Croeso i ymddiswyddiad Gething yn etholaeth Hannah Blythyn

Mae rhai o drigolion etholaeth yr Aelod o'r Senedd gafodd ei diswyddo o lywodraeth Vaughan Gething yn croesawu ymddiswyddiad y prif weinidog.

Fe wnaeth Vaughan Gething gyhoeddi y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru ac fel Prif Weinidog Cymru fore Mawrth.

Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddechrau Mehefin, ac fe ymddiswyddodd pedwar aelod blaenllaw o'i gabinet fore Mawrth.

Mae ei benderfyniad i ddiswyddo AS Delyn, Hannah Blythyn, o'i gabinet dros neges a gafodd ei ryddhau i'r cyfryngau, hefyd wedi denu beirniadaeth.

Yn yr Wyddgrug ddydd Mawrth, fe ddywedodd rhai o etholwyr Ms Blythyn eu bod yn falch bod Gething yn camu lawr.

"Ma hi'n frwdfrydig, mae'n weithgar, mae'n ddidwyll," medd un dyn lleol am Hannah Blythyn.

"Mae'r holl gefnogaeth o'i phlaid hi. 'Di o'm yn synnu fi o gwbl bod o [Vaughan Gething] 'di gorfod mynd yn y diwedd."

"Dw i'n meddwl bod o'n beth da bod o wedi penderfynu ymddiswyddo," medd dynes leol, "diolch byth".

"Dw i'n cefnogi Hannah Blythyn... dw i'n gwybod bod hi'n ferch reit onest a dwi'm yn meddwl fysa beth mae o'n dweud sydd wedi digwydd, wedi digwydd."