Y cerddor, actor a'r digrifwr Dewi Pws Morris wedi marw

Dewi Pws yn cael ei holi yn y rhaglen Sgwrs Dan y Lloer ar S4C yn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae un o ffigyrau mwyaf amryddawn a phoblogaidd byd adloniant Cymru, Dewi 'Pws' Morris wedi marw yn 76 oed.
Mae'n fwyaf adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.
Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr operâu sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, ac yn y ffilm deledu eiconig, Grand Slam.
Dewi Pws, fel yr oedd pawb yn ei adnabod ers blynyddoedd, oedd prif leisydd y grŵp Y Tebot Piws.
Aeth ati wedyn, gyda Hefin Elis, i sefydlu'r supergroup Cymraeg cyntaf - y band roc chwyldroadol, Edward H Dafis.
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024
Dewi Pws wnaeth gyfansoddi Lleucu Llwyd - un o ganeuon mwyaf poblogaidd Y Tebot Piws - a Nwy yn y Nen, cân fuddugol Cân i Gymru 1971.
Fe berfformiodd hefyd gyda'r band pync-gwerin Radwm ac ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log.
Clipiau o'r archif: Dewi 'Pws' Morris
Dewi Gray Morris oedd ei enw bedydd ac fe gafodd ei eni ym mhentref Treboeth ger Abertawe yn 1948.
Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, Llansamlet ac Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe, cyn dod i sylw Cymru gyfan gyntaf fel aelod o Aelwyd yr Urdd, Treforys.
Hyfforddi fel athro oedd ei gam nesaf, yng Ngholeg Cyncoed, a dysgu am rai blynyddoedd yn Sblot, Caerdydd.
Ond o fewn dwy flynedd roedd â'i fryd ar actio. Dechreuodd ym myd pantomeim a chael swydd lawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru cyn troi at deledu.
Roedd ymhlith cast gwreiddiol Pobol y Cwm, gan chwarae rhan Wayne Harris rhwng 1974 a 1987.
Roedd hefyd yn un o brif gymeriadau'r ffilm deledu chwedlonol, Grand Slam, yn 1978, a'r Dyn Creu yn y gyfres deledu i blant, Miri Mawr.

Dewi Pws wedi iddo gael ei wneud yn ddoethur mewn llên er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2018
Fel digrifwr a thynnwr coes fe serennodd ar rai o gyfresi cynnar mwyaf llwyddiannus S4C fel Torri Gwynt, Mwy o Wynt a Hapus Dyrfa - yn ogystal â fel cyflwynydd Byd Pws.
Roedd yn aelod o gast gwreiddiol Rownd a Rownd pan ddechreuodd y gyfres yn 1995, gan bortreadu Islwyn, perchennog y siop bapur newydd, hyd at 2007.
Enillodd wobr y cyflwynydd gorau am ei raglen Byd Pws gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 2003.

Dewi Pws yn canu ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023
Ysgrifennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys llyfrau i blant.
Roedd yn fardd medrus hefyd, gan gystadlu gyda thîm Crannog yng nghyfres Talwrn y Beirdd Radio Cymru.
Fe gafodd ei benodi'n Fardd Plant Cymru yn 2010, a'i dderbyn i Orsedd Cymru yn 2010, gan ddewis yr enw barddol 'Dewi'n y Niwl'.
Wedi iddo gael ei benodi yn fardd plant dywedodd: "Wy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio 'da plant dros Gymru gyfan, achos wy'n ystyried yn hunan fel math o Peter Pan. Plant sy'n fy nghadw i'n ifanc.
"Ac ar ôl blwyddyn yn y jobyn 'ma, falle bydda i wedi tyfu'n ôl i fod yn 12 oed unweth 'to."

Dewi Pws yn 2018 ac achlysur 40 mlwyddiant y ffilm boblogaidd Grand Slam
Yn 2018 fe gafodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
Dywedodd yn ystod y seremoni mai "yma yn Abertawe ges i fy addysg gynnar lle ddysgais fod Cymru a'r iaith Gymraeg yn bwysig i mi".
Bu'n byw am flynyddoedd gyda'i wraig Rhiannon yn Nhre-saith, yng Ngheredigion, cyn ymgartrefu yn Nefyn, yng Ngwynedd mewn ymateb i dranc y Gymraeg yn y de orllewin.
Roedd hefyd yn Gymro i'r carn. Ymunodd mewn protestiadau'n gyson - o ddyddiau cynnar Cymdeithas yr Iaith i ymgyrchoedd yn erbyn y Bwrdd Iaith.
Gwrthododd ymddangos ar Radio Cymru am gyfnod am ei fod yn teimlo bod gormod o gerddoriaeth Saesneg mewn rhaglenni.
Bu farw yn dilyn cyfnod byr o salwch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018