Crynodeb

  1. Dathlu 20 mlynedd o gwmni cyhoeddi Hughes a’i Fabwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1

    Aelodau o Octave Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhai o aelodau corws siambr Gymreig Octave Cymru yn ymarfer cyn y dathliad

    Eleni, mae cwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu.

    Y cwmni oedd cyhoeddwyr cerddoriaeth mwyaf cynhyrchiol Cymru yn yr 19eg ar 20fed ganrif.

    I ddathlu'r bennod bwysig yn hanes y cwmni, roedd digwyddiad ym mhabell Encore ar y Maes, oedd yn cynnwys perfformiad gan gorws siambr Gymreig Octave Cymru.

    Rhidian Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu Rhidian Griffiths yn rhannu hanes cwmni Hughes a'i Fab ym mhabell Encore

  2. 'Ro’n i yn fy mhyjamas' yn gwylio Bwncath ym Maes Bwedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich+1

    Claudia, Nel, Non a Magi o Ben Llŷn
    Disgrifiad o’r llun,

    Claudia, Nel, Non a Magi o Ben Llŷn

    Aeth Claudia, Nel, Non a Magi o Ben Llŷn i Faes B am y tro cyntaf neithiwr.

    “Roedd yr awyrgylch yn dda a byrlymus” meddai Nel.

    “Fe wnaeth Bwncath gadw’r egni fyny, er bod hi mor hwyr,” dywedodd Non.

    Ychwanegodd Claudia, sy’n wreiddiol o Lundain: “Ro’n i literally yn fy mhyjamas yn eu gwylio nhw!”

  3. Llongyfarchiadau i Cadi a Lleucu!wedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1

    Deuawd cerdd dant 16 oed a throsodd

    Llongyfarchiadau i Cadi a Lleucu, enillwyr y gystadleuaeth deuawd cerdd dant 16 oed a throsodd.

    Cliciwch yma i wylio mwy o uchafbwyntiau o gystadlaethau'r dydd hyd yma yn y Pafiliwn.

    Byddwn yn diweddaru'r dudalen wrth i fwy o ganlyniadau gael eu cyhoeddi o'r llwyfan.

  4. Mwynhau yn yr haulwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae'n heulog unwaith eto ar y Maes a'n gyfle i'r criw yma o ffrindiau o Gaernarfon, Rhiwlas, Trawsfynydd a Llandudno gyfarfod am sgwrs a thorri syched.

    Ymlacio ar faes yr Eisteddfod
  5. Anrhydeddu Dewi Bryn Jones yn y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1

    Mark Lewis Jones, Llywydd yr Ŵyl yn cyfarch Dewi Bryn Jones ar lwyfan y Pafiliwn
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Lewis Jones, Llywydd yr Ŵyl yn cyfarch Dewi Bryn Jones ar lwyfan y Pafiliwn

    Mewn seremoni yn y Pafiliwn, mae Dewi Bryn Jones wedi derbyn y Fedal Wyddoniaeth.

    Yn ystod y cyflwyniad, fe soniwyd am rai o'r adnoddau digidol y mae Dewi wedi helpu i'w datblygu fel meddalwedd Cysill a hefyd Macsen, sef y dechnoleg adnabod lleferydd Cymraeg.

    Meddai Elin Rhys wrth gyflwyno'r seremoni: "Diolch i arloesodd Dewi, fydd y Gymraeg ddim yn cael ei gadael ar ôl."

    Wrth dderbyn y fedal fe wnaeth Dewi ddiolch i'w gydweithwyr yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor a'i deulu:

    "Byddai'r llwyddiannau yr ydych wedi bod yn clywed amdanynt heb fod yn bosib heb fy nghydweithwyr.

    "Diolch hefyd i'm rhieni am yr anrheg o Commodore 64 pan oeddwn i'n 12 oed, wnaeth fy rhoi ar ben y ffordd i ble rydw i heddiw."

    Diolchodd hefyd i'w deulu wrth dderbyn yr anrhydedd, gan egluro nad oedden nhw'n gallu bod yn bresennol gan eu bod yn byw yn y Ffindir a fod heddiw yn ddiwrnod cyntaf y plant yn ôl yn yr ysgol wedi gwyliau'r haf.

    "Dwi'n hynod o falch o gael englyn hefyd... a dim ond yn gobeithio nad yw hi wedi ei ysgrifennu gan Chat GPT!"

    Yn ffodus Llion Jones oedd y bardd, ac un sydd hefyd yn un o gydweithwyr Dewi ym Mhrifysgol Bangor.

    Meddai yn ei ragymadrodd i'r englyn: "Mae'r Gymraeg angen ei chanu ac mae ei angen ei chynganeddu, ond mae hi wir angen ei chodio hefyd."

    Gwrandewch ar gyfweliad Dewi ar raglen Dros Ginio isod.

    Disgrifiad,

    Dewi Bryn Jones yn siarad ar raglen Dros Ginio ar ôl ennill y Fedal Wyddoniaeth

    Yn ôl i’r cynnwys diweddaraf
  6. Cân i Gymru yn dychwelyd i Ynys Môn yn 2026wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1

    Elin Fflur ac Trystan Ellis Morris ar y Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Elin Fflur ac Trystan Ellis Morris ar y Maes

    Mewn digwyddiad ym mhabell S4C ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol fe wnaeth cyflwynwyr Cân i Gymru gyhoeddi bydd y gystadleuaeth yn dychwelyd i Ynys Môn yn 2026.

    Nid yw'r gystadleuaeth wedi bod yn Ynys Môn ers 2015, ac fel un o'r Ynys, mae Elin yn edrych ymlaen yn arw.

    Dywedodd: "Bydd y gystadleuaeth yn digwydd ar 28 Chwefror yn Ynys Môn, tir cyfarwydd iawn i fi wrth gwrs."

    "Beth sy'n braf yw cael dod â'r gystadleuaeth yn ôl i'r ynys a hynny am y tro cyntaf ers degawd, felly fydda i'n rowlio mewn!"

    Darllenwch yr erthygl yn llawn yma.

  7. 'Mae cerddoriaeth yn fond rhwng diwylliannau'wedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1

    Wrth ddathlu degawd o Ddydd Miwsig Cymru, mae sgwrs banel ar y Maes wedi bod yn trafod rôl cerddoriaeth wrth adfywio ieithoedd lleiafrifol.

    Ym mhabell Llywodraeth Cymru, dywedodd Efan o'r band Dadleoli: “Dwi 'rioed 'di meddwl sgwennu yn Saesneg achos bod 'na ddigon o gyfleoedd yma yng Nghymru ac mae’r Gymraeg yn cynnig gymaint ac wedi agor amryw o ddrysau.

    “Mae cerddoriaeth yn fond rhwng diwylliannau, s'dim angen deall yr iaith a dwi’n gweld hynna yn aml wrth fynd ar wyliau tu allan i Gymru.”

    Ar ôl y sesiwn fe gafodd Cymru Fyw sgwrs gyflym â'r cyflwynydd Mirain Iwerydd, fu'n canmol arlwy Llwyfan y Maes neithiwr:

    "Roedd gweld y bandiau oedd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau, a'n perfformio ar y llwyfan am y tro cyntaf wir yn uchafbwynt i mi."

    O’r chwith - Neal Thompson o Focus Wales, Efan o’r band Dadleoli, Martha Elen a Mirain Iwerydd
    Disgrifiad o’r llun,

    O’r chwith - Neal Thompson o Focus Wales, Efan o’r band Dadleoli, Martha Elen a Mirain Iwerydd

  8. Y Tŷ Gwerin yn boblogaidd eto heddiwwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae aros eiddgar du allan y Tŷ Gwerin ar hyn o bryd i glywed sgwrs, cân a hel atgofion yng nghwmni Mair Carrington Roberts.

    Tŷ Gwerin

    Ac un o'r bobl yn aros oedd Rhian Carrington Roberts, merch Mair.

    Mae hi wedi teithio o Seland Newydd i fod yma heddiw.

    "Dwi ddim yn meddwl fod neb wedi teithio ymhellach na fi i fod yn yr Eisteddfod!

    "Mae'n anrhydedd bod yma yng nghwmni pobl Wrecsam i wrando ar Mam a'i straeon o'r cyfnod cynnar. Dwi'n edrych ymlaen at glywed y straeon gan Mam yn uniongyrchol".

    Rhian Carrington Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhian Carrington Roberts

    A drws nesaf i'r Tŷ Gwerin roedd ensemble offerynnol yn perfformio ar stondin Offerynnau Traddodiadol Cymru.

    Offerynnau Tarddodiadol Cymru
  9. Eisteddfod i'w chofio i Liliwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1

    Ar BBC Radio Cymru cafodd Aled Hughes sgwrs â'r chwarewr pêl-droed Lili Jones o Glwb Pêl-droed Wrecsam, fydd yn cael ei hurddo i Orsedd Cymru.

    Mae Lili wedi cael wythnos brysur gan gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ar y Maes, ac wedi denu tipyn o sylw ymysg Eisteddfotwyr sydd wedi cael eu ysbrydoli gan glwb Wrecsam.

    "Hogan o Wrecsam ydw i, a dwi'n teimlo mod i yn y lle iawn ar yr amser iawn. Fedra i ddim credu fod y pethau dwi'n eu gwneud - oherwydd mod i'n caru eu gwneud nhw - yn ysbrydoli pobl eraill.

    "Dwi'n lwcus mod i'n chwarae i glwb sydd wedi cael ei gymryd drosodd gan ddau foi o Hollywood!

    "A dwi'n astudio'r Gymraeg am fy mod i'n mwynhau gwneud ac mae'r Gymraeg yn bwysig i mi. Mae'r ffaith fy mod yn cael fy adnabod am hynny yn eithaf mad, ond mae'n golygu lot i mi."

    Gan edrych ymlaen at gael ei hurddo yfory, meddai:

    "Lili Ferch Gareth fydd fy enw barddol, er cof am Dad. Bydd yn neis mynd â Dad efo fi drwy'r daith nesaf yma a chadw ei enw yn fyw.

    "Mae cael cario ei enw efo fi yn beth arbennig iawn a'n rhywbeth y gwna'i ddal yn agos at fy nghalon."

    Gallwch wrando ar Radio Cymru ar frig y dudalen hon.

    Aled a Lili ar y Maes
  10. Y Gymraeg 'wedi helpu' yn ystod gyrfa ym maes olewwedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1

    Wrth draddodi Darlith Hywel Teifi yn y Babell Lên eleni, dywedodd Dr Carol Bell bod y Gymraeg wedi ei "helpu yn hytrach na'i rhwystro" yn ystod ei gyrfa lwyddiannus ym maes olew.

    Fel aelod o fwrdd Cymdeithas Bêl-droed, dywedodd ei bod hi'n canolbwyntio ar weledigaeth Ian Gwyn Huws yn hybu’r Gymraeg a Chymreictod o fewn y tîm.

    Mae addysgu’r tîm am ystyr geiriau’r anthem, a mynd i lefydd fel Aberfan a gweld bedd Hedd Wyn yn rhan o hynny yn ogystal â chyhoeddi tîm y merched yn ddiweddar ar gopa’r Wyddfa, meddai.

    Ychwanegodd hefyd bod llwyddiant timau'r dynion a'r merched yn hybu Cymru ar draws y byd.

    Carol Bell
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Carol Bell yn arbenigo ym maes ynni, byd arian a busnes

  11. Y glaw wedi cyrraedd!wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1

    Criw o ffrindiau yn mochel rhag y glaw
    Pobl yn dal mewn ymbarèl
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae ymwelwyr yn falch eu bod nhw wedi paratoi ar gyfer unrhyw dywydd

  12. 30 mlynedd ers cyfeilio yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae'r telynor Dylan Cernyw yn dweud ei fod wedi "mwynhau pob munud" o gyfeilio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 oedd y tro cyntaf i Dylan Cernyw gyfeilio yn y brifwyl, sy'n golygu ei fod wedi bod wrthi ers 30 mlynedd.

    Wrth hel atgofion ar Dros Frecwast, dywedodd Dylan Cernyw: "Mae'n anodd credu. Dwi'n cofio'r Steddfod gyntaf yn '95... mae amser wedi fflio."

    Ychwanegodd bod "isio magu mwy o gyfeilyddion... mae'r Urdd a'r Gymdeithas Cerdd Dant yn dda am annog".

    Dylan Cernyw
  13. Amser paned a thamaid i'w fwytawedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1

    Plentyn bach yn mwynhau brechdan ham
    Plant yn cael cinio
    Ciw ger y Lle Coffi
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Lle Coffi wedi bod yn boblogaidd yn ystod yr wythnos

    Dwy ddynes yn bwyta cinio
  14. Yw deallusrwydd artiffisial yn cynnig cyfleoedd i'r Gymraeg?wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1

    Wrth i ni roi sylw i'r Fedal Wyddoniaeth, mae deallusrwydd artiffisial yn un o bynciau trafod mawr y Maes eleni.

    Heddiw fe fydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi polisi ar y defnydd ohono gan sefydliadau sy'n dod o dan Safonau'r Gymraeg.

    Yn ôl swyddfa'r comisiynydd, fe allai'r dechnoleg alluogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon, ac o bosib sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn berthnasol ac yn fyw mewn byd digidol.

    Dywed Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio: "Mae'n bwysig bod unrhyw ddatblygiadau technolegol yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd sy'n parhau i adlewyrchu arferion defnyddwyr, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnal a'i hyrwyddo yn y byd digidol."

    Mwy yma.

  15. Dewi Bryn Jones yn derbyn Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1

    Dewi Bryn Jones yw enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.

    Mae Dewi yn derbyn y fedal am ei waith i ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol Cymraeg.

    Ym mis Gorffennaf, dywedodd yr Athro Delyth Prys, cyn bennaeth Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor fod y wobr yn "gwbl haeddiannol".

    "Fuaswn yn mynd mor bell â dweud oni bai am gyfraniad Dewi, ni fyddai gennym feddalwedd Gymraeg heddiw," meddai.

    Dewo Bryn Jones yn debryn y Fedal Wyddoniaeth ar Faes yr Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Dewi Bryn Jones

  16. Tywydd 'sbectol haul ac ymbarèl'wedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich+1

    Ann a Michael
    Disgrifiad o’r llun,

    Ann a Michael o Langollen wedi paratoi am dywydd “sbectol haul ac ymbarèl” ac yn mwynhau bod ar y maes

    Mae wedi bod yn sych ar y cyfan hyd yma ond mae 'na gymylau duon yn yr awyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae wedi bod yn sych ar y cyfan hyd yma ond mae 'na gymylau duon yn yr awyr

  17. Ymwelwyr yn manteisio ar y tywydd sychwedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1

    Aled a Lucy
    Disgrifiad o’r llun,

    Aled a Lucy yn cymryd hoe o'u gwaith i fwynhau diod oer

    Helena, Caoimhe, Sion a Tegwen
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Helena, Caoimhe, Sion a Tegwen (o'r chwith i'r dde) yn falch nad oes mwd ar y maes!

    Sam a Steffan
    Disgrifiad o’r llun,

    Sam a Steffan yn chwarae tennis ar y maes

  18. Yr ateb i'r cwestiwnwedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1

    Yn gynharach fe ofynnon ni'r cwestiwn yma o Gwis Dyddiol Cymru Fyw:

    Ganed Eigra Lewis Roberts, un o awduron mwyaf dylanwadol y Gymraeg, ar y dyddiad yma yn 1939.

    Pa wobr wnaeth hi ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ar y dyddiad yma yn 2006?

    Dyma'r ateb:

    Yn 2006, ar ddiwrnod ei phen-blwydd, enillodd Eigra Lewis Roberts y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am ddilyniant o gerddi am fywyd y bardd Sylvia Plath.

  19. Ymweliad cyntaf â'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Maria a Robbie o Buxton yn ymweld â'r Eisteddfod am y tro cyntaf heddiw.

    Er nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg, gobaith y ddau oedd profi a dathlu diwylliant Cymru.

    Maria a Robbie o Buxton yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf
  20. 40 mlynedd o Celtwedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1

    Ar ôl perfformio ar Lwyfan y Maes nos Lun mae Celt, y band poblogaidd o Fethesda yn nodi 40 mlynedd o gigio yr wythnos hon.

    Fe gafodd Cymru Fyw sgwrs â nhw am y garreg filltir.

    Mwy yma.

    Celt yn perfformio