Cannoedd o bobl yn angladd Dewi 'Pws' Morris

Dewi 'Pws' MorrisFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dewi 'Pws' Morris ym mis Awst, yn 76 oed

  • Cyhoeddwyd

Daeth cannoedd o bobl at ei gilydd ar gyfer angladd Dewi 'Pws' Morris ym Mangor ddydd Iau.

Roedd degau o bobl yn sefyll ar hyd strydoedd Nefyn ar gyfer taith olaf y diddanwr poblogaidd trwy'r dref cyn yr angladd.

Bu farw ym mis Awst, yn 76 oed, yn dilyn cyfnod byr o salwch.

Dywedodd Cleif Harpwood, ei ffrind a chyd-aelod o'r band Edward H Dafis, "ein bod ni wedi colli arwr cenedlaethol".

Disgrifiad,

Dywedodd Cleif Harpwood "ein bod ni wedi colli arwr cenedlaethol"

Roedd Dewi 'Pws' Morris yn fwyaf adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.

Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr operâu sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, ac yn y ffilm deledu eiconig, Grand Slam.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd het nodweddiadol Dewi Pws ar ben yr arch ynghyd â blodau siâp banjo a baner y Ddraig Goch

Dywedodd Cleif Harpwood: "Ni 'di colli rhywun oedd yn agos i bawb.

"Rwy'n credu bod pawb yng Nghymru o glywed am ei golli e yn teimlo'r golled yna."

"O'dd e'n anhygoel bod yn ei gwmni e.

"O'dd e fel fyse fe'n nabod pawb a phawb yn ei nabod e ac ma hynny'n beth prin a bydd ei golled ar ei ôl e'n fawr.

"Rwy'n teimlo fy mod i wedi colli rhywun pwysig iawn yn fy mywyd i."

Disgrifiad,

Roedd pobl yn sefyll tu allan i dafarn Yr Heliwr i ddangos parch wrth i'r hers fynd heibio

Yn Nefyn y penderfynodd ymgartrefu, gyda'i wraig Rhiannon, wedi blynyddoedd o fyw yn Nhre-saith.

Fe adawodd yr hers a'r teulu ei gartref ar gyrion y dref am hanner dydd cyn ymlwybro tua Morfa Nefyn a ffatri Cwrw Llŷn, heibio tafarn y Bryncynan ar eu taith i Fangor.

Ymhlith y bobl oedd yn gwylio'r orymdaith y tu allan i dafarn Yr Heliwr oedd Endaf Wilson.

"Dwi yn ei nabod o ers blynyddoedd a bydd colled mawr ar ei ôl," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r band Edward H Dafis: Charli Britton, Hefin Elis, Dewi Pws, John Griffiths a Cleif Harpwood

Ddydd Iau, fe bostiodd y band Mynediad Am Ddim englyn - mae'n ymddangos gan Robin Evans o'r band - yn coffau tri o aelodau gwreiddiol Edward H Dafis.

Bu farw'r gitarydd bas John Griffiths yn 2018 a'r drymiwr Charli Britton yn 2021.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Mynediad am Ddim

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Mynediad am Ddim
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna tua 300 o alarwyr yn y gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor ac roedd llawer yn gwisgo macynnau coch a gwyn ar gais y teulu

Roedd yr angladd ei hun, yn Amlosgfa Bangor, yn wasanaeth cyhoeddus "i ddathlu bywyd Dewi" ac roedd yna tua 300 o alarwyr.

Mewn neges gyhoeddus, roedd ei deulu wedi gofyn i fynychwyr wisgo macynnau lliwgar coch a gwyn oedd yn nodweddiadol o'i gyfnod gyda’r band Edward H Dafis.

Gan ragweld diddordeb mawr yn y gwasanaeth, fe rybuddiodd yr ymgymerwyr y byddai ond yn bosib i 250 ei wylio ar-lein.

Roedd Cymdeithas yr Hoelion Wyth wedi estyn gwahoddiad i bobl nad oedd wedi gallu teithio i'r gogledd "ddod i Dafarn Ffostrasol lle bydd modd gwylio darllediad o'r angladd".