Agor cwest i farwolaeth Cymro o Bontypridd yn Benidorm
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth dyn o Bontypridd tra ar ei wyliau yn Benidorm.
Roedd Nathan Osman ar ei wyliau tramor cyntaf gyda ffrindiau pan aeth ar goll a chael cwymp angheuol.
Yn ystod y gwrandawiad ym Mhontypridd clywodd y crwner fod Nathan Osman wedi bod ar benwythnos hir o yfed yn Benidorm gyda ffrindiau ar 28 Medi 2024.
Nodwyd ei fod wedi ffonio ei ffrindiau ar Facetime i ddweud ei fod am ddychwelyd i'r gwesty.
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024
Drannoeth sylwodd plismon, nad oedd ar ddyletswydd, ar gorff Nathan ar waelod dibyn 200 metr o ddyfnder.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn ninas Alicante a chanfuwyd ei fod wedi marw yn sgil anafiadau i'r pen a'r abdomen ar ôl disgyn o uchder.
Mae'r cwest wedi ei ohirio er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.