Crynodeb

  • Nifer y dysgwyr yng Nghymru sydd wedi cael y canlyniadau TGAU gorau wedi cynyddu ychydig ers y llynedd

  • Roedd 62.5% o'r graddau rhwng A* ac C - cynnydd o 0.3% ar ganlyniadau 2024

  • Fe symudodd disgyblion blwyddyn 11 - a gymrodd eu TGAU yn yr haf - i'r ysgol uwchradd pan darodd y pandemig yn 2020

  • Bydd newid mawr i'r drefn o fis Medi i gydfynd gyda'r cwricwlwm newydd

  1. Balchder ar ôl yr holl boeniwedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae nifer o ddisgyblion wedi derbyn eu canlyniadau yn barod bore 'ma.

    Mae Sam Davies o Ysgol Pen y Dre, Merthyr Tudful, yn falch iawn o'i ganlyniadau ar ôl noson ddi-gwsg neithiwr yn poeni.

    "Do'n i ddim yn meddwl mod i am basio'r rhan fwyaf o bethau, ond dwi mor falch o fy hun achos ges i'n uwch na C ar y rhan fwyaf. Dwi wedi synnu fy hun."

    Ag yntau yn caru popeth yn ymwneud â chwaraeon, meddai, mae nawr ar y ffordd i Goleg Merthyr i astudio Hyfforddiant Chwaraeon.

    Bydd y darlun cenedlaethol yn dod yn glir am 09:30.

    Sam Davies
  2. Criw eleni yn griw y pandemigwedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich+1

    Roedd y disgyblion blwyddyn 11 gymerodd eu TGAU yn yr haf wedi symud o'r ysgol gynradd i ysgol uwchradd pan darodd y pandemig yn 2020.

    Mae'r broses o ddychwelyd yn ôl i'r drefn 'normal' ar ôl Covid wedi bod yn fwy graddol yng Nghymru nag yn Lloegr.

    Gwahaniaeth arall rhwng y ddwy drefn yw bod graddau TGAU yng Nghymru yn A* i G, tra bod gan Loegr system rhifau 9 i 1.

    Dywedodd Ian Morgan, prif weithredwr prif fwrdd arholi Cymru CBAC, ei fod yn disgwyl i ganlyniadau TGAU eleni fod yn debyg i flynyddoedd cyn Covid-19.

    "Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld rhai heriau dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf a dyma'r tro cyntaf gall dysgwyr ddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ffordd sydd ddim wedi'i heffeithio gan unrhyw newidiadau eraill yn y gorffennol," meddai.

  3. Ysgol y Strade: Cyfle i longyfarch ac i ymfalchïowedi ei gyhoeddi 08:43 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae heddiw yn "gyfle i longyfarch ac i ymfalchïo yn llwyddiant ein disgyblion," meddai Mr Geoff Evans, pennaeth Ysgol y Strade, Llanelli, ond hefyd yn gyfle i edrych ymlaen.

    "Y syniad heddiw yw i gasglu eu canlyniadau, ond bosib fwy pwysig hefyd yw eu bod nhw'n cael y cyfle i gael cymorth ganddon ni fel ysgol ynglŷn â'r llwybr nesa' iddyn nhw."

    Disgrifiad,

    "Cyfle i longyfarch ac ymfalchïo yn llwyddiant disgyblion Ysgol y Strade"

  4. Croesowedi ei gyhoeddi 08:38 Amser Safonol Greenwich+1

    Bore da a chroeso i lif byw arbennig ar ddiwrnod pwysig i filoedd o bobl ifanc Cymru sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU.

    Eleni, mae disgwyl i ganlyniadau ar lefel Cymru-gyfan i fod yn debyg i'r patrwm cyn y pandemig.

    Yr wythnos ddiwethaf roedd graddau Safon Uwch yn debyg i 2024, ond yn uwch nag yn 2019.

    Arhoswch gyda ni am yr ystadegau a'r ymateb.