Cymru 0-0 Gibraltar: 'Rhaid i bethau newid'

Roedd yr emosiwn yn amlwg ar Y Coridor Ansicrwydd wrth i Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones ymateb i gêm ddi-sgôr Cymru yn erbyn Gibraltar nos Iau.

Yn ôl nifer o'r cefnogwyr, mi ddylai'r rheolwr Rob Page golli ei swydd oherwydd y canlyniad a natur y perfformiad.

Mae Cymru yn ymuno ag Andorra, Armenia, Bwlgaria, Estonia, Ynysoedd y Ffaro, Grenada, Litchtenstein, Latfia, Malta, San Marino a Slofacia (gwrthwynebwyr nesaf Cymru nos Sul) ar y rhestr o wledydd sydd heb allu curo Gibraltar mewn gem.

Fe lwyddodd Ynys Môn i'w curo nhw 3-1 yn 2009.

Tydi Malcolm nag Owain yn credu bod angen diswyddo Page, ond mae'r ddau yn cytuno bod angen gwelliant mawr yn y gemau nesaf.

"Mae'n rhaid i bethau newid," meddai Malcolm, "oherwydd dwi ddim yn licio be' dwi'n weld."