Crynodeb

  • Holl seddi Cymru wedi'u cyhoeddi

  • Canlyniad: Senedd grog yn San Steffan

  • Llafur yn cipio Gŵyr, Gogledd Caerdydd a Dyffryn Clwyd oddi ar y Ceidwadwyr

  • Plaid Cymru'n cipio Ceredigion gan y Democratiaid Rhyddfrydol

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:00

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan gan griw y llif byw etholiadol wedi canlyniadau anniswyl yr etholiad cyffredinol.

    Fe fydd y llif arferol yn dychwelyd am 08:00 fore Llun.

    Yn y cyfamser cewch y newyddion diweddara' o Gymru ac am lywodraeth leiafrifol Theresa May ar yr hafan.

    Cofiwch hefyd am ein llif byw arbennig ar gyfer gêm Serbia v Cymru nos Sul.

    Noswaith dda!

  2. Edrych ymlaen at nos Sul!wedi ei gyhoeddi 17:53 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Sgorio, S4C

    Fe fydd gêm ddiweddara' Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn Serbia nos Sul. Bydd y gêm yn fyw ar S4C, ac fe fydd llif byw arbennig yma ar BBC Cymru Fyw yn dilyn y cyfan.

    Anfonwch eich sylwadau am y gêm at cymrufyw@bbc.co.uk neu @BBCCymruFyw ar Twitter.

    Bydd Marc Lloyd Williams yn rhoi ei farn am y gêm yma hefyd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Plaid Cymru: Canlyniad 'ddim yn rhy ddrwg'wedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    ITV Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. May yn penodi aelodau cabinetwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Mae Theresa May wedi cadarnhau rhai o'r swyddi yn ei chabinet newydd. Philip Hammond yw'r Canghellor, Amber Rudd yw'r Ysgrifennydd Cartref, Boris Johnson fydd yr Ysgrifennydd Tramor, David Davis fydd Ysgrifennydd Brexit a Sir Michael Fallon yw'r Ysgrifennydd Amddiffyn.

  5. Gwynt a glaw ar eu fforddwedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Tywydd, BBC Cymru

    "Ar ôl diwrnod sych efo cyfnodau heulog i’r rhan fwyaf, mi fydd hi’n cymylu o’r de orllewin ddiwedd y p'nawn cyn i law ledu ar draws y wlad dros nos," meddai Robin Owain Jones.

    "Mi wneith hi godi’n wyntog ar hyd arfordir y gorllewin yn enwedig, lle fydd y gwynt yn hyrddio hyd at 40 milltir yr awr. Y tymheredd rhwng 12 a 15C ar ei isaf heno."

    Ewch i'r wefan dywydd am ragolygon pellach.

  6. Angen i feddygfeydd ofyn am gymorthwedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    BBC Cymru Fyw

    Yn ôl Cadeirydd y BMA yng Nghymru mae nifer y meddygfeydd sydd mewn perygl yn newid yn gyson ac mae yna bwysau aruthrol ar draws Cymru.

    Yn ôl Dr Charlotte James y cynharaf mae meddygfa yn gofyn am gymorth y gorau er mwyn iddynt gael cefnogaeth y byrddau iechyd,

    meddygfa
  7. Monk i Middlesbroughwedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    BBC Cymru Fyw

    Cyn reolwr Abertawe Garry Monk yw rheolwr newydd Middlesbrough. Mae'n olynu Aitor Karanka adawodd wedi i'r clwb ddisgyn o'r Uwch Gynghrair ddiwedd y tymor.

    MonkFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Arestio bachgen 15 oed wedi digwyddiad yn Y Rhylwedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio yn Llandudno wedi i staff a disgyblion yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl orfod aros yn yr adeilad am gyfnodwrth i'r heddlu ymdrin â digwyddiad.

    Yn ôl yr heddlu, roedden nhw'n ymateb i fygythiad tuag at ddisgybl yno.

    Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Uwchradd y Rhyl y prynhawn yma, penderfynwyd cau'r ysgol tra bo'r heddlu yn gwneud ymholiadau i fygythiad a wnaed tuag at ddisgybl gan berson ifanc arall nad ydynt yn gysylltiedig â'r ysgol.

    "Aseswyd y sefyllfa gan yr Heddlu ac ail-agorwyd yr ysgol yn fuan wedyn.

    "Mae'r digwyddiad bellach drosodd ac nid oedd unrhyw ddisgyblion neu staff mewn perygl."

  9. Apêl wedi llofruddiaeth yn Sir y Fflintwedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Matthew Cassidy 19 oed yng Nghei Connah ar 29 Mai wedi rhyddhau lluniau o bedwar tyst posib maen nhw'n awyddus i'w holi.

    "Rwy'n awyddus i'r bobl hyn gysylltu â ni oherwydd mae'n bosib fod ganddynt wybodaeth bwysig a all ein helpu," meddai'r ditectif uwcharolygydd Iestyn Davies

    Cafodd y pedwar eu gweld yn agos i leoliad y digwyddiad.

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio un dyn, David John Woods, 19 oed o Lerpwl ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

    Cafodd dau ddyn arall gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth eu rhyddhau. Dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu 0800 555 111.

    fflintFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
  10. Prynu canolfan siopa yng Nghasnewyddwedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Cyngor Casnewydd

    Mae canolfan Siop Friars Walk yng Nghasnewydd wedi ei werthu i gwmni Talisker o Ganada.

    Dywed Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Casnewydd, y bydd y cytundeb yn sicrhau y gallai'r cyngor nawr ad-dalu arian gafodd ei fenthyg er mwyn ariannu'r cynllun yn y lle cyntaf.

    casnewyddFfynhonnell y llun, Google
  11. Heddlu'n delio gyda digwyddiad yn Y Rhylwedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Heddlu Gogledd Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Comisiynydd Heddlu i dreulio diwrnod 'ar y stryd'wedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    The Leader

    Mae The Leader yn dweud fod Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, yn paratoi i dreulio diwrnod ar y stryd , dolen allanoler mwyn dangos ei gefnogaeth i bobl ddigartref Wrecsam.

  13. Blwyddyn ers Bordeauxwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Ydych chi'n cofio perlau Wali Tomos, y criw o Flaenau Ffestiniog oedd yn sownd heb eu fan yn Rouen a'r lluniau o'r môr coch oedd yn llenwi'r cyfryngau cymdeithasol?

    Mae BBC Cymru Fyw yn dathlu blwyddyn ers Bordeaux a dechrau antur ryfeddol Cymru yn Euro 2016.

    Cefnogwyr o ogledd Cymru
  14. Carfan Annibynnol yn rheoli ym Merthyrwedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Cyngor Merthyr Tudful

    Mae'r garfan Annibynnol wedi ennill rheolaeth o Gyngor Merthyr yn dilyn etholiad yn ward Cyfarthfa.

    Bu'n rhaid gohirio'r etholiad gwreiddiol yn y ward, sy'n cynnwys tair sedd, ym mis Mai oherwydd marwolaeth ymgeisydd.

    Nos Iau fe gafodd yr ymgeiswyr annibynnol Geraint Thomas a Paul Brown eu hethol ynghyd a David Chaplin (Llafur), gan olygu fod gan y grŵp Annibynnol 18 o seddi a Llafur 15.

    Llafur oedd yn rheoli'r cyngor cyn etholiad 5 Mai.

  15. Paratoi ar gyfer Eisteddfod 2018wedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dywed yr Eisteddfod Genedlaethol y byddant yn ceisio dysgu gwersi o weithgareddau a digwyddiadau diweddar yng Nghaerdydd wnaeth groesawu degau o filoedd o bobl i'r brifddinas.

    Bydd Eisteddfod 2018 yn cael ei chynnal yn y brifddinas a dywed Elfed Roberts, Trefnydd yr Ŵyl, eu bod yn " astudio gweithgareddau a digwyddiadau fel hyn yn ofalus er mwyn i ni gael sicrhau llwyddiant tebyg o ran ein trefniadau ni ymhen y flwyddyn."

    Wythnos diwethaf fe wnaeth Caerdydd groesawu degau o filoedd o gefnogwyr pêl-droed ar gyfer ffeinal Cwpan Cynghrair y Pencampwyr rhwng Juventus a Real Madrid.

    Ffeinal
  16. Pa Balas?wedi ei gyhoeddi 14:56 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Cyhoeddi llun o ddyn ar gollwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Heddlu Dyfed Powys

    Cred yr heddlu fod y dyn sydd wedi bod ar goll ar ôl mynd i drafferthion oddi ar Penrhyn Dewi yn Sir Benfro yn wreiddiol o dde Ffrainc.

    Bu'r heddlu a'r gwasanaethau brys yn chwilio am y dyn ar ôl adroddiadau bod rhywun wedi bod yn dringo creigiau yn yr ardal ar 6 Mai.

    Dywed Heddlu Dyfed- Powys eu bod yn credu mai'r dyn dan sylw yw Bernard Hoepffner sy'n wreiddiol o Dieuleifit yn ne Ffrainc. Mae'r heddlu wedi rhyddhau llun ohono ac yn apelio am unrhyw wybodaeth.

    LlunFfynhonnell y llun, Llun teulu
  18. Anfon bachgen 16 oed i ganolfan gadwwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae bachgen 16 oed o ardal y Rhyl wedi ei anfon i ganolfan gadw am 32 mis ar ôl iddo ymosod ar ddyn anabl yn ei 40au.

    Clwydodd y llys ei fod wedi ymosod ar y dyn oedd yn dioddef o ddystroffi cyhyrol gan wthio ei ben drwy ffenest gwydr dwbl.

    Dywedodd y barnwr pe bai'r bachgen yn oedolyn byddai wedi cael ei garcharu am o leiaf chwe blynedd.

  19. 'Sicrwydd'...tybed?wedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Mae'r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi rhoi ei farn am araith Theresa May yn Downing Street.