Crynodeb

  • Nifer y dysgwyr yng Nghymru sydd wedi cael y canlyniadau TGAU gorau wedi cynyddu ychydig ers y llynedd

  • Roedd 62.5% o'r graddau rhwng A* ac C - cynnydd o 0.3% ar ganlyniadau 2024

  • Fe symudodd disgyblion blwyddyn 11 - a gymrodd eu TGAU yn yr haf - i'r ysgol uwchradd pan darodd y pandemig yn 2020

  • Bydd newid mawr i'r drefn o fis Medi i gydfynd gyda'r cwricwlwm newydd

  1. Mwy nag un llwybr i'w ddilynwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1

    Cwrs galwedigaethol yw'r cam nesaf i Dafydd o Ysgol y Strade, meddai, ag yntau wedi derbyn mwy nag un gradd D yn ei arholiadau.

    "Rwy’n mynd i astudio bricklaying yn y coleg y blwyddyn nesaf ac yn bwriadu dechrau yn y byd gwaith hefyd."

    Dafydd

    Cafodd Erin raddau A* ac A heddiw, felly mae hi'n "rili hapus" meddai. Flwyddyn nesaf, mae hi am fod yn astudio Ffiseg, Mathemateg, Technoleg Gwybodaeth a Hanes yn y Chweched Dosbarth cyn mentro am y brifysgol.

    Roedd Harri yr un mor bles gyda'i ganlyniadau gan ei fod wedi pasio pob pwnc, ac hefyd am aros i'r Chweched i astudio Daearyddiaeth, Technoleg Gwybodaeth a Throseddeg.

    Disgyblion strade, Erin a Harri
  2. Ddim yn hapus gyda dy ganlyniadau?wedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1

    BBC Bitesize

    Mae help wrth law ar wefan BBC Bitesize - yno mae digon o gyngor am beth i'w wneud nesaf.

    Cofia hefyd am adran Gyrfaoedd BBC Bitesize, a all dy helpu i benderfynu pa lwybr sydd orau i ti eu ddilyn.

    Gwna gwis am dy swydd ddelfrydol, darllena straeon am brofiadau pobl ifanc fel ti, dysga sut i ysgrifennu CV neu ddysgu mwy am y prentisiaethau sydd ar gael.

  3. Beth yw cyngor myfyrwyr Ysgol y Strade am sut i ymdopi â phwysau TGAU?wedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1

    Disgrifiad,

    Disgyblion y Strade: Sut i ymdopi â phwysau TGAU?

  4. Mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ym Merthyrwedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1

    Yn ôl pennaeth Ysgol Pen y Dre, Merthyr Tudful, Huw Richards, mae'n teimlo'n falch iawn o'r disgyblion, o ystyried yr heriau maen nhw wedi gorfod eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig.

    "Mae'r plant wedi mynd drwy lawer dros y bum mlynedd diwethaf; roedd 'na lawer o newidiadau i ni fel oedolion, heb sôn am i'r plant.

    "Mae 'na aeddfedrwydd wedi bod, wrth iddyn nhw ledaenu eu disgwyliadau, uchelgeisiau a'u gorwelion."

    Huw Richards

    Wrth i'r myfyrwyr nawr ystyried y camau nesaf, mae llawer o newid ar droed yn ardal Merthyr, meddai Mr Richards, gan gynnwys "llawer o fuddsoddiad gan gyflogwyr a phrosiectau isadeiledd".

    "Mae hi'n bleser gweld y cyfleoedd yna nawr yn mynd i mewn i addysg uwch o fewn prifysgolion a chyflogaeth. Mae yna nifer o gyfleoedd."

  5. Ysgol yn symud i system giwio a chynghori un-i-unwedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Cyngor yn y Strade

    Eleni mae Ysgol y Strade wedi gwneud pethau ychydig yn wahanol i'r arfer wrth gyflwyno'r canlyniadau TGAU i'r disgyblion.

    Yn hytrach na dosbarthu amlenni, mae'r myfyrwyr yn ciwio er mwyn derbyn eu canlyniadau gan athro, ac yn cael cyngor ynglŷn â'r camau nesaf yr un pryd.

    Plant yn ciwio

    Eglurodd y pennaeth, Geoff Evans, fod hyn oherwydd fod y disgyblion yn aml wedi newid eu meddyliau ynglŷn â beth yw'r cam nesaf iddyn nhw.

    "Mae rhai sydd wedi dweud eu bod nhw am ddod nôl i wneud Lefel A wedi newid pa gyrsiau maen nhw'n meddwl gwneud," meddai.

    "Mae rhai eraill oedd wedi dweud eu bod nhw eisiau mynd i'r coleg, wedi penderfynu aros yn yr ysgol. Mae rhai yn penderfynu mynd i'r coleg.

    "'Da ni'n eu gweld nhw ac yn siarad efo nhw fel unigolion, wedyn maen nhw'n siarad efo staff hŷn yr ysgol er mwyn rhoi cyngor go iawn iddyn nhw un-i-un, i weld beth sydd orau iddyn nhw ei wneud flwyddyn nesaf."

  6. Ruby yn llwyddo er gwaethaf problemau iechydwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1

    Mynd i weithio mewn ysbyty plant yw uchelgais un o'r myfyrwyr sy'n derbyn ei chanlyniadau heddiw, a hynny ar ôl derbyn gofal yn ystod ei hastudiaethau TGAU.

    Mae Ruby Jones, sy'n ddisgybl yn Ysgol Pen y Dre, Merthyr, wedi dioddef â nifer o gyflyrau iechyd dros y blynyddoedd diwethaf, a olygodd iddi fethu llawer o'r ysgol.

    Cafodd hi hyd yn oed ei chludo i'r ysbyty yn ystod un o'i harholiadau.

    "Mae e wedi amharu ar lawer o bethau," eglurodd. "Roedd fy mhresenoldeb i lawr i 40% ac roedd yr ysgol yn poeni amdana i. Ar un adeg, ro'n i'n cael fy anfon adref bob dydd. Mae wedi effeithio llawer ar fy iechyd i dros y flwyddyn ddiwethaf.

    Ruby Jones

    "Mae'n golygu llawer i mi a fy nheulu mod i wedi llwyddo i basio'r arholiad, ac maen nhw wrth eu boddau, a dwi mor falch o fy hun. Dwi mor ddiolchgar i'r holl athrawon sydd wedi fy helpu."

    Y cam nesaf i Ruby fydd mynd i'r coleg i wneud cwrs gofal plant, gyda'r gobaith o weithio yn yr ysbyty plant sydd wedi gofalu gymaint amdani dros y flwyddyn ddiwethaf.

  7. 'Tystiolaeth o waith caled myfyrwyr'wedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1

    Dywedodd Ian Morgan, prif weithredwr bwrdd arholi CBAC: "Hoffwn longyfarch pob myfyriwr TGAU a galwedigaethol ar yr hyn a gyflawnwyd ganddynt heddiw.

    "Mae'r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o'u gwaith caled a dyfalbarhad drwy gydol eu hastudiaethau, a hoffem ddymuno'r gorau iddynt wrth iddynt symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant, neu gyflogaeth.

    "Mae ein diolch yn ddidwyll hefyd i'r athrawon, tiwtoriaid, a swyddogion arholiadau mewn ysgolion a cholegau ar draws y wlad am yr ymrwymiad ac ymroddiad ganddynt o ran sicrhau gweithrediad cyfres arholiadau eleni.

    "Yn olaf, nid ydym wedi anghofio pa mor hanfodol yw rôl rhieni a gofalwyr wrth iddynt gefnogi dysgwyr i gyrraedd y garreg filltir hon."

    Ian Morgan
  8. Sut mae Lloegr a Gog Iwerddon yn cymharu?wedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich+1

    Lloegr yw'r unig wlad sydd wedi gweld gostyngiad yng nghyfradd basio TGAU.

    Mae'r gyfradd basio wedi codi yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.

    I'ch hatgoffa, mae Lloegr yn defnyddio system rhifau 9 i 1.

    Eleni, cyfran y TGAU a gafodd eu marcio yn 4/C ac uwch ydy:

    • 83.5% yng Ngogledd Iwerddon, i fyny o 82.7% yn 2024
    • 67.1% yn Lloegr, i lawr o 67.4%
    • 62.5% yng Nghymru, i fyny o 62.2%

    Mae'r system arholiadau a chanlyniadau yn wahanol yn Yr Alban.

  9. Beth yw'r opsiynau?wedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1

    Gyrfa Cymru

    Mae digon o opsiynau i fyfyrwyr sydd newydd dderbyn canlyniadau heddiw, yn ôl Emma Williams o Gyrfa Cymru.

    Mae Cymru'n Gweithio yn gynllun ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru i roi cymorth i bobl ifanc 16-24 oed.

    "Prentisiaeth, gwirfoddoli, dechrau gweithio, dechrau busnes eu hun... Byswn ni yn gallu rhoi cymorth iddyn nhw i wneud cais, i chwilio am waith neu drafod syniadau am ddechrau busnes. Mae 'na lot o opsiynau."

    Ewch i dudalen Cymru'n Gweithio am gyngor am y camau nesaf., dolen allanol

    Emma Williams
  10. Mwy yn astudio ieithoedd tramorwedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1

    Ben Price
    Gohebydd BBC Cymru

    Ymysg y pynciau sydd wedi gweld llai yn sefyll arholiadau eleni mae Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Gorfforol.

    Ar y pen arall, mae'r nifer fu'n astudio ieithoedd tramor fel Ffrangeg a Sbaeneg wedi cynyddu.

  11. Arholiadau yn 'llai a llai perthnasol'wedi ei gyhoeddi 10:07 Amser Safonol Greenwich+1

    NEU Cymru

    Mae undeb addysg NEU Cymru yn dweud fod cyflawniadau disgyblion eleni yn "anhygoel" o ystyried "aflonyddwch digynsail" y pandemig.

    Dywedodd Nicola Fitzpatrick, ysgrifennydd dros dro yr undeb, nad oes budd mewn cymharu canlyniadau o un flwyddyn i'r llall.

    "Mae arholiadau diwedd cwrs ymhell o fod y ffordd orau a thecaf o asesu sgiliau myfyrwyr," meddai.

    "Mae ailadrodd gwybodaeth ar un diwrnod yn dod yn llai a llai perthnasol.

    "Mae ffenestr chwe wythnos o straen yn ddiangen ac yn methu â pharatoi myfyrwyr ar gyfer y byd y maen nhw ar fin mynd iddo."

    Ychwanegodd fod yn rhaid i'r cwricwlwm newydd "ddefnyddio ystod o ddulliau asesu".

  12. Newidiadau i'r system o fis Mediwedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae'r canlyniadau heddiw yn dod cyn newid mawr i gymwysterau yng Nghymru.

    Bydd y ffordd mae TGAU yn gweithio yn newid o fis Medi i gydfynd gyda'r cwricwlwm newydd sydd wedi cael ei gyflwyno mewn ysgolion ers tair blynedd.

    Ymhlith y don gyntaf o ddiwygiadau o fis Medi mae TGAU newydd sydd yn cyfuno Cymraeg iaith a llenyddiaeth a Cymraeg Craidd - cymhwyster newydd ail iaith.

    Mae'r newidiadau wedi cael ymateb cymysg, gyda rhai yn honni na fydd disgyblion yn cael dysgu digon am hanes Cymru.

  13. 'Rhyddhad' ar ôl y gwaith caledwedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae hi wedi bod yn fore emosiynol i Gracie Owens o Ysgol Pen y Dre, Merthyr, ar ôl iddi ddysgu ei bod wedi ennill graddau A* ac A.

    "O'n i yn fy nagrau, os dwi'n onest. O'dd e jyst yn dod mas, o'n i o'r diwedd yn gallu rhyddhau'r emosiynau 'na.

    "O'dd e gymaint o ryddhad, achos ma'r gwaith caled wedi bod werth e."

    Grace

    A hithau eisiau astudio gofal plant yn y coleg a chael swydd fel cymhorthydd dosbarth, roedd Kyla yn poeni nad oedd am gael y graddau wrth iddi fynd i gasglu ei chanlyniadau.

    Ond doedd 'na ddim rhaid iddi boeni, a hithau wedi cael siom ar yr ochr orau o weld ei graddau.

    "Ges i fy synnu gyda'r Bac, achos o'n i ddim yn disgwyl pasio hwnna, a Mathemateg, oherwydd mod i ofn y rhifau! Dwi wedi cael sioc o ryddhad."

    Kyla
  14. Y darlun cyflawnwedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1

    Ben Price
    Gohebydd BBC Cymru

    A* i G – 96.9%

    A* i C – 62.5%

    A* i A – 19.5%

    Roedd 22,695 o geisiadau ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaenol (Bagloriaeth Cymru) gyda 98% o ddisgyblion yn cyflawni'r cymhwyster.

    Cyflawnodd 87.2% o'r rheini raddau A* i C.

    graff
  15. 'Symud i'r cyfeiriad cywir'wedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae'r Ysgrifennydd dros Addysg, Lynne Neagle, hefyd yn Ysgol Y Strade yn Llanelli bore 'ma.

    Wrth longyfarch disgyblion, dywedodd: "Rydym wedi gweld rhai canlyniadau cryf yn ein graddau uchaf ac ar draws ystod o bynciau gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

    "Arwydd cadarnhaol ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir gyda chyrhaeddiad yn ein hysgolion.

    "Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’n hathrawon a’n gweithlu addysg y mae eu cefnogaeth a’u gwaith caled wedi helpu ein dysgwyr i ffynnu."

    Lynne Neagle a Geoff Evans, pennaeth Ysgol y Strade, Llanelli
    Disgrifiad o’r llun,

    Lynne Neagle gyda Geoff Evans, pennaeth Ysgol y Strade

  16. Y canlyniadau gorau ar gynnyddwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1
    Newydd dorri

    Ben Price
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae nifer y dysgwyr yng Nghymru sydd wedi cael y canlyniadau TGAU gorau wedi cynyddu ychydig ers y llynedd.

    Eleni roedd 62.5% o raddau dysgwyr rhwng A* ac C - 0.3% o gynnydd ar ganlyniadau 2024.

    Ar draws Cymru gyfan roedd llai o arholiadau wedi cael eu sefyll yn 2025 o'i gymharu â 2024.

    Ar gyfer pwnc Cymraeg iaith gyntaf, fe wnaeth llai o ddisgyblion sicrhau gradd A*-C eleni, ond roedd cynnydd bychan o ran Cymraeg ail iaith.

    Roedd gwelliant bychan hefyd o ran pwnc Saesneg, tra bod Mathemateg a Rhifedd wedi aros ar lefel debyg i 2024.

  17. 'Gwneud yr holl waith cartref' yn talu ar ei ganfedwedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich+1

    "Rwy’n hapus iawn gyda’r canlyniadau," meddai Cameron o Ysgol Gyfun y Strade, "cefais gymysgedd o A*-B.

    "Dwi’n mynd i’r chweched i astudio Gwyddoniaeth a Mathemateg."

    Cameron

    Deuddeg A* oedd ar bapur canlyniadau Mali y bore 'ma, sydd wrth ei bodd bod ei gwaith caled wedi talu ei ffordd.

    "Rwy’n bwriadu astudio Cemeg, Bioleg a Mathemateg Bellach yn y chweched dosbarth, gyda’r gobaith o fynd i’r brifysgol i astudio naill ai Meddygaeth neu Beirianneg."

    Mali

    A hithau wedi profi'r fath lwyddiant, beth yw ei chyngor hi i blant iau, sydd â'u harholiadau TGAU o'u blaenau?

    "Gwneud yr holl waith cartref yn ei dro a bydd popeth yn adeiladu i fyny yn y diwedd."

  18. 'Drysau wedi agor i bobl' ers y pandemigwedi ei gyhoeddi 09:11 Amser Safonol Greenwich+1

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Roedd Emma Williams, sy'n ymgynghorydd gyda Gyrfa Cymru, yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru bore 'ma, ac yn pwysleisio bod digon o gyngor ar gael i'r "bobl ifanc sy'n camu mewn i fyd sy'n wahanol cyn y cyfnod clo".

    "Mae'r ffordd 'da ni yn gallu ac yn dewis dysgu a datblygu sgiliau yn fwy eang nag erioed.

    "Mae'r farchnhad gwaith a'r gweithle i raddau wedi newid; mwy ohonon ni yn gweithio ychydig bach o adre a phethau fel'na, felly mae sut 'da ni yn gallu ac isho gweithio ac addysgu wedi newid.

    "Mae 'na ddrysau wedi agor i bobl, a mwy o opsiynau i ffordd 'da ni yn dewis dysgu a 'da ni yma yn gweithio i gefnogi pobl i drafod yr holl opsiynau yna hefyd."

  19. Balchder ar ôl yr holl boeniwedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae nifer o ddisgyblion wedi derbyn eu canlyniadau yn barod bore 'ma.

    Mae Sam Davies o Ysgol Pen y Dre, Merthyr Tudful, yn falch iawn o'i ganlyniadau ar ôl noson ddi-gwsg neithiwr yn poeni.

    "Do'n i ddim yn meddwl mod i am basio'r rhan fwyaf o bethau, ond dwi mor falch o fy hun achos ges i'n uwch na C ar y rhan fwyaf. Dwi wedi synnu fy hun."

    Ag yntau yn caru popeth yn ymwneud â chwaraeon, meddai, mae nawr ar y ffordd i Goleg Merthyr i astudio Hyfforddiant Chwaraeon.

    Bydd y darlun cenedlaethol yn dod yn glir am 09:30.

    Sam Davies