'Newid agwedd at y Gymraeg ym mro'r Eisteddfod'
Mae "newid" yn Rhondda Cynon Taf tuag at yr iaith Gymraeg yn sgil gwaith trefnu'r brifwyl yno, medd prif weithredwr yr ŵyl.
"Mae'r ddwy flynedd o ymwneud cymunedol cyn bwysiced â'r ŵyl ei hun," meddai Betsan Moses ar y maes fore Llun.
"Dyna fel y'ch chi'n newid agwedd, dyna fel y'ch chi'n rhoi cyfleoedd i bobl glywed y Gymraeg.
"Os 'newch chi siarad â phobl sy' wedi bod yn rhan o'r pwyllgorau apêl ni, maen nhw'n dweud mae 'na newid yn yr ardal."