'Croesawu' y penderfyniad i beidio cwtogi gwyliau haf
- Cyhoeddwyd
Mae'r penderfyniad i beidio torri wythnos oddi ar wyliau haf ysgolion Cymru am y tro wedi cael ei groesawu gan rai sy'n gweithio yn y diwydiant addysg ac amaeth.
Y bwriad gwreiddiol oedd ymestyn gwyliau hanner tymor hydref 2025 i bythefnos, a thorri gwyliau haf 2026 i bum wythnos yn hytrach na chwech.
Ond cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, na fydd hynny'n digwydd cyn etholiad nesaf Senedd Cymru a bod angen rhoi amser i ysgolion weithredu'r cwricwlwm newydd a gwella safonau.
Dywedodd un pennaeth wrth BBC Cymru nad yw hi wedi siarad gydag unrhyw gydweithiwr "sy'n credu y dylai'r newid fod yn flaenoriaeth" a dywedodd pennaeth arall bod cyfle i edrych ar y cynllun eto yn y dyfodol.
Roedd Pennaeth Ysgol Garth Olwg, Trystan Edwards, ar banel ymgynghori oedd yn edrych ar y cynllun yn fanylach.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast: "O'dd sawl ongl i edrych ar hwn a sawl ffactor - y gyfundrefn ac amserlen arholiadau TGAU a Lefel A a'r diwrnodau canlyniadau, y sector twristiaeth a'r effaith ar y sector, yr effaith ar unrhyw ysgolion oedd ar y ffin gyda Lloegr - a'r mwyaf o ymchwilio o'dd yn cael ei wneud, y mwyaf cymhleth o'dd y mater hwn yn amlygu.
"Dwi'n credu bod ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ddoeth a dewr i roi saib ar y broses am nawr i ffocysu ar yr heriau eraill sydd gennym ni o fewn addysg - y cwricwlwm newydd - felly dwi'n credu bod y cyhoeddiad wedi bod yn ddoeth a synhwyrol."
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
Mae Trystan Edwards yn dweud bod modd "ail ymweld â hyn yn y dyfodol".
"Falle ma' gwendid y cynnig o'dd y pythefnos o wyliau ym mis Hydref, y tywydd, dyddiau'n byrhau ac o'dd e ddim yn mynd i ddileu'r saith wythnos cyn y Nadolig a hwnna yw'r lladdfa fwya' pan fydd salwch a blinder yn taro'r sector.
"O'dd e ddim yn mynd i newid hwnna - felly mae e wedi agor y drws i syniadau mwy creadigol yn y dyfodol."
'Dyw hyn ddim yn flaenoriaeth'
Dywedodd Sarah Oliver, Pennaeth Ysgol Gymraeg y Fenni: "Rwy ddim yn credu gall penderfyniadau mor enfawr â hyn cael eu 'neud heb dystiolaeth gryf a chadarn i brofi y bydde fe o fudd i ddysgwyr - ac ar y foment does dim tystiolaeth o'r fath wedi ymddangos felly rwy'n croesawu'r datganiad."
"Ma' fe'n benderfyniad mawr o ran staff ac o ran teuluoedd ac rwy ddim yn credu bod llwytho ysgolion a'r byd addysg nawr gyda sefyllfa fel hyn yn flaenoriaeth.
"Byse fe'n newid y ffordd bydde ysgolion yn gorfod ymdrin â'r cwricwlwm felly dwi wir ddim yn credu - a dwi ddim wedi dod ar draws unrhyw gydweithiwr - sy'n credu bod hyn yn flaenoriaeth.
"Blaenoriaeth ym myd addysg ydi cyllid ysgolion, anghenion dysgu ychwanegol a'r gofal cymdeithasol sydd 'na ar gyfer ein plant bregus."
Roedd yna wrthwynebiad i'r cynlluniau gan y Sioe Frenhinol oherwydd y posibilrwydd y byddai'r tymor ysgol yn parhau dros wythnos y Sioe ar ddiwedd Gorffennaf.
Dywedodd Nicola Davies, Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ei bod yn croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud bod hynny'n "rhoi sicrwydd" i'r Sioe am y tro.
"Petasai plant ddim yn medru dod i'r Sioe yn gyfreithiol, bydde fe'n tanseilio'r Sioe o ran y niferoedd sy'n dod a ry'n ni'n ddigwyddiad teuluol arbennig.
"Ni'n teimlo fel Sioe fel bod 'da ni rhywbeth addysgiadol i'w gynnig i blant. Mae addysg yn fwy nag o fewn pedair wal ond yn hytrach mae o fewn y profiadau a'r elfennau hynny allwch chi gael mewn sioe.
"Bydde ni wedi - petai'r golled ni'n meddwl tua £1m - gorfod ystyried newid y dyddiadau ond bydden ni ddim ishe tanseilio digwyddiadau mawr bydde'n dilyn ni fel yr Eisteddfodau a sioeau eraill."
Beth oedd y farn ar faes yr Urdd?
Ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn yr wythnos ddiwethaf, roedd y mwyafrif y gwnaeth BBC Cymru Fyw eu holi o blaid cwtogi gwyliau'r haf o chwe wythnos.
Mae Clara Suve, 16, sy'n ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin yn teimlo bod "chwe wythnos yn eithaf lot".
"Unwaith ni'n dod nôl i'r ysgol ma' angen dod nôl i'r arfer i'r gwersi pob dydd, siarad Cymraeg pob dydd i'r bobl sydd heb deulu sy'n siarad Cymraeg, felly falle bod e'n syniad da cael wythnos ychwanegol fis Hydref," meddai.
Ychwanegodd Nia ap Tegwyn o Gastellnewydd Emlyn: "Fi'n meddwl fod e'n syniad da yn enwedig pan chi'n ystyried gofal plant, achos ma' ffeindio rhywun i edrych ar ôl y plant mewn un chunk yn gallu bod yn dipyn o her.
"Felly os bydd e'n cael ei rhannu lan bydd e'n haws i deuluoedd."
Roedd Siwan Mathews, disgybl 17 oed yn Ysgol Bro Myrddin hefyd o'r farn ei fod yn "syniad eithaf da".
"Ti dal yn cael cyfnod eithaf hir yn yr haf ond wedyn falle bod e wedi cael ei wasgaru mas yn well efallai, so wedyn ti'n gallu cael mwy o amser Nadolig a Hydref ac yn y blaen."
Mae Lois Campbell, 22 o Gaerdydd, yn gwneud cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar y funud, a bydd yn cychwyn ei swydd gyntaf fel athrawes fis Medi.
"Er bod chwech wythnos yn yr haf yn hyfryd, dwi'n meddwl y byddwn ni'n gallu elwa fel athrawon a fel disgyblion gydag wythnos ychwanegol yn yr Hydref," meddai.
"Mae chwech wythnos yn hir yn gyfnod hir iddyn nhw fod allan o'r ysgol ac mae dod nôl wedyn ym mis Medi... mae'n fwlch mawr o amser heb fod yn yr ysgol i ddal lan gyda gwaith, darllen, llythrennedd a rhifedd, beth bynnag - pethau sydd yn gallu dirywio o fod adre am chwech wythnos heb unrhyw ymgysylltiad gyda'r ysgol
"O safbwynt athro, dwi'n meddwl byddai wythnos ychwanegol yn yr Hydref yn hyfryd."
Ond mae Gwenllian Jones, 18 o Lanarthne yn "joio cael haf hir".
"Yn enwedig pan mae'r tywydd yn braf, ac ma lot well 'da fi cael gwyliau adeg 'ny nag adeg gaeaf pan s'dim lot i 'neud a'r glaw bobman," meddai.
Dywedodd Gwenfair Griffiths, disgybl 17 oed yn Ysgol Bro Myrddin: "Fi'n meddwl mae'n dda hefyd achos fel arfer yn tymor yr hydref mae'n teimlo eithaf hir erbyn y diwedd a mae gwaith yn teimlo'n drwm, so bydd cael pythefnos yn 'neud i ni adfywio, ac mae pum wythnos yn lot dal, so dal amser i ymlacio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2023