Davies yn anelu am aur eto yn y Gemau Paralympaidd

Bydd golygon y byd yn troi unwaith eto at Ffrainc o ddydd Mercher ymlaen wrth i ddinas Paris gynnal y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf erioed.

Un sydd wedi hen arfer cystadlu yn y gemau - a llwyddo ar y lefel uchaf - yw Aled Siôn Davies.

Yr athletwr o Ben-y-bont ar Ogwr yw'r pencampwr byd, Paralympaidd, Ewropeaidd a Chymanwlad presennol wrth daflu'r pwysau.

Ond fel y dywedodd wrth Lowri Roberts, mae ei awydd i lwyddo mor gryf ag erioed.