Sut mae pleidleisio mewn etholiad i'r Senedd?

Llun o rywun yn gosod papur pleidleisio mewn blwch pleidleisio. Mae'r blwch ei addurno gyda baner Cymru yn erbyn cefndir piws.Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bydd yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai 2026.

Mae'n argoeli i fod yr etholiad mwyaf nodedig i Fae Caerdydd ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol - fel ag yr oedd - yn 1999.

Mae hynny i raddau helaeth oherwydd y newidiadau sydd i ddod i'r modd mae Aelodau'r Senedd (ASau) yn cael eu hethol.

Dyma ganllaw byr i'r newidiadau.

Beth sy'n newid?

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am nifer o wasanaethau cyhoeddus y wlad gan gynnwys iechyd, addysg a thrafnidiaeth.

Mae'n gwneud penderfyniadau hefyd am faterion gwledig, yr amgylchedd a chynghorau.

Mae'r llywodraeth yn cynnwys tîm o ysgrifenyddion cabinet a gweinidogion wedi eu harwain gan Brif Weinidog Cymru.

Mae pob ysgrifennydd cabinet yn gyfrifol am faes polisi gwahanol.

Fel arfer y blaid a enillodd y nifer fwyaf o seddi yn yr etholiad blaenorol sy'n ffurfio'r llywodraeth.

Llun o Fae Caerdydd. Mae adeilad y Senedd i'w weld yn y cefndir. Mae glanfeydd y Bae i'w gweld ym mlaen y llun.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nifer yr ASau ym Mae Caerdydd yn cynyddu o 60 i 96

Ar hyn o bryd mae gan Senedd Cymru 60 o aelodau.

Mae 40 o'r rheiny yn cynrychioli o etholaethau unigol.

Maen nhw'n cael eu hethol drwy'r drefn cyntaf-i'r-felin ble'r ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n cipio'r sedd.

Mae'r 20 aelod arall yn wleidyddion rhanbarthol, gyda phum rhanbarth ar draws Cymru yn cael eu cynrychioli gan bedwar Aelod o'r Senedd (AS) yr un.

Mae'r aelodau yma'n cael eu hethol drwy drefn gyfrannol.

Pan ddaw'r etholiad nesaf bydd y 40 etholaeth a'r pum rhanbarth yn diflannu ynghyd â'r drefn cyntaf-i'r-felin.

Yn lle hynny bydd Cymru'n cael ei rhannu'n 16 etholaeth gyda phob un yn cael ei chynrychioli gan chwech AS wrth i nifer yr aelodau gynyddu o 60 i 96.

Bydd yr aelodau i gyd yn cael eu hethol drwy drefn gyfrannol o'r enw D'Hondt sy'n defnyddio fformiwla fathemategol i ddosrannu seddi ar sail y gyfran o'r bleidlais mae pob plaid wedi ei hennill.

Sut fydd fy mhleidlais yn gweithio?

Mewn etholaethau blaenorol mae etholwyr wedi cael dwy bleidlais.

Byddent yn defnyddio'r bleidlais gyntaf i bleidleisio dros unigolyn i fod yr AS lleol a'r ail i gefnogi plaid.

Byddai'r ail bleidleisiau hynny wedyn yn cael eu cyfrif a'u dosbarthu drwy'r fformiwla i ddosrannu'r seddi rhanbarthol.

Ond yn 2026 dim ond un bleidlais fydd gan etholwyr, a fydd ddim cyfle ganddyn nhw i gefnogi ymgeisydd penodol.

Yn hytrach, byddan nhw ond yn gallu dewis plaid.

Ym mhob un o'r 16 o etholaethau bydd gan bob plaid restr o ymgeiswyr.

Bydd y nifer o ymgeiswyr sy'n cael eu hethol o restr pob plaid yn dibynnu ar y gyfran o'r bleidlais mae'r blaid wedi ei hennill.

Mater i'r pleidiau eu hunain fydd penderfynu sut maen nhw'n llunio'u rhestrau o ymgeiswyr.

Pan ddaw'r etholiad fydd etholwyr methu dewis a dethol yr unigolion yr hoffen nhw eu hethol.

Pam fod y drefn yn newid?

Mae'r drefn bleidleisio'n newid yn rhan o ddiwygiadau ehangach gafodd eu gwthio drwy'r Senedd gan Lafur a Phlaid Cymru.

Y syniad yw y bydd trefn bleidleisio sy'n fwy cyfrannol yn helpu i adlewyrchu amrywiaeth o safbwyntiau'n well.

Ond mae eraill yn credu bod yr union drefn fydd yn cael ei defnyddio yn gosod gormod o bŵer yn nwylo'r pleidiau ac yn cyfyngu ar y dewis sydd gan etholwyr.

Pwy sy'n gallu pleidleisio ac oes angen cofrestru?

Gall bobl sy'n 16 oed neu'n hŷn bleidleisio mewn etholiad i Senedd Cymru.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i bobl gofrestru er mwyn pleidleisio.

Mae'n rhaid i gynghorau wedyn gysylltu ag aelwydydd i wirio bod y gofrestr etholiadol yn gywir, dod o hyd i etholwyr newydd, a gwahodd pobl i wneud cais i fod ar y gofrestr.

Ond gallai deddf newydd gafodd ei phasio gan y Senedd y llynedd arwain at gofrestru awtomatig erbyn yr etholiad.

Mae cynlluniau peilot ar waith mewn rhannau o Gymru.

Byddai cofrestru awtomatig yn golygu na fyddai'n rhaid i bobl gofrestru eu hunain er mwyn cael pleidlais.