Crynodeb

  • Holl seddi Cymru wedi'u cyhoeddi

  • Canlyniad: Senedd grog yn San Steffan

  • Llafur yn cipio Gŵyr, Gogledd Caerdydd a Dyffryn Clwyd oddi ar y Ceidwadwyr

  • Plaid Cymru'n cipio Ceredigion gan y Democratiaid Rhyddfrydol

  1. Y map yn hanner llawnwedi ei gyhoeddi 02:29 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Dilynwch yr holl ganlyniadau'n fanwl ar ein tudalen ganlyniadau arbennig.

    Map
  2. Llafur yn CADW Ynys Monwedi ei gyhoeddi 02:28 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Albert Owen yn cael ei ailethol mewn ras agos iawn rhwng tair plaid - gyda Ieuan Wyn Jones yn dod yn drydydd i Blaid Cymru ar ol y Ceidwadwr Tomos Dafydd Davies.

  3. Ceidwadwyr yn CADW Maldwynwedi ei gyhoeddi 02:25 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017
    Newydd dorri

    Ceidwadwyr Cymreig

    Glyn Davies yn cael ei ailethol.

  4. Rhondda: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:25 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Rhondda
  5. Llafur yn CADW Penybontwedi ei gyhoeddi 02:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Madeline Moon yn dychwelyd i San Steffan.

  6. 'Y tuedd tuag at Lafur yn ddiamheuol'wedi ei gyhoeddi 02:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Naomi Williams
    Uwch Ymgynghorydd gyda chwmni gwleidyddol Positif

    "Gyda chwarter o'r seddi wedi'u cyhoeddi hyd hyn, efallai dim ond un sedd sydd wedi newid dwylo ond mae'r tuedd tuag at y blaid Lafur yn gwbl ddiamheuol.

    "Maent wedi llwyddo i ail-gipio Dyffryn Clwyd a gollwyd i'r Ceidwadwyr yn 2015 ynghyd ac nid yn unig cadw ond cynyddu'r bleidlais mewn llefydd fel De Clwyd (sedd targed y Ceidwadwyr), Dwyrain Casnewydd a sawl sedd arall, sydd yn syfrdanol."

  7. Angus Robertson yn colli ei seddwedi ei gyhoeddi 02:23 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    O'r Alban
    Gohebydd BBC Cymru yn Yr Alban, Cemlyn Davies

    Mae arweinydd grwp SNP yn y Senedd, Angus Robertson, wedi colli ei sedd yn Moray.

  8. Delyn: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:22 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Delyn
  9. Llafur yn CADW Rhonddawedi ei gyhoeddi 02:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Chris Bryant yn cael ei ailethol. Roedd hon yn sedd darged i Blaid Cymru. Llwyddodd Chris Bryant i gynyddu ei fwyafrif yn sylweddol.

  10. Ogwr: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Ogwr
  11. Trychinebus - a rhyfeddolwedi ei gyhoeddi 02:17 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    "Os ydi’r arolwg yma yn agos ati mae’n rhaid dweud ei bod hi’n noson drychinebus i Theresa May ac yn noson rhyfeddol i Jeremy Corbyn"

  12. Bro Morgannwg: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Bro Morgannwg
  13. Effaith y bleidlais ifanc ar yr etholiadwedi ei gyhoeddi 02:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Pa effaith mae pleidleiswyr ifanc wedi ei agel ar yr etholiad yma? Criw Hacio fu'n trafod yn y stafell newyddion yn gynharach.

    Disgrifiad,

    Criw Hacio sy'n trafod dylanwad y bobl ifanc a'r cyfryngau cymdeithasol

  14. Caerffili: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:15 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Caerffili
  15. Gorllewin Casnewydd: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:12 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Gorllewin Casnewydd
  16. Llafur yn CADW Caerffiliwedi ei gyhoeddi 02:11 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Wayne David yn cadw ei sedd.

  17. Llafur yn CADW Delynwedi ei gyhoeddi 02:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Roedd y Ceidwadwyr wedi gobeithio cipio'r sedd gan Lafur ond nid felly y bu.

    David Hanson yn dychwelyd i San Steffan.

  18. Blaenau Gwent: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Blaenau Gwent
  19. Llafur yn CADW Gorllewin Casnewyddwedi ei gyhoeddi 02:07 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Paul Flynn yn dal ei afael ar etholaeth y mae wedi bod yn AS arni ers 1987.

  20. Arfon: Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 02:06 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mehefin 2017

    Etholiad Cyffredinol 2017

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter