Cleif Harpwood: 'Ni wedi colli arwr cenedlaethol'

Mae cannoedd o bobl wedi dod at ei gilydd ar gyfer angladd Dewi 'Pws' Morris ym Mangor.

Bu farw ym mis Awst, yn 76 oed, yn dilyn cyfnod byr o salwch.

Roedd yn fwyaf adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.

Cyn yr angladd, bu ei ffrind a chyd-aelod Edward H Dafis, Cleif Harpwood yn rhoi teyrnged iddo, gan ddweud "ein bod ni wedi colli arwr cenedlaethol".

Ychwanegodd: "Ni 'di colli rhywun oedd yn agos i bawb.

"Rwy'n credu bod pawb yng Nghymru o glywed am ei golli e yn teimlo'r golled yna."

"O'dd e'n anhygoel bod yn ei gwmni e.

"O'dd e fel fyse fe'n nabod pawb a phawb yn ei nabod e ac ma hynny'n beth prin a bydd ei golled ar ei ôl e'n fawr.

"Rwy'n teimlo fy mod i wedi colli rhywun pwysig iawn yn fy mywyd i."