Gwyliau ysgol: 'Syniad da' neu dim llawer o wahaniaeth?
Dydy cynlluniau i dorri wythnos oddi ar wyliau haf ysgolion Cymru ddim yn mynd i gael eu gweithredu cyn etholiad nesaf Senedd Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle bod angen rhoi amser i ysgolion weithredu'r cwricwlwm newydd a gwella safonau.
Mae'r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan rai sy'n gweithio yn y diwydiant addysg ac amaeth.
Dyma oedd y farn ger Ysgol Eifion Wyn ym Mhorthmadog ddydd Mawrth.