Marwolaeth Sbaen: 'Teimlo bod ni ar y trywydd iawn'
Mae marwolaeth dyn o Bontypridd yn Sbaen bellach yn cael ei drin fel achos posib o ladd, yn ôl ei deulu.
Cafodd corff Nathan Osman, 30, ei ddarganfod ar waelod clogwyn anghysbell ar gyrion Benidorm, lai na 24 awr ar ôl iddo gyrraedd ar ei wyliau gyda ffrindiau ym mis Medi 2024.
Roedd ei deulu'n anfodlon gydag ymateb heddlu yn Sbaen o'r dechrau, ac wedi cynnal ymchwiliad eu hunain.
Ar ôl i'r teulu hedfan i'r ardal a chyflwyno eu canfyddiadau i'r prif erlynydd, mae'r achos wedi cael ei ailagor.
Dywedodd Lee Evans, brawd Mr Osman, fod yr erlynydd wedi dweud wrthyn nhw eu bod yn "credu'n gryf" bod amodau amheus yn rhan o'r achos, a'u bod nhw'n ei drin fel achos o ladd.
Ychwanegodd Mr Evans bod y teulu bellach yn teimlo eu bod yn symud i'r cyfeiriad cywir gyda'r achos.