Cyfres yr Hydref: Cymru yn colli yn erbyn Awstralia
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn dal i chwilio am fuddugoliaeth ar ôl colli eu hail gêm yng Nghyfres yr Hydref yn erbyn Awstralia o 20-52 yn Stadiwm Principality.
Mae'r canlyniad yn golygu fod tîm Warren Gatland wedi colli 11 gêm brawf o'r bron am y tro cyntaf erioed.
Er i Gymru frwydro'n ôl o ddechrau gwael, roedd y Wallabies yn gyfforddus trwy gydol y gêm wrth iddyn nhw sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd.
Fe fydd gêm nesaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn, 23 Tachwedd.
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd
Roedd hi'n ddechrau gwael i Gymru a oedd dan bwysau o'r funud gyntaf.
Ar ôl cyfnod estynedig ar y droed flaen, daeth cais cyntaf y Wallabies gan y cefnwr Tom Wright.
Aeth Awstralia ymlaen i fwynhau un o'u cyfnodau gorau o'r gêm, gyda dau gais a dau drosiad yn y 10 munud canlynol.
Gyda chwarter y gêm wedi'i chwarae, roedd Cymru ar ei hôl hi o 0-19.
Ond fe ymatebodd tîm Gatland yn gryf, ac aethent ymlaen i gipio'r momentwm am weddill yr hanner.
Aaron Wainwright oedd y cyntaf i daro'n ôl, gyda Gareth Anscombe yn sgorio'r trosiad.
Yna roedd Anscombe yn llwyddiannus gyda dwy gic gosb o fewn 10 munud wedi i Gymru ddechrau rheoli'r meddiant.
Daeth Awstralia'n ôl i'r gêm yn y munudau olaf, ond fe wnaeth y Cymry amddiffyn yn dda i gadw'r sgôr yn 13-19 ar yr egwyl.
Fe ddechreuodd Awstralia'r ail hanner fel y cyntaf, gyda chais gan Matt Faessler a Noah Lolesio yn llwyddiannus gyda'i ail drosiad o'r gêm.
Roedd y Cymry dan bwysau unwaith eto ac fe fanteisiodd Awstralia o fewn munudau gyda'r bachwr Faessler yn tirio am y trydydd tro.
Cafodd canolwr Awstralia Samu Kerevi gerdyn coch yn gynnar yn yr ail hanner am dacl beryglus ar Jac Morgan.
Roedd Gatland wedi gweld digon ac fe newidiodd hanner y tîm, gyda Ryan Elias, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Tommy Reffell, Sam Costelow ac Eddie James yn camu i'r maes.
Ond nid oedd hynny yn ddigon i newid momentwm y gêm, a gyda 20 munud i fynd roedd Awstralia ar y blaen o 13-40 ar ôl cais arall gan Wright a Lolesio'n dilyn gyda'r trosiad.
Fe wnaeth cais gan Ben Thomas a throsiad Costelow ei gwneud hi'n 20-40 ond roedd yr ymwelwyr yn ddigon cyfforddus erbyn hynny.
Aeth Awstralia ymlaen i osod record newydd am eu buddugoliaeth fwyaf erioed yng Nghaerdydd, gyda dau gais gan Len Ikitau a Wright i orffen y gêm.