Crynodeb

  • Holl seddi Cymru wedi'u cyhoeddi

  • Canlyniad: Senedd grog yn San Steffan

  • Llafur yn cipio Gŵyr, Gogledd Caerdydd a Dyffryn Clwyd oddi ar y Ceidwadwyr

  • Plaid Cymru'n cipio Ceredigion gan y Democratiaid Rhyddfrydol

  1. Carwyn Jones: 'Angen Brexit synhwyrol'wedi ei gyhoeddi 07:28 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd Carwyn Jones: "Fe 'naeth Theresa May ymladd ar sail Brexit caled... yn amlwg doedd pobl ddim ishe hynny. Ni nawr angen Brexit synhwyrol.

    "Dyw e ddim falle'n golygu gadael y farchnad sengl."

  2. Stori'r noson: Ymateb y sylwebwyrwedi ei gyhoeddi 07:25 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Disgrifiad,

    Vaughan Roderick, Richard Wyn Jones ac Elin Royles yn ymateb i'r etholiad

  3. Silk yn galaru colli Cleggwedi ei gyhoeddi 07:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Twitter

    Paul Silk oedd yn cadeirio Comisiwn Silk fu'n rhan allweddol o ddatganoli yng Nghymru, ac mae o'n difaru colli Nick Clegg fel aelod seneddol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  4. 'Caledu cadernid y blaid Lafur yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 07:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Naomi Williams
    Uwch Ymgynghorydd gyda chwmni gwleidyddol Positif

    "Heb os, mae heno wedi bod yn fuddugoliaeth ysgubol i Lafur yng Nghymru, a hynny ar raddfa llawer mwy nag oedd unrhyw un yn disgwyl.

    "Lle, ar ddechrau'r ymgyrch etholiadol ym mis Ebrill roedd darogan y byddai'n noson hanesyddol i'r Ceidwadwyr yng Nghymru, mae'r gwrthwyneb bron wedi digwydd, gyda'r blaid yn colli tair sedd a chwestiynau eisoes wedi dechrau codi ynglŷn ag arweinyddiaeth y blaid yng Nghymru.

    "Mae llwyddiant Ben Lake yng Ngheredigion yn sicr yn llwyddiant i'r Blaid, ond gyda sawl sedd arall roeddent yn targedu o flaen Ceredigion wedi methu'n syfrdanol, bydd sawl un yn cwestiynu eu hymgyrch yn yr etholiad yma.

    "Ac wrth gwrs, mae llwyddiant Plaid Cymru yng Ngheredigion yn golygu nad oes Aelod Seneddol gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bellach - y canlyniad gwaethaf posib i'r blaid ar noson lle maent wedi gweld ychydig enillion dros y ffin.

    "Os un peth, mae'r etholiad wedi nid yn unig cadarnhau ond caledu cadernid y blaid Lafur yng Nghymru."

  5. Clymbleidio gofalus?wedi ei gyhoeddi 07:10 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Wrth ystyried pwy fyddai partneriaid clymbleidio posib i Theresa May, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones ar y Post Cyntaf:

    "Deg aelod gan y DUP yng Ngogledd Iwerddon, ond maen nhw'n bobl sydd angen eu trin gyda chyllell a fforc os gai ddweud o fel 'na."

  6. Beth yw goblygiadau senedd grog?wedi ei gyhoeddi 07:05 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Dadansoddiad Arwynwedi ei gyhoeddi 07:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Disgrifiad,

    Arwyn Jones a darlun Cymru

  8. Ben Lake: Pleidlais ifanc yn allweddolwedi ei gyhoeddi 06:54 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Disgrifiad,

    Cyfweliad Ben Lake

  9. Ffin denau rhwng canlyniad da a drwgwedi ei gyhoeddi 06:47 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Ben Lake: 'Braint' gallu dilyn Cynog Dafiswedi ei gyhoeddi 06:43 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Disgrifiad,

    Ben Lake

  11. Manylion cyflawn yr etholiad yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 06:39 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Pleidlais
  12. 'Synhwyraf lecsiwn arall!'wedi ei gyhoeddi 06:33 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Y Prifardd Llion Jones

    Cyfraniad olaf ein bardd blinedig ar ôl noson hir!

    Diolch am yr holl gyfraniadau barddonol!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Ceredigion: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 06:26 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 'Rhyddhad i Blaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 06:25 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Naomi Williams
    Uwch Ymgynghorydd gyda chwmni gwleidyddol Positif

    "Mae buddugoliaeth Ben Lake yng Ngheredigion yn siŵr o fod yn cynnig ychydig o ryddhad i Blaid Cymru ar noson sydd ar y cyfan wedi bod yn siomedig iddyn nhw.

    "Byddant yn dychwelyd i San Steffan gyda phedair sedd yn lle'r tair gynt, ond fe wnaeth y bleidlais ddirywio yn Rhondda er yr holl bwyslais a roddwyd ar y sedd honno ganddyn nhw yn yr ymgyrch.

    "Hyd yn oed yn fwy siomedig dwi'n siŵr yw'r canlyniad yn Ynys Môn.

    "Er y tueddiad i ddeiliad presennol y sedd gael eu hethol ym Môn, doedd proffil uchel Ieuan Wyn Jones ddim yn ddigon i dorri'r tuedd yno, na chwaith yn ddigon i sicrhau'r ail bleidlais fwyaf yno."

  15. Plaid yn CIPIO Ceredigionwedi ei gyhoeddi 06:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017
    Newydd dorri

    Plaid Cymru

    Mae Ben Lake wedi llwyddo i gipio sedd Ceredigion o ddwylo'r Democratiaid Rhyddfrydol - a hynny o drwch blewyn yn unig.

    Fo fydd aelod seneddol ieuengaf Cymru yn 24 oed. Fo hefyd yw aelod seneddol ieuengaf Plaid Cymru erioed.

    Fe fydd y fuddugoliaeth yn cynnig rhywfaint o ryddhad i gefnogwyr y blaid yn dilyn noson siomedig ar y cyfan.

  16. Gwawr dros Downing Street....wedi ei gyhoeddi 06:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Mae'n swyddogol - senedd grog yw'r canlyniadwedi ei gyhoeddi 05:58 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Mae'n fathamategol amhosib i'r Ceidwadwyr na unrhyw blaid arall gael mwyafrif - ac felly fe fydd y senedd nesaf yn senedd grog.

    Gall plaid fod mewn grym heb gael mwyafrif absoliwt drwy geisio creu cynghrair wleidyddol gyda phlaid lai er mwyn creu clymblaid.

    Neu fe all geisio dod i gytundeb gyda'r pleidiau llai er mwyn cael eu cefnogaeth yn y Senedd os byddai pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth yn codi.

    Dewis arall i'r blaid fwyaf ydi creu llywodraeth leiafrifol heb gytundeb gyda'r pleidiau llai, gyda'r bwriad o obeithio creu mwyafrif o blaid pob mesur fel y maen nhw'n cael eu trafod yn y Senedd.

    Ond os nid oes un blaid yn fodlon gwneud hyn yna fe fydd y Senedd yn cael ei diddymu ac fe fydd etholiad arall yn cael ei chynnal.

  18. Selfie ymgeiswyr Ceredigion!wedi ei gyhoeddi 05:54 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Twitter

    Beth i'w wneud pan mae gennych chi amser i'w wastraffu mewn cyfri ar ddiwedd noson hir?

    Selfie! Dyma ymgeiswyr y Blaid Werdd, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn disgwyl yn eiddgar am y canlyniad yng Ngheredigion!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Dal ar dir y bywwedi ei gyhoeddi 05:47 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Mae'r criw yn y stiwdio dal wrthi ac, fel ninnau, yn disgwyl yn eiddgar am y canlyniad o Geredigion....

    Stiwdio
  20. Angen cymorth?wedi ei gyhoeddi 05:36 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Twitter

    Mae'r newyddiadurwr Ifan Morgan Jones yn cynnig rhoi cymorth gyda'r cyfrif yn Aberaeron wrth i ni gyd aros am y canlyniad olaf i gyrraedd o Geredigion.