mae'r llythyr, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, yn dangos fod y llywodraeth wedi gwario £550m yn y flwyddyn ariannol 2022-23 ar gymorth i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio y tu hwnt i Glawdd Offa.

    Jack Bailey, o'r Rhyl, a Rosy Pearson, o LanrwstFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Jack Bailey, o'r Rhyl, a Rosy Pearson, o Lanrwst, ymysg nifer sydd wedi gadael Cymru i dderbyn addysg uwch - ond sy'n dweud nad ydyn nhw'n bwriadu dod yn ôl

    Mewn darlith ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd wythnos diwetha', dywedodd Dr Huw Griffiths o Dyfodol i'r Iaith fod y ffigwr yna yn "hollol boncyrs", gan alw am newid cyfeiriad wrth geisio denu rhai o'n disgyblion disgleiria.

    Ond dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru fod y rhan fwyaf o’r arian sy'n cael ei roi i'r myfyrwyr yma yn cael ei dalu'n ôl ar ffurf ad-daliadau.

    Mae'r gwariant ar gymorth myfyrwyr wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, meddai llefarydd, "oherwydd ystod o ffactorau megis y cynnydd mewn costau byw a chynnydd mewn cymorth cynnal a chadw".

    Darllenwch y stori'n llawn.

  9. AS yn cyfrannu mwy eleniwedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru ym Mhort Talbot

    Yn naturiol, dyw myfyrwyr yma yn Ysgol Gatholig St Joseph ym Mhort Talbot yn poeni dim am y darlun cenedlaethol – eu canlyniadau nhw a beth mae’n ei olygu am y camau nesaf yw’r peth pwysig.

    Ond ers misoedd, mae penaethiaid arholiadau wedi bod yn paratoi ysgolion, colegau a'r cyhoedd am raddau is ar lefel Cymru-gyfan ar ôl hepgor y mesurau ychwanegol sydd wedi bod mewn lle ers 2020 i adlewyrchu tarfu’r pandemig.

    Yn ôl y disgwyl, mae cyfran y graddau uchaf wedi gostwng ond mae nhw’n dal i fod yn uwch na'r blynyddoedd cyn 2020.

    Un esboniad rhannol posib yw bod canlyniadau Uwch Gyfrannol (AS) llynedd – gafodd eu gosod o dan system fwy hael – yn cyfrannu 40% at y Lefel A terfynol eleni.

    Does dim amheuaeth bod y pandemig wedi cael effaith ar addysg y to yma o fyfyrwyr hefyd ond mae gwleidyddion a rheoleiddwyr yn dweud bod angen mynd yn ôl i "normal" i sicrhau bod gan raddau Cymru yr un gwerth â rhai yn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

  10. Mwy yn mynd yn syth i'r byd gwaithwedi ei gyhoeddi 10:42 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    golwg360

    Mae data newydd yn dangos bod mwy o ddisgyblion yn gadael yr ysgol ac yn mynd yn syth i'r byd gwaith nag ers 15 mlynedd.

    Penderfynodd 13% o ddisgyblion Blwyddyn 13 fynd yn syth i gyflogaeth yn 2023.

    Yn ôl data diweddar gan Gyrfa Cymru, mae menywod ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o aros mewn addysg, o gymharu â dynion ifanc.

    Ym Mlwyddyn 13, roedd gwahaniaeth o 9.2% rhwng nifer y menywod ifanc a dynion ifanc sy'n parhau mewn addysg llawn amser.

    Sophie SeymourFfynhonnell y llun, Golley Slater
    Disgrifiad o’r llun,

    Llwyddodd Sophie i gael prentisiaeth mewn asiantaeth deithio leol

    Ar ôl cwblhau ei chyrsiau Safon Uwch, llwyddodd Sophie Seymour, 18 oed o Gasnewydd, i sicrhau prentisiaeth, gan ddewis llwybr gwahanol i'r rhan fwyaf o fenywod ifanc., dolen allanol

    Roedd Sophie yn wynebu ansicrwydd pan gafodd ei chanlyniadau, felly bu'n edrych ar wahanol lwybrau cyn cael prentisiaeth yn y pen draw gyda help ei chynghorydd yn Cymru'n Gweithio.

  11. Llai o Gymru yn gwneud cais i'r brifysgolwedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mae yna ostyngiad yn nifer y bobl ifanc 18 oed sydd yn ceisio am le yn y brifysgol.

    Mae'r data, gan y gwasanaeth mynediad i brifysgol UCAS, yn dangos hefyd cwymp yn nifer y ceisiadau gan ddisgyblion o gefndiroedd mwy difreintiedig.

    Yn ôl ffigyrau diweddaraf UCAS roedd 33.8% o bobl ifanc 18 oed Cymru wedi gwneud cais am brifysgol - o'i gymharu gyda 41.9% ar draws y Deyrnas Unedig.

    graff

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ceisio deall y sefyllfa gyda chymorth arbenigwyr a thystiolaeth.

  12. Cynnydd yn Lloegr, ond gostyngiad yng ngweddill y DUwedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mae'r darlun yn wahanol ar draws y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod canlyniadau cymwysterau Safon Uwch.

    Er fod canran y myfyrwyr sydd wedi derbyn graddau A* ac A yn uwch nag erioed ar gyfartaledd - sef 28% - roedd gostyngiad yn y canlyniadau Cymreig, sydd i lawr o 34% yn 2023, i 29.9% eleni.

    Sefyllfa debyg sydd yng Ngogledd Iwerddon hefyd, sydd i lawr o 37.5% i 30.3%.

    Ond mae cynnydd bychan wedi bod yn nghanran Lloegr - 27.6% eleni, o'i gymharu â 26.5% y llynedd.

    Derbyniodd myfyrwyr Yr Alban eu canlyniadau arholiadau Safon Uwch - cymhwyster Scottish Higher - yr wythnos ddiwethaf.

  13. Beth ydy camau nesa' rhai o griw Pwllheli?wedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Carwyn Jones
    Gohebydd BBC Cymru ar Gampws Pwllheli, Coleg Meirion Dwyfor

    Osian Thomas
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Osian Thomas wedi derbyn A yn Saesneg, B yn Hanes ac wedi pasio ei Fagloriaeth. Bydd yn mynd i'r brifysgol yn Lerpwl fis Medi.

    Mae Siwan (ch) a Catrin (dd) wedi dilyn cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Bydd Siwan yn mynd i fyd gwaith yn syth a Catrin yn mynd i'r brifysgol ym Mangor.
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Siwan (ch) a Catrin (dd) wedi dilyn cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Bydd Siwan yn mynd i fyd gwaith yn syth a Catrin yn mynd i'r brifysgol ym Mangor.

    Math Gwilym Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Math Gwilym Hughes: Mathemateg A*, Cemeg A, Ffiseg A*. Bydd yn mynd i astudio Ffiseg yng Nghaerdydd fis Medi.

  14. Ddim wedi cael y graddau roeddech chi'n gobeithio amdanyn nhw?wedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mae yna opsiynau i chi:

    Clirio - mae gan y ran fwyaf o brifysgolion a cholegau broses glirio i'ch helpu i ddod o hyd i'r cwrs perffaith. Darllenwch fwy yma.

    Prentisiaeth - cyfle i ennill pres wrth i chi hyfforddi. Gallwch fod yn gymwys i wneud prentisiaeth os ydych chi'n hŷn nag 16 oed a ddim mewn addysg llawn amser, ac mae nifer o feysydd ar gael, o letygarwch i drafnidiaeth, o'r cyfreithiol i'r creadigol.

    Gyrfa - mae digon o amrywiaeth o ran math o swydd gallwch chi ei gwneud. Gall y cwis ar wefan Gyrfa Cymru, dolen allanol eich helpu i ddysgu pa fath o swydd fyddai'n addas i chi, a chynnig cyngor am sut i ymgeisio am swyddi.

  15. Y canlyniadau 'fel roedden ni'n gobeithio'wedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Llywodraeth Cymru

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru tra ar ymweliad â Choleg Cambria yn Wrecsam.

    "Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i bawb sy'n cael eu canlyniadau ledled Cymru.

    "Arholiadau eleni yw'r cam olaf wrth i ni ddychwelyd at y trefniadau a oedd ar waith cyn y pandemig.

    "Mae'r canlyniadau yn unol â'r hyn roedden ni'n gobeithio ei weld ac maen nhw'n weddol debyg i ganlyniadau cyn y pandemig."

    Lynne Neagle sy'n gyfrifol am addysg yng Nghymru ar hyn o bryd
    Disgrifiad o’r llun,

    Lynne Neagle sy'n gyfrifol am addysg yng Nghymru ar hyn o bryd

  16. Ysgol yn dathlu ei chanlyniadau gorauwedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mae Ysgol Garth Olwg, ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd yn dathlu gyda chanran o 83.7% o raddau A*-C ar gyfer y cyrsiau Lefel A eleni.

    Dyma'r canran uchaf ers i’r ysgol agor yn ysgol 3-19 newydd yn 2019.

    Llwyddodd Maya Thomas i gael 4A*, ac mae nifer o'r disgyblion nawr ar eu ffordd i brifysgolion ledled Cymru a thu hwnt.

    Dywedodd y Dirprwy Brifathro, Dr Samuel Williams:

    "Mae’r myfyrwyr yn llawn haeddu eu llwyddiant ac rydym ni fel cymuned ysgol yn falch iawn o’u llwyddiant eleni sy’n dyst i’w dycnwch a’u hymdrechion di-flino. Llongyfarchiadau mawr i bawb!"

    Myfyrwyr Ysgol Garth OlwgFfynhonnell y llun, Ysgol Garth Olwg
    Disgrifiad o’r llun,

    Myfyrwyr Ysgol Garth Olwg

  17. Graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru wedi gostwngwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst
    Newydd dorri

    Mae'r graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru wedi gostwng ar ôl i’r drefn farcio fwy hael wedi’r pandemig ddod i ben.

    Roedd canran y graddau A ac A* yn 29.9% eleni, o'i gymharu gyda 34% yn 2023.

    Mae’r canlyniadau’n agosach at lefel 2019.

    Yn ôl Cymwysterau Cymru, sy'n goruchwylio'r arholiadau, mae’r canlyniadau’n rhan o’r “cam olaf wrth ddychwelyd yn raddol i brosesau cyn y pandemig”.

    Derbyniodd myfyrwyr hefyd ganlyniadau ar gyfer arholiadau AS, BTec a chymwysterau eraill.

    graff graddau
  18. Cymharu gor-syml 'ddim yn ddefnyddiol'wedi ei gyhoeddi 09:22 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    NAHT Cymru

    Mae Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol yr undeb i arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, yn pwysleisio fod rhaid bod yn wrthrychol wrth edrych ar y canlyniadau.

    Dyma'r flwyddyn gyntaf mae’r dull graddio wedi dychwelyd yn ôl i sut oedd yng Nghymru cyn y pandemig.

    Dyw hi "ddim yn ddefnyddiol" i gymharu’r canlyniadau gyda'r blynyddoedd diwethaf, meddai Ms Doel.

    Laura Doel

    Ychwanegodd: "Achosodd y pandemig amhariad byr-cyngor ar raddio a dydi’r ffigyrau yn y penawdau ddim yn adrodd y stori lawn o ran profiadau myfyrwyr na’u hysgolion neu golegau.

    "Mae pobl ifanc wedi gweithio’n aruthrol o galed drwy’r holl drafferthion roedden nhw’n eu hwynebu ddechrau’r ddegawd, hyd yma.

    “Mae canlyniadau'r myfyrwyr heddiw nid yn unig yn cydnabod eu llwyddiannau ond hefyd yn basport i gam nesaf eu bywydau."

  19. Pa bynciau sy'n boblogaidd?wedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mathemateg, Bioleg a Seicoleg yw'r pynciau Lefel A mwyaf poblogaidd o hyd.

    Cymraeg Iaith welodd y cynnydd canran mwyaf mewn cofrestriadau ers 2023 er bod y niferoedd yn fach - fyny i 230 o 185).

    Roedd y gostyngiadau mwyaf i Ddaearyddiaeth (1,040 o 1,285) a Sbaeneg (125 o 150).

  20. Myfyrwyr prifysgol yn wynebu £35,000 o ddyledwedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mae miloedd o bobl ifanc Cymru yn ystyried eu camau nesaf wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau bore 'ma, ac fe fydd y brifysgol ar flaen meddyliau nifer ohonyn nhw.

    Ond mae data sydd wedi dod i law BBC Cymru Fyw yn dangos fod myfyrwyr Cymru yn gadael y brifysgol gyda dros £35,000 o ddyled ar gyfartaledd.

    Mae hynny'n gynnydd o dros £14,000 mewn pum mlynedd, yn ôl y ffigyrau a gafodd eu rhannu gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) wedi cais rhyddid gwybodaeth (FOI).

    Dywedodd llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru fod y system gyllid "wedi torri", wrth i'r ffigyrau ddangos fod gan un myfyriwr ddyled o bron i £140,000.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu CMC, mae Cymru yn "arwain y ffordd o ran ein system gyllid unigryw a blaengar", gan ychwanegu mai nhw sy'n "darparu'r system cyllid myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig".

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

    Bydd Nel Jones yn benthyg tua £11,000 ar gyfer ei hail flwyddyn yn y brifysgolFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd Nel Jones o Frynrefail, Gwynedd, yn benthyg tua £11,000 ar gyfer ei hail flwyddyn yn y brifysgol