Cymru 'wedi gwneud lot o ddysgu o gêm Awstralia'
Mae capten Cymru Dewi Lake yn gobeithio fod y garfan wedi dysgu o’u camgymeriadau yn y golled yn erbyn Awstralia y penwythnos diwethaf, cyn wynebu pencampwyr y byd De Affrica ddydd Sadwrn.
Mae’r crysau cochion wedi colli 11 gêm brawf yn olynol am y tro cyntaf yn eu hanes, ac mae’r pwysau yn cynyddu ar y prif hyfforddwr Warren Gatland.
Mae Gatland wedi gwneud pedwar newid i'w dîm, gyda Rio Dyer, Sam Costelow, Christ Tshiunza a Taine Plumtree yn dod i mewn i'r 15 sy'n dechrau.