Crynodeb

  1. 'Calonogol' bod 20 o geisiadau ar gyfer Medal y Dramodyddwedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Yng nghynhadledd y wasg y bore fe ddywedodd Cyfarwyddwr Artistig cwmni theatr Frân Wen ei bod hi “mor galonogol” bod 20 o geisiadau gyfer cystadleuaeth Medal y Dramodydd eleni.

    Gethin Evans ydi un o'r beirniaid eleni a dywedodd bod y broses o feirniadu'r darnau wedi bod "yn hir a thrylwyr".

    Medal y Dramodydd fydd prif seremoni'r dydd ac mae wedi denu mwy o sylw nag arfer wedi i'r fedal gael ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd.

    Yn ogystal â'r fedal, bydd yr enillydd yn cael £3000, sy'n “sylweddol yn uwch na mae wedi bod”, meddai Gethin Evans.

    Yn dilyn y gystadleuaeth dywedodd y bydd ‘na “broses o werthuso cyn hwyluso y flwyddyn nesaf”.

    Gethin Evans (chwith) ydi Cyfarwyddwr Artistig cwmni theatr Frân WenFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
    Disgrifiad o’r llun,

    Gethin Evans (chwith) ydi Cyfarwyddwr Artistig cwmni theatr Frân Wen

  2. 'Cryn dipyn o waith' cyn Eisteddfod y Garreg Laswedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Bydd Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las y flwyddyn nesaf yn "unigryw" yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

    Dywedodd John Davies fod "cryn dipyn o waith gyda ni i gynnal y llwyddiant celfyddydol, diwylliannol a chymdeithasol tebyg i Wrecsam".

    Ychwanegodd y bydd y brifwyl yn Sir Benfro yn “wahanol” gan y bydd hi mewn lleoliad sy’n “groesffordd o dair sir".

    Awgrymodd hefyd bod angen “edrych yn wahanol ar sut mae’r nawdd yn cael ei greu a’i gyneafu” yn yr ardaloedd sy'n croesawu'r brifwyl.

    “Mewn hinsawdd lle mae’r arian yn anodd i ddod o hyd i, i bob teulu, mae’r esgid yn gwasgu."

    John Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    John Davies

  3. Eisteddfod Maes Dwedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Draw ym mhabell Maes D bore heddiw, mae cystadlaethau sy'n rhoi blas ar gystadlu i siaradwyr Cymraeg newydd.

    Parti Llefaru Coleg Cambria yn paratoi i gystadlu ym Maes D
    Disgrifiad o’r llun,

    Parti Llefaru Coleg Cambria yn paratoi i gystadlu ym Maes D

    Y beirniaid Meilir Rhys Williams a Lisa Angharad yn mwynhau'r arlwy
    Disgrifiad o’r llun,

    Y beirniaid Meilir Rhys Williams a Lisa Angharad yn mwynhau'r arlwy

  4. 'Pawb yn hapus ac yn llawen' ym Maes Bwedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Roedd noson gyntaf Maes B yn "llewyrchus", yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

    Bwncath, Buddug a Tew Tew Tennau fu'n perfformio.

    Wrth siarad yng nghynhadledd y wasg ddydd Iau, dywedodd Betsan Moses fod "pawb yn hapus ac yn llawen a does dim byd i’w adrodd".

    Wrth drafod prif seremoni'r dydd, dywedodd: “Mae’n galonogol tu hwnt bod y mwya' erioed wedi ymgeisio ar gyfer y fedal ddrama".

    Roedd 20 cais eleni wedi i'r fedal gael ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd.

    Betsan Moses yn siarad yng nghynhadledd y wasg
  5. Uchafbwyntiau dydd Mercherwedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Tŷ GwerinFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

    Tra'n edrych ymlaen at heddiw, fe allwch fwynhau rhai o uchafbwyntiau dydd Mercher o'r Eisteddfod.

    Ar ein tudalen ganlyniadau mae uchafbwyntiau fideo o gystadlu y Pafiliwn.

    A dyma oriel luniau y dydd o'r Maes.

  6. Cwestiwn cyflym...wedi ei gyhoeddi 10:07 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Ganed yr awdur dylanwadol Eigra Lewis Roberts ar y dyddiad yma yn 1939.

    Pa wobr wnaeth hi ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, hefyd ar y dyddiad yma yn 2006?

    Fe wnawn rannu'r ateb ar y llif byw nes ymlaen, ond os na allwch aros i'w ddarganfod ewch draw i Gwis Dyddiol Cymru Fyw.

  7. Teithio o Philadelphia i gystadlu yn y Steddfodwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Mae rhai wedi teithio o bedwar byn byd i'r Maes, gan gynnwys y tair yma o Philadelphia yn America.

    Bydd Jaqueline, sydd ar y chwith yn y llun, yn cystadlu yn yr Unawd Gymraeg: Hen Ganiadau.

    Enillodd ysgoloriaeth yn Eisteddfod Gogledd America ac er nad yw'n siarad Cymraeg, mae Jacqueline wedi dysgu'r darn ‘Nant y Mynydd’.

    Tair dynes sydd wedi teithio o Philadelphia yn America i faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Jacqueline (chwith) wedi teithio o Philadelphia i gystadlu yn y Steddfod

  8. Llywydd y Llys 'ddim wedi cuddio' rhag heriauwedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Wrth i gyfnod Llywydd Llys yr Eisteddfod ddod i ben wythnos yma, mae Ashok Ahir yn cyfaddef iddo gael cyfnodau stormus yn y swydd.

    Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd bod Covid a heriau ariannol wedi bod yn anodd ond nad yw'n "cuddio rhag hynny".

    Dywedodd bod yr Eisteddfod wedi addasu a bod ganddyn nhw arian wrth gefn er mwyn helpu unrhyw brifwyl sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd eu targedau.

    "Ni wedi cyrraedd y sefyllfa bod arian wrth gefn gan y Steddfod am y tro cyntaf," meddai.

    "Os ti ishe mynd rownd Cymru a chyrraedd y bobl, mae'n rhaid derbyn weithiau bydd y gronfa leol ddim yn cyrraedd y targed."

    Ashok AhirFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gafodd Ashok Ahir ei ethol yn Llywydd y Llys yn 2019

  9. Chyffin grêt Ffranc...wedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Yn hwyr brynhawn Mercher cafodd y Stomp Werin ei chynnal yn y Tŷ Gwerin.

    Yn yr ornest bu cerdd dantwyr, cantorion gwerin, clocswyr ac ambell fardd yn brwydro'n erbyn ei gilydd i geisio ennill pleidlais y gynulleidfa.

    Roedd yr enillwyr yn edrych yn gyfarwydd!

    Anest Bryn o Benisarwaun a Mared Llywelyn o Forfa Nefyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Ddau Ffranc, sef Anest Bryn o Benisarwaun a Mared Llywelyn o Forfa Nefyn ar ôl ennill Y Stomp Werin

  10. Medal y Dramodydd fydd prif seremoni'r dyddwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn heddiw fydd Medal y Dramodydd.

    Mae wedi denu mwy o sylw nag arfer wedi i'r fedal gael ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd.

    Roedd y dasg yn wahanol eleni ac roedd hynny wedi cael ei benderfynu cyn yr hyn a ddigwyddodd yn 2024.

    Roedd 20 cais, sy'n fwy na'r arfer, ac yn dystiolaeth bod newid i'r fformat yn gweithio, yn ôl yr Eisteddfod.

    Y beirniaid eleni ydi Betsan Llwyd, Daniel Lloyd, Ffion Wyn Bowen, Gethin Evans, Lowri Morgan a Steffan Donnelly.

    Mwy yma.

    Y fedal ddrama
  11. Albwm Cymraeg y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Tra bod bandiau newydd yn creu argraff ar Lwyfan y Maes, roedd cyffro hefyd yn y Pafiliwn ddiwedd brynhawn Mercher wrth i Ynys gipio gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

    Ynys ar lwyfan y PafiliwnFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

    Dosbarth Nos ydy ail albwm Ynys - band Dylan Hughes o Race Horses a Radio Luxembourg gynt.

    Yn derbyn y wobr ar lwyfan y Pafiliwn, dywedodd Dylan Hughes ei bod yn "fraint".

    "Diolch i bawb sy' 'di gwrando, wedi dod i weld ni'n fyw neu brynu'r record," meddai.

    "Diolch i bawb sy' 'di chwarae ar y record, a Recordiau Libertino - byddai'r albwm ddim wedi bod yn bosib hebddyn nhw."

    Y beirniaid oedd Martha Owen, Nico Dafydd, Elain Roberts, Gruffydd Davies, Branwen Williams a Heulyn Rees.

    Mwy yma.

  12. Y Ddelwedd yn creu argraff fawrwedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Llongyfarchiadau mawr i Y Ddelwedd, enillwyr Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod eleni.

    Ar ôl dod i'r brig nos ar Lwyfan y Maes yn hwyr brynhawn Mercher mae'r band o ardal Meirionnydd yn derbyn £1000, cyfle i berfformio ar lwyfan Maes B a sesiwn i BBC Radio Cymru.

    Y beirniaid eleni oedd James Minas, Keziah O’Hare ac Ifan Pritchard.

    Y Ddelwedd, enillwyr Brwydr y Bandiau 2025Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  13. Bore da a chroeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst

    Croeso i'n llif byw ar ddydd Iau yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Mae digon i ddod eto heddiw, gan gynnwys y prif seremoni sef Medal y Dramodydd.

    Dilynwch y cyfan gyda ni.

    Bygi ar Faes yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol