'Marwolaeth Cymro yn Sbaen bellach yn ymchwiliad i achos o ladd'

Bu farw Nathan Osman tra ar wyliau gyda'i ffrindiau yn Benidorm ym mis Medi 2024
- Cyhoeddwyd
Mae marwolaeth dyn o Bontypridd yn Sbaen bellach yn cael ei drin fel achos posib o ladd, yn ôl ei deulu.
Cafodd corff Nathan Osman, 30, ei ddarganfod ar waelod clogwyn anghysbell ar gyrion Benidorm, lai na 24 awr ar ôl iddo gyrraedd ar ei wyliau gyda ffrindiau ym mis Medi 2024.
Roedd ei deulu'n anfodlon gydag ymateb heddlu yn Sbaen o'r dechrau, ac wedi cynnal ymchwiliad eu hunain.
Ar ôl i'r teulu hedfan i'r ardal a chyflwyno eu canfyddiadau i'r prif erlynydd, mae'r achos wedi cael ei ailagor.
Mae swyddfa'r erlynydd yn Benidorm wedi derbyn cais am sylw.
Daeth Lee Evans o hyd i deledu cylch cyfyng oedd yn dangos Mr Osman yn cerdded i gyfeiriad ei westy
Dywedodd Lee Evans, brawd Mr Osman, fod yr erlynydd wedi dweud wrthyn nhw eu bod yn "credu'n gryf" bod amodau amheus yn rhan o'r achos, a'u bod nhw'n ei drin fel achos o ladd.
Ychwanegodd Mr Evans fod yr erlynydd wedi dweud y bydden nhw'n edrych ar yr holl dystiolaeth, ac nad oes ganddyn nhw "unrhyw reswm i gredu fod y farwolaeth yn ddamwain na'n hunanladdiad".
Yn wreiddiol dywedodd y teulu nad oedd ymchwiliad i farwolaeth Nathan, a bod yr heddlu wedi cau'r achos o fewn oriau.
Diflannodd Mr Osman wrth gerdded yn ôl i'w westy, a chafodd ei gorff ei ddarganfod gan heddwas nad oedd ar ddyletswydd y diwrnod canlynol.
Daeth Mr Evans a'i chwaer, Alannah o hyd i deledu cylch cyfyng oedd yn dangos Mr Osman yn cerdded i gyfeiriad ei westy - a hynny heb ymddangos fel ei fod wedi meddwi.
"Roeddwn mewn sioc lwyr i'w weld e yno'n ddibryder, dim arwydd o sioc na hyd yn oed arwydd ei fod e wedi meddwi – roedd e'n edrych yn iawn, roedd e wedi ymlacio."

Roedd Nathan Osman, 30, yn dad i bedwar o blant
Roedd Mr Osman wedi bod yn siarad ar alwad fideo gyda ffrind, tan i fatri ei ffôn redeg allan.
Maen ei deulu'n credu i rywun ei herwgipio a dwyn ganddo, oherwydd bod ymdrechion i ddefnyddio ei gardiau banc y diwrnod ar ôl ei farwolaeth.
Hefyd, maen nhw'n dweud fod yr ardal lle'r cafodd ei ganfod mor anghysbell nad oes unrhyw ffordd y byddai wedi cerdded yno.
Mae Aelod Seneddol Pontypridd, Alex Davies Jones, wedi cefnogi'r teulu ac wedi rhoi teyrnged i Mr Osman yn San Steffan yr wythnos hon - mewn dadl ynglŷn â chefnogaeth i deuluoedd Prydeinig sy'n cael eu llofruddio dramor.
Dywedodd hi fod heddlu Sbaen wedi "dyfarnu marwolaeth Nathan fel un ddamweiniol a chau ei achos, heb fawr o ymchwiliad na chefnogaeth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024