Y chwiorydd o Ysbyty Ifan fydd yn wynebu Lloegr gyda'i gilydd

Y chwiorydd Pyrs - Gwenllian (dde) ac Alaw (chwith)
- Cyhoeddwyd
Mae dwy chwaer o Ysbyty Ifan yn debygol o chwarae gyda'i gilydd yn y gêm hanesyddol yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn ar ôl cael eu henwi yn nhîm Cymru.
Mae Gwenllian Pyrs, prop profiadol sydd â dros 40 o gapiau, yn chwaraewr allweddol i Gymru ac mae bellach yn rhannu'r llwyfan rhyngwladol gyda'i chwaer iau Alaw - y blaenwr addawol yn yr ail reng.
Mae Gwenllian, 27, yn rhan o'r ddau newid mae Sean Lynn wedi ei wneud i'r tîm fydd yn wynebu Lloegr sydd ar frig rhestr detholion y byd - a hynny o flaen record o dorf ar gyfer unrhyw ddigwyddiad chwaraeon merched yng Nghymru.
Bydd hi'n dechrau gyda'r clo Gwen Crabb tra bod Alaw, 19, ar y fainc.

"Da ni just yn trio gwella ein gilydd a pwsho ein gilydd i fod yn well," meddai Gwenllian
"Mae'n brofiad newydd i'r ddwy ohonon ni - ond fydd rhaid just trio cadw ein nerfau," meddai Gwenllian.
"Mae rygbi wastad 'di bod yn teulu ni. Mae pawb wedi bod yn chwarae rygbi ers yn fach."
Doedd y ddwy chwaer o Ysbyty Ifan erioed wedi chwarae gyda'i gilydd nes iddyn nhw rannu'r cae am ddeg munud yn erbyn yr Alban y penwythnos diwethaf.
"Da ni'n cael bach o pwsho a ballu o gwmpas yn training weithia ond da ni just yn trio gwella ein gilydd a pwsho ein gilydd i fod yn well," ychwanegodd Gwenllian.

"Nath hi cal cap cynta hi'n eitha ifanc fel fi so dwi isio pwsho fy hun i fod yn well na [Gwenllian]," meddai Alaw
Dywedodd Alaw ei bod hi wedi dechrau chwarae rygbi gyda'r bechgyn pan oedd hi'n wyth oed.
Mae hi'n edrych i fyny at ei chwaer ond yn dweud ei bod hi'n gystadleuol iawn.
"Nath hi cal cap cynta hi'n eitha ifanc fel fi so dwi isio pwsho fy hun i fod yn well na hi," meddai.
Her enfawr
Mae Lloegr, sy'n gobeithio ennill y bencampwriaeth am y seithfed tro yn olynol wedi gwneud 13 newid i'r tîm, gydag un o asgellwyr gorau'r byd, Ellie Kildunne, yn eu plith.
Mae'n ddegawd ers i Gymru guro'r Rhosys Cochion ac mae'r canlyniadau diweddar wedi bod yn boenus hefyd.
Bydd hyd yn oed cystadlu yn eu herbyn yn hwb enfawr i'r tîm a'r hyfforddwr newydd.

Mae disgwyl i'r gêm gael ei chwarae o flaen torf o fwy na 18,000 o gefnogwyr
Mae disgwyl i'r gêm yn Stadiwm Principality gael ei chwarae o flaen torf o fwy na 18,000 o gefnogwyr.
Byddai hynny yn record i ddigwyddiad chwaraeon menywod yng Nghymru.
Cafodd y record flaenorol ei gosod ym mis Rhagfyr, gyda thorf o ychydig o dan 17,000 yng ngêm bêl-droed Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Record flaenorol tîm menywod rygbi Cymru oedd 10,592 a hynny yng ngêm olaf y Chwe Gwlad llynedd yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm Principality.
Tîm Cymru i wynebu Lloegr
Jasmine Joyce, Lisa Neumann, Hannah Jones (capt), Kayleigh Powell, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllïan Pyrs, Carys Phillips, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Gwen Crabb, Kate Williams, Bethan Lewis, Georgia Evans.
Eilyddion: Kelsey Jones, Maisie Davies, Donna Rose, Alaw Pyrs, Bryonie King, Meg Davies, Courtney Keight, Nel Metcalfe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd22 Mawrth