Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd y Merched

Fe fydd Cymru yn chwarae yng ngrŵp B gyda'r Alban, Canada a Fiji
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr tîm merched Cymru, Sean Lynn, wedi cyhoeddi ei garfan o 32 o chwaraewyr ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd.
Y blaenwyr Alex Callender a Kate Williams fydd yn arwain Cymru yn y gystadleuaeth ar ôl cael eu dewis fel cyd-gapteiniaid.
Capten tîm Cymru dan-20, Branwen Metcalfe yw'r unig chwaraewr sydd heb ennill cap llawn i gael ei chynnwys yn y garfan.
Mae Branwen Metcalfe a'i chwaer hŷn, Nel wedi eu cynnwys - un o ddau bâr o chwiorydd yn y garfan, gyda'r blaenwyr Gwenllïan Pyrs ac Alaw Pyrs hefyd yn rhan o'r 32.

Fe ddechreuodd gyrfaoedd y chwiorydd Pyrs a Metclafe gyda Chlwb Rygbi Nant Conwy
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal yn Lloegr ym mis Awst a mis Medi.
Fe fydd ymgyrch Cymru yn ngrŵp B yn dechrau yn erbyn yr Alban ym Manceinion ar ddydd Sadwrn 23 Awst.
Dyma fydd yr eildro yn olynol i Gymru herio'r Alban yn rownd y grwpiau yng Nghwpan y Byd - gyda Chymru yn fuddugol nôl yn 2022.
Ar ôl hynny mi fydd Cymru yn wynebu Canada ym Manceinion ar ddydd Sadwrn 30 Awst cyn herio Fiji yng Nghaerwysg ar ddydd Sadwrn 6 Medi.
Y garfan yn llawn
Blaenwyr: Katherine Baverstock, Maisie Davies, Gwenllian Pyrs, Donna Rose, Jenni Scoble, Sisilia Tuipulotu, Kelsey Jones, Carys Phillips, Molly Reardon, Alex Callender (cyd-gapten), Gwen Crabb, Georgia Evans, Abbie Fleming, Bryonie King, Bethan Lewis, Alaw Pyrs, Tilly Vucaj, Kate Williams (cyd-gapten), Branwen Metcalfe.
Olwyr: Keira Bevan, Meg Davies, Seren Lockwood, Lleucu George, Kayleigh Powell, Carys Cox, Hannah Dallavalle, Kerin Lake, Courtney Keight, Jasmine Joyce, Nel Metcalfe, Lisa Neumann, Catherine Richards.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd28 Mawrth