Steddfod 2024: Y gronfa leol 'wedi cyrraedd ei tharged ariannol a mwy'

Poppy, Eliza a Libby
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Poppy, Eliza a Libby o Aberdâr a Merthyr Tudful yn mwynhau treulio amser ar y Maes brynhawn Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae cronfa leol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi codi £332,000 ar gyfer yr ŵyl eleni.

Ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod ym Mhontypridd, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, eu bod "wedi cyrraedd eu targed ariannol a mwy".

£450,000 oedd y cyfanswm gafodd ei godi yn dilyn cyfraniadau gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ac eraill.

"Mae cyfeillion ar draws Cymru wedi cyfrannu," meddai Helen Prosser, "ond mae trwch yr arian wedi dod o weithgarwch yn ein cymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, eu bod "wedi cyrraedd eu targed ariannol a mwy"

Meddai Helen Prosser: “Mae’n anodd credu ein bod ni wedi llwyddo i godi cymaint o arian mewn cwta ddeunaw mis.

"Mae’n anodd gwybod lle mae dechrau diolch i bawb am eu gwaith caled, eu hegni a’u brwdfrydedd.

“Mae gwirfoddolwyr o bob cornel o Rhondda, Cynon a Thaf wedi trefnu gweithgareddau yn enw’r Eisteddfod, ac rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i ffrindiau mewn rhannau eraill o Gymru am drefnu a chreu digwyddiadau i’n helpu ni i gyrraedd y nod.

"A dim ond un peth sydd ar ôl i ni’i wneud nawr, sef annog pawb i ddod draw atom i’r parc hyfryd yma yn ystod yr wythnos a mwynhau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y prif weithredwr, Betsan Moses eu bod "wedi gallu gweithio drwy'r heriau"

Yn y gynhadledd i'r wasg fore Sadwrn, dywedodd y Prif Weithredwr, Betsan Moses, bod cynnal yr Eisteddfod mewn tref "wedi bod yn heriol" ar adegau ond bod "hwn yn beilot sy'n golygu bod modd i'r 'Steddfod fynd i bob rhan o Gymru".

"Rwy'n teimlo fel tasen ni wedi bod yn gweithio ar hwn ers degawd" a bod y "gwaith wedi digwydd cyn i fi ddechrau yn y swydd", ychwanegodd Betsan Moses.

Wrth gael ei holi am golli mynediad i Barc Ynysnagharad dywedodd: "Ry'n yn ymwybodol iawn bod rhai yn rhwystredig ein bod ni wedi defnyddio’r parc. Wrth gwrs ry'n ni wedi bod yn cydweithio gyda’r Cyngor ac mi oedd modd defnyddio’r parc tan y funud olaf".

"Fe wneith hwn weithio, ry'n ni wedi cyrraedd y pwynt, wedi gallu gweithio drwy'r heriau ac agor yn hyderus heddiw," ychwanegodd.

'Chwalu rhwystrau'

Bydd tua 15,000 o unigolion a theuluoedd Rhondda Cynon Taf yn cael cyfle i fwynhau bwrlwm yr Eisteddfod yr wythnos hon - diolch i gynllun tocynnau mynediad am ddim a thalebau bwyd i bobl leol ar incwm is.

Darparodd Llywodraeth Cymru £350,000 i’r Eisteddfod er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is i brofi'r ŵyl eleni a chael blas ar y Gymraeg a’i diwylliant.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan: “Mae'r Eisteddfod i bawb, a diolch i'r arian hael gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gallu rhoi cyfle i bobl nad fyddent efallai wedi cael cyfle i ymweld."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ruby, Alys, a Teddie o Aberfan eu bod yn mwynhau crwydro’r maes, a bod y maes yn “wych”

Dywedodd Craig Spanswick, Pennaeth Ysgol Cwm Rhondda: "Heb os, mae’r cynllun tocynnau am ddim wedi bod yn gymorth chwalu rhwystrau a galluogi mynediad i deuluoedd lleol i’n gŵyl genedlaethol.

“Nid yn unig mae’r cynllun o gymorth i deuluoedd ar incwm is ond mae hefyd wedi galluogi agor drysau i deuluoedd sydd, o bosib, heb fynychu Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen.

"Mae e mor bwysig i ni, yn ein Heisteddfod Genedlaethol ni yma yn Rhondda Cynon Taf, ein bod ni gallu estyn croeso i gynifer o’n trigolion lleol ag sy’n bosib er mwyn iddynt brofi ein diwylliant unigryw a phrofi’r iaith Gymraeg yn iaith fyw sy’n rhan annatod o’n cymunedau yma’n y cymoedd.”

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac enillwyr gwobrau'r dydd.