Etholiad 2026: Beth yw fy etholaeth i?

- Cyhoeddwyd
Bydd yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai 2026.
Mae'n argoeli i fod yr etholiad mwyaf nodedig i Fae Caerdydd ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol - fel ag yr oedd - ym 1999.
Mae etholaethau newydd sbon wedi eu ffurfio ar gyfer yr etholiad yn rhan o ddiwygiadau ehangach.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dyma ganllaw byr i'r map etholiadol newydd.
Beth sy'n newid?
Ar hyn o bryd mae gan y Senedd 60 o aelodau.
Mae 40 o'r rheiny wedi eu hethol i gynrychioli etholaethau unigol.
Mae'r 20 aelod arall yn wleidyddion rhanbarthol, gyda phum rhanbarth ar draws Cymru'n cael eu cynrychioli gan bedwar Aelod o'r Senedd (AS) yr un.
Ond y flwyddyn nesaf bydd nifer yr ASau yn cynyddu o 60 i 96, ac mae'r map etholiadol wedi cael ei ail-lunio'n llwyr.
Bydd yr etholaethau a rhanbarthau presennol yn diflannu, ac yn eu lle bydd 16 o etholaethau newydd, fydd yn cael eu cynrychioli gan chwe aelod yr un.
Beth yw'r etholaethau newydd?
Mae rhai o'r etholaethau newydd yn anferth, gyda Gwynedd Maldwyn yn ymestyn o ben pellaf Llŷn yr holl ffordd i'r ffin â Lloegr.
Dyma'r rhestr yn llawn:
Bangor Conwy Môn
Clwyd
Fflint Wrecsam
Gwynedd Maldwyn
Ceredigion Penfro
Sir Gaerfyrddin
Gŵyr Abertawe
Brycheiniog Tawe Nedd
Afan Ogwr Rhondda
Pontypridd Cynon Merthyr
Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
Sir Fynwy Torfaen
Casnewydd Islwyn
Caerdydd Penarth
Caerdydd Ffynnon Taf
Pen-y-bont Bro Morgannwg
Sut gafodd yr etholaethau newydd eu llunio?
Cafodd y map newydd ei lunio gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Oherwydd diffyg amser cyn yr etholiad nesaf, cafodd y comisiwn gyfarwyddyd i ddefnyddio'r 32 etholaeth a gafodd eu defnyddio yn yr etholiad cyffredinol i San Steffan y llynedd fel sail i'w gwaith.
Aeth y comisiwn ati wedyn i baru'r etholaethau hynny er mwyn creu 16 etholaeth newydd.
Roedd yn rhaid i'r comisiwn gyplu etholaethau oedd yn "cydgyffwrdd", ac fe benderfynodd y comisiwn bod hyn yn golygu bod yn rhaid cael cysylltiad ffordd uniongyrchol rhyngddynt.
Bydd y comisiwn yn gallu edrych eto ar y map yn dilyn yr etholiad, ac ystyried newidiadau ar gyfer etholiad 2030.

O dan y drefn newydd bydd 16 o etholaethau'n cael eu cynrychioli yn Senedd Cymru
Pam nad yw'r enwau'n ddwyieithog?
Gofynnwyd i'r comisiwn geisio dewis un enw yn unig ar gyfer pob etholaeth.
Mae'n credu bod yr enwau sydd wedi eu dewis "yn dderbyniol ac yn adnabyddadwy i bobl ledled Cymru".
Ond tra bod ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r penderfyniad i ddewis enwau Cymraeg yn unig, mae eraill wedi ei feirniadu.
Dywedodd yr AS Ceidwadol Andrew RT Davies bod Cymru "yn ddwyieithog a dylai enwau etholaethau fod yn y ddwy iaith".