Pedwar newid i dîm Cymru wrth i gwestiynau barhau am Gatland
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi gwneud pedwar newid i’r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn wrth i gwestiynau barhau am ei ddyfodol yn y swydd.
Mae Gatland wedi colli 11 gêm brawf yn olynol, sy'n record, a byddai colled arall yn golygu bod Cymru’n mynd blwyddyn galendr gyfan heb ennill prawf am y tro cyntaf ers 1937.
Mae pencampwyr y byd De Affrica yn ffefrynnau clir i’w gwneud yn saith buddugoliaeth yn yr wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Cymru.
Yn dilyn y golled o 20-52 yn erbyn Awstralia, mae'r asgellwr Rio Dyer, y maswr Sam Costelow, y clo Christ Tshiunza a'r wythwr Taine Plumtree yn dod i mewn i'r 15 sy'n dechrau.
Un newid safle yw Blair Murray, sy'n symud o'r asgell i safle'r cefnwr yn lle Cameron Winnett.
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Murray; Rogers, Llewellyn, B Thomas, Dyer; Costelow, Bevan; G Thomas, Lake (capt), Griffin, Rowlands, Tshiunza, Botham, Morgan, Plumtree.
Eilyddion: Elias, Smith, Assiratti, F Thomas, Reffell, R Williams, James, Hathaway.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd