Etholiad y Senedd 2026: Be' sy'n newid?

Bydd yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai 2026.

Mae'n argoeli i fod yr etholiad mwyaf nodedig i Fae Caerdydd ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol - fel ag yr oedd - ym 1999.

Mae etholaethau newydd sbon wedi eu ffurfio ar gyfer yr etholiad yn rhan o ddiwygiadau ehangach.

Mae newidiadau hefyd i'r modd mae Aelodau'r Senedd (ASau) yn cael eu hethol.

Ein gohebydd gwleidyddol Dan Davies sy'n ein tywys ni trwy'r newidiadau.