Crynodeb

  • Y graddau Lefel A uchaf yng Nghymru wedi gostwng ar ôl i drefn farcio fwy hael y pandemig ddod i ben

  • Miloedd o ddisgyblion ledled Cymru yn cael gwybod canlyniadau eu arholiadau Lefel A - neu Safon Uwch - Uwch Gyfrannol a BTec

  • Roedd disgwyl i'r canlyniadau Cymru-gyfan fod yn is nag yn 2023 ac yn debyg i raddau cyn y pandemig

  • Rhybudd gan undeb fod y "ffigyrau yn y penawdau ddim yn adrodd y stori lawn"

  • Daw wrth i BBC Cymru Fyw ddatgelu fod myfyrwyr Cymru yn wynebu gadael y brifysgol mewn £35,000 o ddyled ar gyfartaledd

  1. Llwyddiant i fyfyrwyr ym Mhort Talbotwedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Mae gwên ar wynebau nifer o ddisgyblion Ysgol Gatholig St Joseph's ym Mhort Talbot y bore 'ma.

    Mae tri o'r pedwar disgybl yma ar eu ffordd i'r brifysgol, tra bod Isabella (chwith) wedi cael ei derbyn i wneud prentisiaeth yng nghwmni Deloitte yng Nghaerdydd.

    Myfyrwyr St Joseph

    Mae hi'n gyfnod o ansicrwydd i nifer o bobl ifanc tref Port Talbot ar hyn o bryd, oherwydd y bygythiad i brif ddiwydiant yr ardal, dur.

    Darllenwch fwy yma.

  2. Effaith Covid yn 'anochel' ond y graddau'n 'arbennig'wedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Carwyn Jones
    Gohebydd BBC Cymru ar Gampws Pwllheli, Coleg Meirion Dwyfor

    "Mae 'na fisoedd o waith caled wedi bod gan y dysgwyr a'r staff hefyd, felly mae heddiw'n binacl," meddai Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion Dwyfor.

    "Mae'r rhagolygon yn dangos ein bod ni efo graddau arbennig o dda yma ym Mhwllheli heddiw 'ma ac yn gyffredinol ar draws holl gampysau Colegau Llandrillo Menai felly dwi'n siŵr y bydd 'na wynebau hapus yn dod yma erbyn 08:30."

    Fflur Rees Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Fflur Rees Jones ydy Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion Dwyfor

    Ond ydy effaith y pandemig yn parhau?

    "Mae'n anochel ei fod o. 'Da ni dal i weld sgil effaith Covid a'i gysgod dros ein dysgwyr ni, pethau fel iechyd meddwl a lles ac ati ydy hynny.

    "Be 'da ni'n weld yn gyffredinol yn ein canlyniadau ni yma... ydy bod nhw'n uwch na'r llynedd a chyn y pandemig hefyd, felly mae'r gwytnwch a'r dyfalbarhad yna'n talu ar eu canfed i'n dysgwyr ni heddiw 'ma."

  3. Arholiadau eleni fel y rhai cyn Covidwedi ei gyhoeddi 08:44 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Roedd yna newidiadau i arholiadau yn 2022 a 2023 er mwyn adlewyrchu'r effaith gafodd y pandemig ar ddysgu.

    Mae disgwyl i'r canlyniadau Cymru-gyfan fod yn is nag yn 2023 ac yn debyg i raddau cyn y pandemig.

    graff

    Yn 2020 a 2021 cafodd arholiadau eu canslo ac fe gafodd graddau eu pennu gan athrawon.

    Pan gafodd arholiadau eu cynnal eto yn 2022, cafodd cynnwys rhai cyrsiau eu torri, ac yn 2023 cafodd gwybodaeth am yr hyn allai godi mewn papurau arholiad ei roi o flaen llaw i ysgolion.

    Doedd yna ddim mesurau ychwanegol yn 2024.

    Dywedodd Cymwysterau Cymru bod eleni yn "llwybr 'nôl o ganlyniadau uwch yn ystod y pandemig".

  4. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst

    Croeso!

    Bydd myfyrwyr yng Nghymru yn derbyn canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a BTec y bore 'ma.

    Dyma'r arholiadau cyntaf ers y pandemig i beidio cael eu haddasu.

    Bydd miloedd o fyfyrwyr ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau o 08:00.

    Ond fe gawn ni well syniad o'r darlun cenedlaethol o 09:30 ymlaen. Arhoswch efo ni!