Crynodeb

  1. Ymateb Greta Siôn ar ôl ennill Medal y Dramodyddwedi ei gyhoeddi 17:44 GMT+1 7 Awst

    Fe gafodd Cymru Fyw sgwrs â Greta Siôn ar ôl seremoni Medal y Dramodydd ac roedd yr awdur o Waelod y Garth, Caerdydd ar ben ei digon.

    Meddai: "Roedd gweld darn o'r ddrama yn cael ei actio'n fyw yn freuddwyd... mae'n anhygoel".

  2. 'Hon yw'r Eisteddfod Genedlaethol olaf fel Prif Stiward i mi'wedi ei gyhoeddi 17:34 GMT+1 7 Awst

    Cledwyn, Iolo a Dylan sy'n rhan o dîm y Prif StiwardiaidFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Cledwyn, Iolo a Dylan sy'n rhan o dîm y Prif Stiwardiaid

    Pan ddaw'r llen i lawr ar Eisteddfod Wrecsam, bydd gwaith tri o hoelion wyth gwirfoddolwyr y Brifwyl yn dod i ben.

    Ers 18 mlynedd, bu Cledwyn Ashford o Gefn-y-Bedd ger Wrecsam yn arwain Tîm y Prif Stiward ond bydd yn rhoi'r gorau iddi eleni.

    Dywedodd Cledwyn, neu Cled i bawb: "Mae'r gwaith yn galed ac mae'n ddiwrnod hir ond 'dwi wedi cael llawer, llawer o hwyl.

    "Pob blwyddyn byddaf yn dweud 'dyma fy mlwyddyn olaf', ond fel mae Dafydd Iwan yn ganu dwi "Yma o Hyd", ond hon yw'r Eisteddfod Genedlaethol olaf fel Prif Stiward i mi," meddai.

    "Mae llawer o'r stiwardiaid yn hŷn na fi felly dani angen gwaed newydd i gario ymlaen. Os fyse rhai ifanc yn dod ymlaen fysen nhw'n cael blynyddoedd o fwynhad," meddai Cled.

    Bydd Iolo Povey o Ddyffryn Nantlle a Dylan Jones o'r Wyddgrug hefyd yn rhoi gorau i wirfoddoli yn y Brifwyl.

    Rhyngddynt maen nhw wedi rhoi 56 mlynedd o wasanaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol.

  3. Edrych ymlaen at Adwaith ar Lwyfan y Maeswedi ei gyhoeddi 17:22 GMT+1 7 Awst

    Bydd Adwaith yn cloi arlwy Llwyfan y Maes heno, tra bod Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Noson y Wal Goch yn Neuadd William Aston.

    Dyna esgus perffaith i chwarae'r gân yma'n uchel!

  4. Jac Northfield yn gwneud ffrindiau ar y Maeswedi ei gyhoeddi 17:12 GMT+1 7 Awst

    BBC Radio Cymru

    Ar ôl gwneud ei orau i sgwrsio ag ambell i wyneb cyfarwydd, dolen allanol yn gynharach yn yr wythnos, daeth Jac Northfield o hyd i gyfeillion annwyl iawn ar y Maes heddiw...

  5. Enillydd Tlws Sbardunwedi ei gyhoeddi 17:06 GMT+1 7 Awst

    Sefydlwyd Tlws Sbardun yn 2016 er mwyn cydnabod cyfraniad y cerddor a'r cyfansoddwr Alun Sbardun Huws, a chaiff ei gwobrwyo'n flynyddol er mwyn annog cyfansoddwyr y dyfodol.

    Enillydd y tlws eleni yw Alis Glyn o Gaernarfon gyda'i chân 'Lleuad Llinyn Arian'.

    Roedd 16 cân wedi dod i law ac yn ôl y beirniaid Meinir Gwilym ac Elidyr Glyn, roedd safon y gystadleuaeth yn hynod o uchel.

    Alis yw'r ferch gyntaf i ennill Tlws Sbardun a hefyd yr enillydd ieuengaf.

    Llongyfarchiadau Alis!

    Alis Glyn, enillydd Tlws Sbardun 2025 ar y Maes gyda Gwenno Huws, gwraig Alun 'Sbardun' HuwsFfynhonnell y llun, Rhian Tomos
    Disgrifiad o’r llun,

    Alis Glyn, enillydd Tlws Sbardun 2025 ar y Maes gyda Gwenno Huws, gwraig y diweddar Alun 'Sbardun' Huws

  6. Beth yw'r peth gorau am yr Eisteddfod?wedi ei gyhoeddi 16:52 GMT+1 7 Awst

    Dyma farn y brodyr Owain, Ifan a Gruff o Lanrug...

  7. Digwyddiadau ym mhabell Paned o Gêwedi ei gyhoeddi 16:43 GMT+1 7 Awst

    Mae 'na lu o ddigwyddiadau ym mhabell Paned o Gê ar y Maes.

    Bu band Taran yn diddanu'r gynulleidfa gyda set acwstig ddydd Iau.

    Kayley Williams ydi awdur Llyfr y Dydd yn y babell gyda’u nofel Lladd Arth.

    Fe fuon nhw’n cynnal sesiwn yno’n gynharach yn y dydd am ragenwau a gwneud camgymeriadau.

    Dywedodd Kayley: "Ath o'n rili da dwi'n meddwl. O'dd lot o mwy o bobl yna nag o'n i'n ddisgwyl ac o'dd pobl yn gofyn cwestiynau.

    "Dyna pam dwi yma - i ateb cwestiynau pobl sydd ella ofn gofyn... o'n i isho gofod cynhwysol lle o'dd pobl yn gallu gofyn a fi'n gallu ateb mewn iaith allith pawb ddallt."

    Taran
    Disgrifiad o’r llun,

    Taran yn gwneud set acwstig ym mhabell Paned o Gê

    Kayley Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Kayley Williams ydi awdur Llyfr y Dydd ym mhabell Paned o Gê gyda’u nofel Lladd Arth

  8. Greta Siôn yn cipio Medal y Dramodyddwedi ei gyhoeddi 16:27 GMT+1 7 Awst

    Llongyfarchiadau mawr i Greta Siôn o Waelod y Garth, Caerdydd ar ennill Medal y Dramodydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

    Mwy yma.

    Greta Siôn
  9. Cadarnhad bod teilyngdod ym Medal y Dramodyddwedi ei gyhoeddi 16:23 GMT+1 7 Awst

    Mae un o'r beirniaid, Daniel Lloyd wedi cadarnhau fod teilyngdod yn y gystadleuaeth eleni.

    Ond pwy yw Caer Enlli, y dramodydd buddugol?

  10. 'Moment gadarnhaol a chalonogol'wedi ei gyhoeddi 16:18 GMT+1 7 Awst

    Wrth ddechrau traddodi'r feirniadaeth fe ddywedodd Steffan Donnelly, cyfarwyddwr artistig Theatr Cymru: "Mae heddiw yn foment cadarnhaol a chalonogol yn hanes y gystadleuaeth hon".

    Ychwanegodd: "Pan yn trafod y gystadleuaeth yma, dwi'n meddwl bod tuedd i feddwl am athrylith yn eistedd mewn tawelwch i greu campwaith theatrig. Ond nid fel yna mae hi.

    "Yn amlwg mae theatr yn dibynnu ar ddramodydd gyda chrefft, syniadau a dawn. Ond yn ei dro mae dramodydd yn dibynnu ar dîm o gyfoedion i gefnogi'r weledigaeth, i herio ac i gynhyrchu'r gwaith.

    "Disgyblaeth gydweithredol yw theatr."

    "Mae'r consortiwm yn hyderus fod y gystadleuaeth ar ei newydd wedd yn cyfrannu i gyfoethogi'r sector theatr Gymraeg a chyfrannu at greu llwybr cynaliadwy at greu gyrfa ym myd theatr i ddramodwyr Cymru".

    Seremoni Medal y Dramodydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Melanie Owen yn traddodi'r feirniadaeth

  11. Seremoni Medal y Dramodyddwedi ei gyhoeddi 16:12 GMT+1 7 Awst

    Mae seremoni Medal y Dramodydd wedi cychwyn, gyda Nic Parry yn 'gobeithio bod teilyngdod eleni'.

    Fe ddarllenodd Mark Lewis Jones gywydd gan y bardd a dramodydd Gruffudd Owen ar gychwyn y seremoni.

    Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam yn rhoddedig gan eu plant Hywel, Sioned a Steffan a £3,000.

    Y beirniaid eleni yw Betsan Llwyd, Daniel Lloyd, Ffion Wyn Bowen, Gethin Evans, Lowri Morgan a Steffan Donnelly. Penodwyd Mared Jarman a Melanie Owen i’r panel hefyd fel ymarferwyr llawrydd.

    Gallwch wrando'n fyw uchod neu wylio yma.

  12. Y Ddau Ffranc yn llwyddo'n yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 16:03 GMT+1 7 Awst

    Aled Huws a

    Cafodd Aled Hughes air gyda Annest Bryn, a enillodd y Stomp Werin yn yr Eisteddfod eleni, gan ddynwared y cymeriadau chwedlonol Ffranc a Ffranc. Roedd Annest a'i ffrind Mared Llywelyn yn canu cerdd dant wedi gwisgo fel cymeriadau cofiadwy Rhys Ifans a Meirion Davies.

    "Roedd Mared wedi mynd i drafferth a chael brethyn Cymreig, ond alla' i ddim dweud mod i 'di mynd i'r ffasiwn drafferth", meddai Annest.

    "Roedd hi reit boeth yna a dwi'n synnu bod ni 'di gallu para cystal efo'r wigs a bob dim, ond oedd pawb yn glên iawn efo ni chwarae teg, ac yn chwerthin yn y llefydd iawn!"

    Y ddau Ffranc
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Ddau Ffranc, sef Mared Llywelyn ac Annest Bryn

  13. Yr haul yn gwenu eto!wedi ei gyhoeddi 15:56 GMT+1 7 Awst

    Rhisiart o Langrug
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhisiart o Langrug yn defnyddio ei ymbarèl i'w gysgodi rhag yr haul

    Bar Syched
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae ardal Bar Syched yn prysuro wrth i'r haul wenu ar y Maes

  14. Edrych ymlaen at Fedal y Dramodyddwedi ei gyhoeddi 15:51 GMT+1 7 Awst

    Wrth i ni edrych ymlaen at Fedal y Dramodydd, dyma gipolwg ar brif seremoni dydd Mercher.

    Bryn Jones oedd enillydd y Fedal Ryddiaith, a hynny am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Ffin' neu 'Ffiniau'.

    Galwodd y beirniad Aled Lewis Evans y gwaith buddugol yn "gyfrol o lên micro eang ei chynfas, a chelfydd ei chynildeb".

    Mwy yma.

    Bryn Jones yn ennill y Fedal Ryddiaith dydd MercherFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  15. 'Rwyf wrth fy modd yma'wedi ei gyhoeddi 15:37 GMT+1 7 Awst

    Andy Wolley yn byw yn Swydd Gaerloyw

    Mae Andy Wolley yn byw yn Swydd Gaerloyw ond daw'n wreiddiol o Fae Colwyn. Bu'n sgwrsio â Cymru Fyw ar y Maes heddiw.“Pan oeddwn i’n ifanc doedd dim lot o bobl yn siarad Cymraeg o gwmpas fi.

    "Es i Brifysgol a nes i deimlo fel bod rhywbeth ar goll fel Cymro Cymraeg. Roedd e’n codi cywilydd arna'i pan oedd pobl yn gofyn os oeddwn ni yn gallu siarad Cymraeg."

    Ar daith i Batagonia cafodd gyfle i ymweld ag amgueddfa yn y Gaiman, ble gofynnodd rhywun iddo os oedd yn siarad Cymraeg.

    “Yn Sbaeneg dywedais do'n i ddim yn gallu siarad Cymraeg. Felly yn 2019 dechreuais ddefnyddio Duolingo a dysgu Cymraeg ar-lein yn ystod y pandemig.

    “Mae’r Eisteddfod wedi bod wych a nawr mae gen i’r hyder i siarad gyda phobl yn Gymraeg. Rwyf wedi siarad efo llawer o bobl a phob un eisiau siarad gyda dysgwr. Rwyf wrth fy modd yma.”

  16. Nic Parry fydd Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaetholwedi ei gyhoeddi 15:20 GMT+1 7 Awst

    Nic ParryFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Nic Parry yn adnabyddus am ei waith fel sylwebydd pêl-droed

    Mae Nic Parry wedi cael ei ethol yn Llywydd y Llys a chadeirydd Bwrdd Rheoli yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Bydd y cyn-farnwr a'r sylwebydd pêl-droed yn olynu Ashok Ahir, a fu yn y swydd ers 2019.

    Cafodd hynny ei gadarnhau yng nghyfarfod y Llys ddydd Iau yn dilyn proses recriwtio agored.

    Dywedodd Nic Parry: "Does gen i ddim amheuaeth o gwbl bod rhaid bod yn ffyddlon i'r rheol Gymraeg.

    "Mae'n hollol bosib byw am wythnos yn defnyddio'r Gymraeg heb golli allan o gwbl, gan fod y ddarpariaeth ar gyfer y di-Gymraeg yn well nag erioed."

    Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae Nic Parry yn adnabyddus fel sylwebydd pêl-droed ac mae'n wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr Sgorio ar S4C ond yn y byd cyfreithiol yr oedd ei waith bob dydd.

    Darllenwch fwy yma.

  17. 'Mae'n lyfli' teithio o Dubai i Gymru bob blwyddyn ar gyfer yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 15:15 GMT+1 7 Awst

    Disgrifiad,

    Sgwrs gydag Elinor Davies-Kamathi, Dubai tra'n ymweld ag Eisteddfod Wrecsam

    Ers sawl blwyddyn, mae Elinor Davies-Kamathi yn teithio yn ôl i Gymru o Dubai yn flynyddol ar gyfer y Steddfod.

    Yn wreiddiol o ardal Aberystwyth, mae hi wedi byw yn Dubai ers pedair blynedd a hanner.

    Wrth siarad ar raglen Dros Ginio, dywedodd bod yn "rhaid" dod yn ôl i'r Eisteddfod yn Nhregaron yn 2022 am ei bod hi o Geredigion.

    "O'n i'n meddwl mai one-off bydde hi ond mwynheais i shwt gymaint, nes i feddwl bydde fe'n beth da i ddod nôl i bob blwyddyn, felly ers 'ny fi 'di bod nôl bob blwyddyn.

    "Ma' merch bach gyda fi nawr so mae'n rhoi cyfle iddi hi ddod nôl a siarad yr iaith a siarad gyda pobl eraill a gwneud ffrindiau Cymraeg... mae'n lyfli."

    Mae'n dweud bod ei bod yn cyfarfod Cymry yn Dubai yn fisol er mwyn siarad Cymraeg gyda'i gilydd a'u plant.

    "Fi wastad eisiau dod nôl i Gymru achos ma' lot o hiraeth gyda fi especially wrth dod nôl i'r Steddfod a gweld pawb a siarad Cymraeg.

    "Mae fy nghwmni i wedi sefydlu yng Nghymru a dal yng Nghymru a mae fy ngŵr yn dysgu Cymraeg, felly gawn ni weld!"

  18. Cyw a'i ffrindiauwedi ei gyhoeddi 15:05 GMT+1 7 Awst

    Daeth torf fawr i Lwyfan y Maes eto brynhawn heddiw i fwynhau Cyw a'i ffrindiau.

    Bydd y criw yn perfformio am y tro olaf yr wythnos yma ar Lwyfan y Maes yfory am 14:30.

    Gwylio Cyw ar Faes yr Eisteddfod
    Gwylio Cyw ar Faes yr Eisteddfod

    Ond roedd ambell un angen saib wedi holl gyffro'r bore...

    Leila a Nico yn gorffwys ar ôl bod yn casglu sticeri
    Disgrifiad o’r llun,

    Leila a Nico yn gorffwys ar ôl bod yn casglu sticeri

  19. Y Gwasanaeth Tân yn addysgu am beryglon ac yn hybu'r Gymraegwedi ei gyhoeddi 14:55 GMT+1 7 Awst

    Ar BBC Radio Cymru cafodd Kris Hughes air gyda Bethan Millington a Louise McCabe-Allen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

    Maen nhw ar y Maes yn cynrychioli'r tri gwasanaeth tân yng Nghymru, gan obeithio annog defnydd o'r Gymraeg ac hefyd addysgu plant am ddiogelwch.

    Meddai Bethan eu bod yn "addysgu pobl am ddiogelwch efo dŵr, diogelwch ar y ffyrdd, ac hefyd i recriwtio, a gadael pobl wybod pa mor dda ydy hi i weithio i'r gwasanaeth tân, diffoddwyr tân ar alwad, a gweithwyr cefnogol - yn enwedig pobl sy'n siarad Cymraeg."

    chris

    Shân Cothi, Kris Hughes ac Aled Hughes sy'n cyflwyno o'r Eisteddfod ar BBC Radio Cymru brynhawn heddiw.

    Gallwch wrando'n fyw ar frig y dudalen yma.

    Shân Cothi, Kris Hughes ac Aled Hughes