Crynodeb

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw - diwrnod enfawr ym myd gwleidyddiaeth yng Nghymru.

    Mae Vaughan Gething wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru ar ôl 118 diwrnod yn unig yn y rôl.

    Daw hynny wedi i bedwar aelod o'i gabinet ymddiswyddo, gan nodi pryderon am ei arweinyddiaeth a'i fod wedi anwybyddu canlyniad pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth.

    Mae Plaid Cymru wedi galw am etholiad brys, gan ddweud fod angen "rhoi cyfle i bobl Cymru ethol llywodraeth newydd".

    Cyn iddo ymddiswyddo, cyhoeddodd Mr Gething "dystiolaeth" oedd yn "sail i'r penderfyniad" dros ddiswyddo Hannah Blythyn - un o'i benderfyniadau mwyaf dadleuol.

    Mae mwy o wybodaeth yn y stori ar ein hafan, a bydd unrhyw ddatblygiadau pellach ar Cymru Fyw.

    Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Cyfnod Vaughan Gething fel Prif Weinidog mewn lluniauwedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Dim ond 118 diwrnod y treuliodd Vaughan Gething yn swydd Prif Weinidog Cymru cyn cyhoeddi ei ymddiswyddiad.

    Mae adran Cylchgrawn Cymru Fyw wedi creu casgliad o luniau sy'n croniclo ei gyfnod byr yn y swydd.

    Mae'r erthygl honno ar gael yma.

    GethingFfynhonnell y llun, PA Media
  3. 'Allwn ni ddim cael haf o ansefydlogrwydd'wedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Dywedodd y cyn-weinidog Leighton Andrews bod 'na lawer o gwestiynau yn codi o ddatganiad Vaughan Gething.

    Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Mr Andrews y bydd yn rhaid iddo nawr ddod o hyd i bedwar gweinidog cabinet newydd, ac nad yw'n amlwg pwy fydd y rheiny.

    Ychwanegodd mai'r peth gorau i'r blaid Lafur fyddai i'r grŵp Llafur ddewis olynydd - "allwn ni ddim cael haf o ansefydlogrwydd".

    Disgrifiad,

    Leighton Andrews

  4. 'Dylai'r gweinidogion fod wedi cael asgwrn cefn ynghynt'wedi ei gyhoeddi 15:19 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Dywedodd aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Mabon ap Gwynfor ar Dros Ginio ei fod yn croesawu ymddiswyddiad Mr Gething ond ei bod hi'n "hen bryd" i hynny ddigwydd.

    "Dylai fod wedi cael ei wneud ynghynt, mi ddylai aelodau’r llywodraeth fod wedi dangos ‘chydig o asgwrn cefn ynghynt," meddai.

    “Mae’r sinig ynof i yn dweud ei fod yn gyfleus iawn bod yr aelodau hynny o’r llywodraeth wnaeth gamu lawr wedi gwneud hynny ar ôl yr etholiad cyffredinol Prydeinig ac yn wythnos ola’r tymor, pan fo' pob dim yn dod i derfyn fan hyn yn y Senedd.

    "Mae angen i ni roi’r bennod yma y tu cefn i ni. Mae eisiau i ni symud ymlaen a sicrhau bod ganddon ni lywodraeth sy’n gallu gweinyddu a llywodraethu.”

    Mabon ap Gwynfor
  5. Cyn-gynghorydd Llafur yn rhagweld etholiad buanwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Dywedodd Sion Jones - cyn-gynghorydd Llafur ar Gyngor Gwynedd - ar Dros Ginio: “Mae hwn yn gur pen mawr i ni. 'Da ni 'di bod yn lwcus i gael arweiniad Vaughan Gething.

    "Yn bersonol, wnes i ymgyrchu drosto fo fel person, a mae cael rhywun fel fo yn arwain ni, wedi bod yn rhywbeth da - cael rhywun o leiafrif ethnig fel fo.

    "Ond yn sicr, mae 'di bod yn ddiwrnod siomedig i'r blaid Lafur ac mae’n gur pen mawr i ni rŵan.

    “Yn ail, mae llywodraeth Llafur, o dan arweiniad Keir Starmer, wedi bod yn gyfle newydd i ni greu cyswllt rhwng y blaid Lafur yng Nghymru a’r blaid Lafur ym Mhrydain, ac mae’n siomedig bod ni’n gorfod mynd drwy’r broses 'ma eto i ddewis rhywun newydd a bod etholiad Senedd yn digwydd o fewn y ddwy flynedd nesaf."

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images

    Ychwanegodd: “Dwi’n rhagweld y bydd 'na broblemau mawr yn y Senedd rŵan i drio dewis prif weinidog. Yn bersonol, dwi’n meddwl y bydd 'na etholiad buan yn digwydd.

    "Be' dwi eisiau gweld ydy person yn dod 'mlaen - Jeremy Miles, Ken Skates er enghraifft - i osod Llafur Cymru at ei gilydd i sicrhau bo' ni’n gallu rhedeg yr economi, a’r gwasanaeth iechyd.

    "Mae 'na gymaint o argyfwng yng Nghymru ar hyn o bryd, 'da ni jyst eisiau sefydlogrwydd ar gyfer y dyfodol."

  6. Newid naws ym marn San Steffan am Gethingwedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru ar Dros Ginio

    Yn San Steffan, Vaughan Gething oedd dewis clir aelodau seneddol Llafur i fod yn arweinydd ddechrau’r flwyddyn.

    Roedd y ffaith ei fod yn adnabyddus yn sgil ei rôl fel y gweinidog iechyd adeg Covid yn help mawr iddyn nhw ar flwyddyn etholiad cyffredinol.

    Ond wrth i’r ymgyrchu etholiadol fynd yn ei flaen, cynyddu wnaeth y cwestiynau i aelodau Llafur, oedd ganddyn nhw hyder yn Gething?

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images

    Roedd 'na newid naws bore 'ma. Roedden nhw’n sylweddoli bellach bod yr hyn roedden nhw wedi’i obeithio am Gething ddim wedi dwyn ffrwyth.

    Mae hyn i gyd yn dod ar drothwy diwrnod enfawr i Keir Starmer 'fory - araith y Brenin yn San Steffan yn agor y Senedd yn swyddogol.

    Ond mae rhif 10 heddiw dan gwmwl y cwestiynau yma am ymddiswyddiad Vaughan Gething wedi misoedd o’i gefnogi fe.

  7. 'Cymru gyfan yn croesawu ymddiswyddiad Gething'wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Yn siarad ar raglen Dros Ginio dywedodd yr aelod Ceidwadol o'r Senedd, Samuel Kurtz fod "y pleidiau i gyd a Chymru gyfan yn croesawu" ymddiswyddiad Vaughan Gething.

    "Yn anffodus, mae 'di cymryd lot hirach na be' oedd pobl yn meddwl. Mae 'di bod dros fis ers iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd.

    "O ran y blaid Lafur, does dim unity gyda nhw ar hyn o bryd. Mae hyn yn broblem wleidyddol fawr iddyn nhw fel plaid.

    "“Sai’n gwybod be' sydd nesa' i’r blaid Lafur.

    “Be' hoffen i weld nawr ydy, yn etholiad 2026, bod y blaid Lafur yn colli’r etholiad a byddwn ni’n ennill a rhoi cyfle i ni adeiladu ar ôl y cyfnod siomedig yma.”

    Samuel Kurtz
  8. 'Hen bryd' i Vaughan Gething fyndwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Wrth ymateb i ymddiswyddiad y prif weinidog, dywedodd Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Dyma'r penderfyniad iawn ond un oedd yn hen bryd ei wneud

    “Pwy bynnag sy’n dod yn arweinydd Llafur Cymru nawr, bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn sicrhau eu bod yn cael eu dwyn i gyfrif ac yn canolbwyntio ar y materion lle mae’r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu siomi, boed hynny’n dlodi plant, amseroedd aros ambiwlansys neu’r sefyllfa yng ngwaith dur Port Talbot."

    Dodds
  9. 'Penderfyniad dewr' i ymddiswyddowedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies fod Mr Gething wedi gwneud "penderfyniad dewr" i ymddiswyddo.

    "Mae'n ddiwrnod anodd o ran y llywodraeth, ond hefyd i Vaughan Gething yn bersonol," meddai.

    Dywedodd Mr Irranca-Davies nad oedd o'n bwriadu ymddiswyddo fel y gwnaeth pedwar aelod arall o gabinet Mr Gething y bore 'ma.

    "Mae'n ddiwrnod trist dros ben i Vaughan heddiw, ond mae e wedi cymryd penderfyniad dewr iawn i gamu nôl, ac ni allai fod wedi bod yn hawdd iddo."

    Huw Irranca-Davies
  10. Ad-drefnu'r cabinet yn y dyddiau nesafwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae'r BBC wedi cael gwybod bod disgwyl i Vaughan Gething ad-drefnu'r cabinet yn y dyddiau nesaf.

    Daw hynny wedi i bedwar aelod o'i gabinet ymddiswyddo y bore 'ma.

  11. Galw am oruchwyliaeth annibynnol o’r cod gweinidogolwedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw am fecanweithiau "i sicrhau goruchwyliaeth annibynnol o’r cod gweinidogol".

    Mae Mr Gething yn dweud nad yw wedi ei argyhoeddi o'r angen ond ei fod "bob amser yn agored i welliannau".

    Adam PriceFfynhonnell y llun, Senedd
  12. 'Gething wedi dewis ymadael yn y ffordd yma'wedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC ar Dros Ginio

    Beth sy’n ddiddorol i mi oedd bod Vaughan Gething wedi derbyn rhybudd o hyn ddoe, drwy tecst a rhybuddion wyneb-i-wyneb.

    Fe roddwyd y cyfle iddo fe fynd yn dawel heb fynd trwy’r holl broses yma, sy’n awgrymu bod rhyfel mewnol yn mynd 'mlaen yn y blaid Lafur, yn fwy na dim ond yn grŵp.

    Mae Gething wedi dewis ymadael yn y ffordd yma. Mae’n ymddangos i mi bod e eisiau i bobl weld bod 'na gynllwyn yn ei erbyn e, ac i weld pwy oedd y tu ôl i’r cynllwyn hwnnw.

    Mae hynny’n awgrymu i mi nad oes cadoediad yn y rhyfel 'ma. Mae'n mynd i barhau dros fisoedd yr haf ac ailddechrau yn yr hydref.

    Fydd Llafur ddim eisiau i’r ornest arweinyddiaeth lusgo 'mlaen a 'mlaen, oherwydd nid dim ond yng Nghymru mae hyn yn cael effaith.

    Dyma'r argyfwng fawr gyntaf i Kier Starmer hefyd o safbwynt disgyblaeth ei blaid.

  13. Gething wedi bod yn 'gwbl ddiedifar'wedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Ar raglen Dros Ginio dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fod Mr Gething wedi bod yn "gwbl ddiedifar".

    "Roedd y datganiad yn cadarnhau pam bod ei wrthwynebwyr yn teimlo eu bod wedi gorfod gwneud rhywbeth mor ddramatig.

    "Roedd o’n benderfynol o geisio aros, doed a ddelo."

    Ychwanegodd o ran yr amseru, ar ddiwrnod olaf y Senedd, bod "yr wythnos yma'n allweddol".

    Dywedodd Richard Wyn Jones fod gwrthwynebwyr Mr Gething "wedi bod yn gwbl effeithiol".

    "'Chydig o oriau oedd o, mater o ddwy neu dair awr, rhwng y llythyron yn cael eu cyhoeddi a fo'n gorfod mynd."

    Richard Wyn Jones
  14. 'Tanseilio swydd y prif weinidog'wedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod "diffyg crebwyll y prif weinidog, ei amharodrwydd i gael ei graffu a’i ddull ‘gwneud dim’ o lywodraethu wedi tanseilio swydd y prif weinidog ac wedi dwyn anfri ar wleidyddiaeth Cymru."

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd
  15. Olynydd yn ei le 'yn gynnar yn yr hydref'wedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Dywedodd Mr Gething y bydd ei blaid yn gwneud "dewisiadau" o ran pryd y bydd yr ornest yn cael ei chynnal, ond mae'n disgwyl i olynydd fod yn ei le 'yn gynnar yn yr hydref'.

    Etholwyd Vaughan Gething bedwar mis yn ôlFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Gething 'wedi gwrthod ysgwyd fy llaw'wedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod Mr Gething wedi gwrthod ysgwyd ei law yn y lifft y bore 'ma.

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Senedd
  17. 'Anhrefn wrth galon Llywodraeth Cymru'wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Wrth ymateb i ymddiswyddiad y prif weinidog, dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru: “Ar ôl dros dri mis o anhrefn wrth galon Llywodraeth Cymru mae’r newyddion fod Vaughan Gething wedi ymddiswyddo o’r diwedd yn dilyn ymddiswyddiad pedwar gweinidog y bore yma i’w groesawu.

    "Ond rhaid gofyn pam y goddefwyd y sefyllfa hon cyhyd, gan niweidio a thanseilio datganoli a’n democratiaeth?

    "Ar adeg pan fo Cymru’n wynebu sawl argyfwng, yn enwedig y sefyllfa barhaus ym Mhort Talbot, ni fu unrhyw gyfeiriad gwirioneddol ac ystyrlon gan lywodraeth sy’n rhy brysur yn ffraeo ymysg ei gilydd."

  18. 'Parhau i wneud fy nyletswydd dros fy ngwlad'wedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedodd Mr Gething fod ei blaid wedi bwrw ymlaen â'r gwaith "er gwaethaf yr holl sŵn".

    Ychwanegodd: “Rwy’n hyderus ac yn gadarnhaol am yr hyn y gall fy mhlaid ei wneud mewn llywodraeth a mynd gerbron pobl Cymru yn 2026.

    “Rwy’n edrych ymlaen at weld fy mhlaid yn dewis o blith pob un o’n haelodau mewn cystadleuaeth un aelod un bleidlais i benderfynu pwy fydd y person hwnnw, ond byddaf yn parhau i wneud fy nyletswydd dros fy ngwlad nes bod person newydd yn cael ei ddewis i gymryd fy lle."

    Senedd
  19. Dim cymeradwyaeth unfrydol i ddatganiad Gethingwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Derbyniodd Vaughan Gething gymeradwyaeth gwrtais a thapio desgiau gan rai ASau wrth iddo ddweud yn ffurfiol wrthynt y byddai'n ymddiswyddo.

    Nid oedd y gymeradwyaeth yn unfrydol ar feinciau Llafur.

    Ni ymatebodd ASau Plaid Cymru ychwaith.

  20. Datganiad Vaughan Gething i'r Seneddwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Yn ei ddatganiad personol dywedodd Vaughan Gething: "Mae’r cyfnod hwn wedi bod yn anodd, yn wir yr anoddaf, i mi a’m teulu.

    "Mae honni cynyddol, ac iddo gymhellion gwleidyddol, fod rhyw fath o gamwedd wedi digwydd wedi bod yn niweidiol ac yn gyfan gwbl anwir.

    "Mewn 11 mlynedd fel Gweinidog, nid wyf erioed wedi gwneud penderfyniad er budd personol. Nid wyf erioed wedi camddefnyddio na cham-drin fy nghyfrifoldebau gweinidogol.

    "Mae fy uniondeb yn bwysig. Nid wyf wedi’i gyfaddawdu.

    "Mae'n peri loes imi na roddir gwerth bellach ar y baich profi yn iaith ein gwleidyddiaeth. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n newid.

    "Byddaf nawr yn trafod amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd fy mhlaid.

    "Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi fy nghefnogi i, fy nhîm a’m teulu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

    "Mae wedi golygu'r byd i bob un ohonom."

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Senedd