'Saib' i'r cynllun i gwtogi gwyliau haf ysgolion Cymru

DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Dydy cynlluniau i dorri wythnos oddi ar wyliau haf ysgolion Cymru ddim yn mynd i gael eu gweithredu cyn etholiad nesaf Senedd Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle bod angen rhoi amser i ysgolion weithredu'r cwricwlwm newydd a gwella safonau.

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan undebau dysgu, ond fe ddywedon nhw y dylai newid y flwyddyn ysgol fyth fod wedi bod yn flaenoriaeth.

Y bwriad gwreiddiol oedd ymestyn gwyliau hanner tymor hydref 2025 i bythefnos, a thorri gwyliau haf 2026 i bum wythnos yn hytrach na chwech.

Cafodd y cynlluniau eu gwrthwynebu gan drefnwyr y Sioe Frenhinol a chorff twristiaeth hefyd.

Ffynhonnell y llun, Llafur
Disgrifiad o’r llun,

"Ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'r flwyddyn ysgol yn ystod tymor y Senedd hon," meddai Lynne Neagle

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle bod "amrywiaeth barn sylweddol" ar y mater.

"Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni barhau i drafod a gwrando ar ysgolion, athrawon ac undebau yn ogystal â phlant, pobl ifanc a rhieni ar y ffordd orau o weithredu unrhyw newidiadau yn y dyfodol," meddai.

Dywedodd bod diwygiadau mawr fel y cwricwlwm newydd a newid y drefn anghenion dysgu ychwanegol yn "gofyn llawer gan athrawon ac ysgolion".

"Maen nhw'n cefnogi ein huchelgais i drawsnewid addysg yng Nghymru ac mae angen amser a chyfle arnyn nhw i sicrhau bod y diwygiadau hyn yn cyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc," meddai Ms Neagle.

"Rwy' am roi blaenoriaeth i'r diwygiadau sy'n mynd rhagddynt i ysgolion a gwella cyrhaeddiad, felly ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'r flwyddyn ysgol yn ystod tymor y Senedd hon."

Mae'n golygu na fyddai unrhyw newid i'r flwyddyn ysgol tan o leiaf y flwyddyn ysgol 2028-29.

Dywedodd y llywodraeth bod ymgynghoriad ar y cynlluniau wedi denu16,000 o ymatebion.

Cadarnhaodd llefarydd bod y broses o edrych ar ddiwygio'r tymor ysgol wedi costio tua £350,000.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwrthwynebiad cryf i'r diwygiadau oherwydd y posibilrwydd na fyddai ysgolion ar gau dros wythnos y Sioe Frenhinol

Roedd gweinidogion wedi dadlau mai disgyblion o gefndiroedd difreintiedig fyddai wedi elwa fwyaf o wyliau haf byrrach, ac y byddai tymhorau mwy cyson yn llai blinedig i staff a phlant.

Ond barn yr undebau addysg oedd y byddai’r newid yn tynnu sylw oddi ar yr heriau mawr sy'n wynebu addysg, ac yn golygu bod y proffesiwn yn llai atyniadol.

Dywedodd Neil Butler o undeb NASUWT y dylai'r polisi "gael ei daflu i fin sbwriel hanes".

"Does yna ddim rheswm addysgiadol amdano, ac mewn gwirionedd rydyn ni'n credu y byddai wedi bod yn niweidiol."

Yn ôl Laura Doel o undeb penaethiaid NAHT Cymru doedd dim tystiolaeth i gefnogi'r polisi.

"Ddylai hyn fyth wedi bod yn flaenoriaeth, yn enwedig gyda'r diwygiadau eraill i'r cwricwlwm a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol," meddai.

Roedd yna wrthwynebiad i'r diwygiadau gan y Sioe Frenhinol oherwydd y posibilrwydd y byddai'r tymor ysgol yn parhau dros wythnos y Sioe ar ddiwedd Gorffennaf.

Roedd corff twristiaeth sy’n cynrychioli atyniadau fel Zip World yn Eryri a Folly Farm yn Sir Benfro hefyd yn erbyn y newid, gan ddadlau y gallai daro busnes.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn ar dorri’r gwyliau haf i bedair wythnos yn y dyfodol ac ychwanegu wythnos arall i wyliau hanner tymor mis Mai.

Roedd newid diwrnod canlyniadau TGAU a Safan Uwch i'r un wythnos yn lle wythnosau olynol ym mis Awst hefyd dan ystyriaeth.

'Angen cael gwared ar y polisi'

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod wedi galw am ddileu'r polisi ers amser a bod angen i'r llywodraeth ganolbwyntio ar ddatrys problemau'r drefn addysg.

"Dydy cicio hyn i'r gwair hir ddim yn ddigon da", meddai llefarydd addysg y blaid Tom Giffard AS.

"Mae angen cael gwared ar y polisi yn gyfangwbwl".

Roedd diwygio'r flwyddyn ysgol yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a ddaeth i ben fis diwethaf.

Dywedodd llefarydd dros addysg Plaid Cymru, Heledd Fychan AS: "Fel y gwnaethon ni bwysleisio drwy gydol y cyfnod ymgynghori, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar farn rhieni, athrawon a disgyblion.

"Mae'n amlwg bod argyfwng o fewn y byd addysg yng Nghymru. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wella presenoldeb mewn ysgolion, diogelwch, yn ogystal â recriwtio rhagor o athrawon a gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i ddisgyblion gyda anghenion dysgu ychwanegol."