Bod yn rhan o garfan Cymru i Gwpan y Byd yn 'sioc' i un o ddwy chwaer
Mae un o ddwy chwaer, sy'n chwarae rygbi i Gymru, wedi dweud ei bod hi "mor cŵl" cael ei chwaer fach gyda hi'n rhan o'r garfan ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd y Merched.
Dywedodd Nel Metcalfe ei bod hi "mor falch" o Branwen, a'i bod hi wedi gweithio mor galed i gyrraedd yno.
Mae'r ddwy yn un o ddau bâr o chwiorydd yn y garfan, gyda'r blaenwyr Gwenllïan Pyrs ac Alaw Pyrs hefyd yn rhan o'r 32.
Fe wnaeth y pedair ddechrau eu gyrfaoedd gyda Chlwb Rygbi Nant Conwy.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.